Pryd allaf i ei dderbyn?

young student

Byddwch yn derbyn eich taliad Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) cyntaf unwaith y bydd eich ysgol neu’ch coleg yn cadarnhau eich bod wedi bod yn bresennol ar 2 wythnos o’ch cwrs. Byddwch yn derbyn taliadau bob tymor a fydd yn cael eu talu yn syth i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.

 

Y Ffurflen Gais

 

A wnaethoch chi dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad y llynedd?

 

Os wnaethoch chi dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad y llynedd a'ch bod yn symud ymlaen i'ch ail flwyddyn, byddwn yn anfon ffurflen gais yn syth i'ch cartref. Os na fyddwch yn ei derbyn yn y gwanwyn, cysylltwch â ni.

 

Dylid llanw ffurflenni cais a’u dychwelyd at Dîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid Cymru Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach).

 

Heb dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad y llynedd?

 

Ar gyfer cyrsiau a gynhelir rhwng 1 Medi 2009 a 31 Awst 2010, bydd ffurflenni ar gael tua’r gwanwyn.

 

Ar gyfer cyrsiau a gynhelir rhwng 1 Medi 2008 a 31 Awst 2009, mae ffurflen gais i'w chael o’ch ysgol neu’ch coleg, neu argraffwch un.