|
Gan ddibynnu ar eich oed, gallwch dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg am hyd at 3 blynedd. Rhaid i chi ymgeisio bob blwyddyn.
Y taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg wythnosol uchaf yw £30 a delir pob pythefnos. Byddwn yn edrych ar incwm blynyddol eich cartref er mwyn penderfynu faint y byddwch yn ei dderbyn.
Ni fydd taliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych chi neu’ch cartref eisoes yn eu derbyn.
a. Myfyrwyr dibynnol
Os ydych chi’n dibynnu ar eich rhiant/rhieni neu warcheidwad/gwarcheidwaid byddwn yn defnyddio eu hincwm i benderfynu faint o Lwfans Cynhaliaeth Addysg y gallwch ei dderbyn.
b. Myfyrwyr annibynnol
Rydych chi’n fyfyriwr annibynnol os:
• ydych chi wedi’ch dieithrio o’ch rhiant/rhieni neu warcheidwad/gwarcheidwaid ac NAD ydych chi’n byw o dan ofal yr Awdurdod Lleol; • ydych chi'n byw o dan ofal yr Awdurdod Lleol, er enghraifft gyda rhieni maeth; • ydych chi’n derbyn cymhorthdal incwm yn eich enw eich hun; • ydych chi’n gyfrifol am eich plentyn eich hunan; neu • ydych chi yn y ddalfa mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.
Os ydych chi’n annibynnol, mae incwm eich cartref yn golygu eich incwm ynghyd ag unrhyw bartner yr ydych chi’n byw gydag ef/hi. Byddwn yn defnyddio hyn i benderfynu faint o Lwfans Cynhaliaeth Addysg y gallwch chi ei dderbyn.
Os ydych chi’n gweithio’n rhan amser, ni fyddwn yn cyfrif hyn wrth edrych ar incwm eich cartref.
Faint y gallech chi ei dderbyn gyda’n cyfrifianellau:
Cyfrifiannell ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi 2008 Cyfrifiannell ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi 2009
Cyrsiau sy’n dechrau rhwng 1 Medi 2008 a 31 Awst 2009:
Dyma’r incymau cartref a’r symiau y gallech chi eu derbyn:
Cyrsiau sy’n dechrau rhwng 1 Medi 2009 a 31 Awst 2010:
Dyma’r incymau cartref a’r symiau y gallech chi eu derbyn:
| Incwm Blynyddol y Cartref |
Lwfans Cynhaliaeth Addysg Wythnosol |
Taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg bob pythefnos |
| Hyd at £21,885 |
£30 |
£60 |
| £21,886 - £26,840 |
£20 |
£40 |
| £26,841 - £32,400 |
£10 |
£20 |
| £32,400 a throsodd |
£0 |
£0 |
Ynghyd â lwfans wythnosol, mae’n bosib y byddwch hefyd yn derbyn taliadau bonws o £100, hyd at 3 gwaith y flwyddyn.
Bydd y taliadau yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, felly mae’n rhaid i chi gael un o’r rhain cyn ymgeisio am Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Er mwyn agor cyfrif banc dylech siarad â banc lleol, neu eich rhieni neu’ch gwarcheidwaid am gymorth. Cofiwch, rhaid i’r cyfrif allu derbyn credydau uniongyrchol.
Os na allwch agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn eich enw eich hun, cofiwch gysylltu â ni.
|