|
Sut y gallaf i dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg?
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn gymwys rhaid i chi:
• feddwl ynghylch pa gwrs y dymunwch ei astudio a ble yr ydych chi eisiau
astudio;
• sefydlu cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu os nad oes gennych chi un eisoes;
• llanw'r ffurflen gais;
• aros am lythyr yn dweud eich bod yn cael eich derbyn i'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg;
• lofnodi Cytundeb Dysgu gyda’ch ysgol neu’ch coleg.
Byddwch yn derbyn taliadau pan fyddwn yn derbyn cadarnhad gan eich coleg eich bod yn mynychu.
Os na dderbynnir eich cais fe anfonir llythyr atoch yn nodi’r rhesymau.
Eich cwrs
Os yw eich oed a’ch incwm cartref yn golygu y gallwch dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg, rhaid i chi sicrhau bod eich cwrs yn gymwys.
Mae’n rhaid i chi ddechrau neu aros mewn ysgol neu goleg cyfrannog yng Nghymru, ar gwrs sy’n:
• academaidd neu gwrs galwedigaethol hyd at a chan gynnwys Lefel 3, a;
• llawn amser yn yr ysgol, neu;
• isafswm o 12 awr wedi'u harwain yn y coleg.
Ymhlith y cyrsiau academaidd a galwedigaethol cymwys y mae TGAU, Lefel A, BTEC, NVQ, GNVA a chyrsiau Sgiliau Sylfaenol. Rhaid iddynt bara o leiaf 10 wythnos.
Nid oes yn rhaid i chi wybod pa gwrs yn union y byddwch yn ei astudio wrth ymgeisio, ond rhaid i'r cwrs fod yn 'gymwys'.
Os byddwch yn newid eich ysgol neu’ch coleg, rhaid i chi ddweud wrth Dîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Edrychwch yma am wybodaeth ar sut i gysylltu â ni.
Y Ffurflen Gais
A wnaethoch chi dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llynedd?
Os gwnaethoch chi dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llynedd a'ch bod yn symud ymlaen i'ch ail flwyddyn, byddwn yn anfon ffurflen gais yn syth i'ch cartref. Os mai dyma fydd eich 3edd neu’ch 4edd flwyddyn o dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg, byddwn yn anfon llythyr atoch chi. Os na fyddwch yn ei dderbyn yn y gwanwyn, cysylltwch â ni.
Dylid llanw ffurflenni cais a’u dychwelyd at Dîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid Cymru Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Am fanylion ar sut i ymgeisio, ewch i Pa bryd y gallaf ei dderbyn?
Heb dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llynedd?
Ar gyfer cyrsiau a gynhelir rhwng 1 Medi 2009 a 31 Awst 2010, bydd ffurflenni ar gael tua’r gwanwyn.
Ar gyfer cyrsiau a gynhelir rhwng 1 Medi 2009 a 31 Awst 2010, mae ffurflen gais i'w chael o’ch ysgol neu’ch coleg, neu argraffwch un.
Ffurflen Gais Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyer 09/10 (2783kB)
Cofiwch ddarllen y Nodiadau Arweiniad.
Nodiadau arweiniad ar gyfer cais Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer 09/10 (1531kB)
Ar gyfer cyrsiau a gynhelir rhwng 1 Medi 2008 a 31 Awst 2009, bydd ffurflenni ar gael tua’r gwanwyn.
Ar gyfer cyrsiau a gynhelir rhwng 1 Medi 2008 a 31 Awst 2009, mae ffurflen gais i'w chael o’ch ysgol neu’ch coleg, neu argraffwch un.
Ffurflen Gais Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyer 08/09 (665kB)"
Cofiwch ddarllen y Nodiadau Arweiniad.
Nodiadau arweiniad ar gyfer cais Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer 08/09 (2202kB) Bydd ein harddangosiadau ar-lein yn eich helpu i'w llanw.
Dylai ffurflenni cais gael eu llenwi a’u dychwelyd i Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Lwfans Cynhaliaeth Addysg Cymru. I gael gwybod pryd i ymgeisio, ewch i Pryd allaf i ei dderbyn?.
|