|
Gallwch ddechrau derbyn taliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg cyn gynted ag y byddwch yn dechrau eich cwrs, cyhyd â'ch bod yn:
• ymgeisio ar amser;
• cytuno ac yn llofnodi Cytundeb Dysgu gyda’ch ysgol neu’ch coleg;
• ac yn bodloni eich gofynion presenoldeb.
Unwaith y byddwn yn cymeradwyo eich cais bydd angen i'ch ysgol neu’ch coleg gadarnhau eich bod wedi mynychu. Yna bydd taliadau yn cael eu gwneud i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu bob pythefnos.
Pa Bryd y Dylwn i Ymgeisio?
Ar gyfer cyrsiau a gynhelir rhwng 1 Medi 2008 a 31 Awst 2009.
Yn Syth! Dylid dychwelyd eich ffurflen gais cyn gynted â phosibl cyn dechrau’r flwyddyn academaidd. Mae blwyddyn academaidd yn rhedeg rhwng 1 Medi a 31 Awst.
Os gwnaethoch chi ymgeisio ar ôl dechrau eich tymor ym mis Medi, weithiau gellir gwneud ôl-daliadau:
• Os gwnaethom dderbyn eich caip>
• Os gwnaethom dderbyn eich cais ar ôl 31 Hydref 2008, byddwch yn dechrau derbyn taliadau yn ystod yr wythnos lawn gyntaf ar ôl inni dderbyn eich ffurflen.
Am wybodaeth ar sut i ymgeisio, edrychwch ar Sut y gallaf dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg?
Ar gyfer cyrsiau a gynhelir rhwng 1 Medi 2009 a 31 Awst 2010, Rhaid i ni dderbyn eich ffurflen erbyn 31 Awst 2010 o leiaf.
Dylech ymgeisio cyn gynted ag y bydd y ffurflenni ar gael. Dylai hyn fod yn y gwanwyn.
Os wnaethoch dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llynedd dylech geisio dychwelyd eich ffurflen cyn mis Mehefin 2009. Ni allwch fyth ymgeisio yn rhy gynnar ond fe allwch ymgeisio’n rhy hwyr.
Os na dderbynnir eich ffurflen o fewn 8 wythnos i ddechrau eich cwrs, hwyrach y byddwch yn colli’r ôl-daliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
Cytundeb Dysgu
Os cewch eich derbyn ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg, unwaith y byddwch yn dechrau eich cwrs, rhaid i chi lofnodi Cytundeb Dysgu gyda rhywun o’ch ysgol neu’ch coleg. Mae’r Cytundeb Dysgu hwn yn ymdrin â phob rheol presenoldeb a pherfformiad a amlinellir gan eich ysgol neu goleg. Rhaid i chi fodloni’r rhain er mwyn derbyn eich lwfans wythnosol a bonysau.
Taliadau Bonws
Fe allech chi dderbyn dau fath o fonws.
Os byddwch yn cyflawni’ch amcanion dysgu byddwch yn derbyn taliadau bonws perfformiad. Fel arfer bydd y rhain yn cael eu talu ym mis Ionawr a Gorffennaf, unwaith y bydd eich ysgol neu’r coleg yn cadarnhau eich bod yn bodloni'r amodau hyn.
Os gwnaethoch chi dderbyn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg y llynedd, a’ch bod yn dychwelyd i'r ysgol neu'r coleg am ail neu drydedd flwyddyn ac yn parhau yn gymwys ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg, fe allech chi dderbyn bonws pellach.
|