Beth yw Grant Dysgu’r Cynulliad ?

group of students

Pwy all dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad?


Er mwyn derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn.


 
Golyga hyn os ydych chi’n astudio yn y flwyddyn academaidd 2008/2009 rhaid i’ch dyddiad geni fod ar 1 Medi 1989 neu cyn hynny.

 


Os ydych chi’n astudio yn y flwyddyn academaidd 2009/2010 rhaid i’ch dyddiad geni fod ar 1 Medi 1990 neu cyn hynny.


 
*Mae blwyddyn academaidd yn cyfeirio at y dyddiadau arferol y mae ysgolion a cholegau yn rhedeg eu cyrsiau rhyngddynt. Mae blwyddyn academaidd yn dechrau ar 1 Medi ac yn gorffen ar 31 Awst.


 
Eich Cwrs


Rhaid i’ch cwrs fod yn 275 awr o leiaf er mwyn i chi dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach), fod yn goleg, ac yn arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Rhaid i’ch cwrs fod yn ‘gymwys’ er mwyn i chi dderbyn Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach). Mae llawer o gyrsiau y gallech chi eu hastudio, a derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach), megis:

 

• TGAU;
• Lefel ‘A’ neu ‘AS’;
• Cyrsiau BTEC, GNVQ, NVQ;
• Cyrsiau Sgiliau Sylfaenol

 

Am ragor o wybodaeth ynghylch cyrsiau, ewch i Sut allaf i dderbyn Grant Dysgu'r Cynulliad?

 

Adborth

 

Beth yw'ch barn? A oes gennych syniad? Mynegwch eich barn ar y wefan hon trwy ateb ein harolwg