Oriau Agor y Pasg
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)? Ydych chi"n aros ymlaen yn yr ysgol neu"r coleg?
newyddion - mwy...
Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
 

Cynllun Bwrsariaeth Cymru


Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a hoffai wybod mwy am y pecyn cymorth ariannol ychwanegol sy’n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar ffurf dyfarniadau bwrsari o brifysgolion a cholegau yng Nghymru.

O fis Medi 2007, mae colegau a phrifysgolion yng Nghymru, sy’n codi ffioedd hyblyg, wedi ymrwymo i roi cymorth ychwanegol i fyfyrwyr o dan Gynllun Bwrsariaeth Cymru newydd.

Os ydych yn fyfyriwr addysg uwch amser llawn newydd a ddechreuodd gwrs addysg uwch yng Nghymru ar neu ar ôl mis Medi 2006, ni waeth o ble y dewch yn y DU, fe gewch eich ystyried am Fwrsari Cenedlaethol Cymru, sy’n destun prawf modd (asesiad incwm), gan eich sefydliad. Ym Mlwyddyn Academaidd 2007/08, gosodir y dyfarniad hwn yn £305. Mae'r dyfarniad wedi codi i £310 ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2008/09. Caiff y dyfarniad hwn ei weinyddu a’i dalu gan brifysgolion a cholegau sy’n cymryd rhan yng Nghynllun Bwrsariaeth Cymru.

Efallai hefyd y bydd sefydliadau unigol yn cynnig dyfarniadau bwrsari ac ysgoloriaeth ychwanegol neu fwy. Gofynnwch i’ch prifysgol neu goleg dethol am fanylion pellach, neu defnyddiwch y cysylltiadau isod i gael gwybod mwy.