Oriau Agor y Pasg
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)? Ydych chi"n aros ymlaen yn yr ysgol neu"r coleg?
newyddion - mwy...
Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
 

Sut gallaf i gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru?


Rhieni a phartneriaid: cael caniatâd i drafod cyfrif myfyriwr

Rhaid i'r myfyriwr roi ei ganiatâd cyn y gallwch drafod eu cais am gyllid dros y ffôn.

Sicrhau caniatâd i rannu gwybodaeth y myfyriwr.

Os byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein, gallwch:

  • anfon neges e-bost at Gyllid Myfyrwyr Cymru diweddaru eich manylion personol
  • sgwrsio gyda chynghorydd ar-lein
  • gweld unrhyw lythyron gan Gyllid Myfyrwyr Cymru
  • gweld unrhyw daliadau yr ydych chi wedi’u derbyn

Efallai y gwelwch ateb i’ch cwestiwn ar-lein trwy ein Cwestiynau Cyffredin

Dros y ffôn

Er y byddwn yn ymdrechu i ateb eich holl ymholiadau mor gyflym ac effeithiol â phosibl, hwyrach y bydd oedi wrth ateb eich galwad.

Ffôn 0845 602 8845
Minicom 0845 603 1693
(Rhaid bod gennych fynediad at ddyfais Minicom er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn).

Oriau agor yw:
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.00 am i 8.00 pm
Dydd Sadwrn, 9.00 am i 1.00 pm
Dydd Sul, ar gau

Ymholiadau ynghylch ad-dalu eich benthyciadau
Ffôn
0870 240 6298
Oriau agor yw:
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 08:00am - 5:30pm
Dydd Sadwrn a Dydd Sul, ar gau

Ymholiadau ynghylch ad-dalu


Mae’r wefan Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr yn eich galluogi i gyfrifo faint sydd arnoch a gwneud taliad ar-lein

Ffôn0870 240 6298
Yr oriau agor yw:
Dydd Llun i Ddydd Gwener 08:00am i 5:30pm
Dydd Sadwrn a Dydd Sul, ar gau

Ar-lein


Negeseuon Diogel – Gofynnwch gwestiwn

Pan fyddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein gallwch anfon neges ddiogel at y Swyddfa Gwasanaethau i Gwsmeriaid trwy glicio ar y cyswllt ‘Gofynnwch Gwestiwn’.

Rhowch eich Adborth i Ni

Nodwch na allwn ymateb i gwynion neu ymholiadau penodol yn ymwneud â chyfrif trwy arolwg adborth y safle hwn. Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â ni trwy’r ffôn neu cewch fewngofnodi i’ch cyfrif ac anfon neges trwy’r cyswllt‘Gofynnwch gwestiwn’.

Mae’ch adborth yn rhan bwysig o wneud gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru yn well. Os dymunwch roi adborth i ni yna llanwch ein holiadur..

Addysg Bellach


Grant Dysgu’r Cynulliad

Ffôn 0845 602 8845
Minicom 0845 603 1693
Yr oriau agor yw
Dydd Llun i Ddydd Gwener: 8:00am - 8:00pm
Dydd Sadwrn 9:00am - 1:00pm.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Ffôn 0845 602 8845
Minicom 0845 603 1693
Yr oriau agor yw
Dydd Llun i Ddydd Gwener: 8:00am - 8:00pm
Dydd Sadwrn9:00am - 1:00pm.

Eich Awdurdod Lleol


Dychwelyd Eich Ffurflenni Wedi’u Llanw

Cyflwynir yr holl geisiadau yng Nghymru i Awdurdodau Lleol. Er mwyn dod o hyd i'ch Awdurdod Lleol a’u manylion cyswllt gweler Rhestr Awdurdodau Lleol..

Eich Awdurdod Lleol


Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnig gwybodaeth a gwasanaethau i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru. Ymgeisio am Gyllid Myfyrwyr os nad yw’ch cartref yng Nghymru. .

A allaf i wneud cwyn?


Os oes gennych broblem gyda’ch cais cyllid myfyrwyr neu eich cyfrif benthyciad i fyfyrwyr, gallwch ddadlwytho’r PDF(354kb) "Sut i wneud cwyn” a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.

Sylwer nad yw’r manylion cyswllt cwynion wedi’u cynllunio i brosesu ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â chyfrifon a gallai oedi fod wrth ymateb os byddwch yn cysylltu â ni gan ddefnyddio'r trywydd hwn. Os oes gennych ymholiad cyffredinol gweler y manylion cyswllt uchod ar gyfer ein swyddfeydd.

Mae rhagor o gysylltiadau defnyddiol ar ein Tudalen Cysylltiadau Defnyddiol.

Siarter Wybodaeth


Mae’ch preifatrwydd yn bwysig i ni.  Efallai y bydd angen i ni drafod gwybodaeth bersonol amdanoch er mwyn i ni allu cynnig gwasanaethau i chi.  Bwriad y siarter hon yw rhoi hyder i chi o ran diogelwch y wybodaeth honno trwy esbonio’r hyn rydym yn ei wneud â hi.


Os gofynnwn i chi am wybodaeth bersonol, rydym yn addo:


• dweud wrthych pam y mae arnom ei hangen;
• gofyn am yr hyn y mae arnom ei hangen yn unig;
• gofalu amdani a sicrhau mai dim ond y sawl gydag angen gwirioneddol i’w gweld fydd yn gallu mynd ati;
• rhoi gwybod i chi pan gaiff gwybodaeth ei rhannu rhwng sefydliadau er mwyn rhoi gwell gwasanaethau i chi – ac i roi cyfle i chi ddweud na i hyn lle y gallwn;
• gwneud yn siŵr nad ydym yn ei chadw’n hwy na’r hyn sy’n angenrheidiol; a
• pheidio â gwneud eich gwybodaeth bersonol ar gael at ddefnydd masnachol heb eich caniatâd.

O ganlyniad, gofynnwn i chi:


• roi gwybodaeth gywir i ni; a
• rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau, fel cyfeiriad newydd, cyn gynted â phosibl.
Mae hyn o gymorth i ni gadw’ch gwybodaeth yn ddibynadwy ac yn ddiweddar.

Gallwch gael mwy o fanylion ar:


• sut i ddarganfod pa wybodaeth sydd gennym arnoch a sut i ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau;
• cytundebau sydd gennym gyda sefydliadau eraill ar gyfer rhannu gwybodaeth;
• amgylchiadau lle gallwn drosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol heb ddweud wrthych, er enghraifft er mwyn atal a chanfod troseddau, i lunio ystadegau dienw, neu lle y mae awdurdod perthnasol yn gofyn i ni wneud hynny;
• ein cyfarwyddiadau i staff ar sut i gasglu, defnyddio a dileu’ch gwybodaeth bersonol;
• sut rydym yn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth yn ein meddiant yn gywir ac yn ddiweddar; a
• sut i wneud cwyn am sut rydym yn dal neu’n defnyddio’ch gwybodaeth.


Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, ynghyd â’r Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau, a sefydliadau partner, wedi llofnodi i’r egwyddorion ar y cyd hyn ar gyfer trafod eich gwybodaeth.


I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r:
Data Protection Officer
The Student Loans Company Ltd
100 Bothwell Street
Glasgow
G2 7JD
dataprotection@slc.co.uk

Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 1998. I gael cyngor annibynnol ar faterion diogelu data, preifatrwydd a rhannu data, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.  Ffôn: 08456 30 60 60 neu 01625 54 57 45 Ffacs: 01625 524510 Gwefan: www.ico.gov.uk