Tramor


Os ydych yn gweithio, neu’n bwriadu gweithio, y tu allan i’r DU

Byddwch yn gwneud ad-daliadau’n uniongyrchol i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Bydd angen i chi roi tystiolaeth o’ch incwm i ni er mwyn i ni bennu amserlen ad-dalu i chi. Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â ni cyn i chi adael y DU – gan roi cymaint o rybudd ymlaen llaw â phosibl.

Bydd y ffurflen hon yn eich galluogi i roi manylion eich amgylchiadau a darpar incwm i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr:

Sylwer: Rhaid i chi nodi eich enw, cyfeiriad cyfredol a rhif yswiriant gwladol - fel arall ni fyddwn yn gallu prosesu eich ffurflen.

Ffurflen asesu incwm tramor (57kb).

Nodiadau arweiniad asesu incwm tramor (61.6kb).

Mae prisiau a chyflogau’n amrywio rhwng gwledydd gwahanol, felly os symudwch dramor, ni fydd y trothwy ad-dalu o reidrwydd yr un fath ag ar gyfer trigolion y DU.

Fodd bynnag, byddwch yn parhau i ad-dalu 9% o’ch enillion dros y trothwy ad-dalu ar gyfer y wlad byddwch yn byw ynddi.

Gallwch ddefnyddio’r tabl hwn ar safle’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr fel canllaw bras i’r trothwyon talu ar gyfer gwledydd gwahanol:-

Trothwyon ad-dalu ar gyfer gwledydd gwahanol

Cyn i chi ddechrau ad-dalu

Os ydych yn gweithio dramor ac yn rhoi gwybod i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn hyn o beth, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch i gadarnhau a oes ad-daliadau i’w talu a, lle bo’n berthnasol, beth yw’r ad-daliad pob mis. Os na fyddwn yn cael y wybodaeth hon byddwn yn gofyn i chi roi manylion eich incwm i ni. Byddwn yn gofyn i chi hefyd wneud ad-daliadau’n uniongyrchol i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a byddwn yn eich helpu i drefnu hyn. Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni am eich amgylchiadau, mae’r Rheoliadau perthnasol yn nodi y gallech fod yn destun cosbau.

Ar ôl blwyddyn, bydd ffurflen ailasesu a llythyr yn cael eu hanfon atoch yn awtomatig, gan gymryd eich bod yn parhau i fyw tramor. Mae’n bwysig nodi os byddwch yn dychwelyd i’r DU heb roi gwybod i ni, gallech orfod parhau i wneud ad-daliadau trwy ddebyd uniongyrchol fel Ad-dalwr Tramor a thrwy PAYE os byddwch yn dod o hyd i waith yn y DU.

Os byddwch y tu allan i’r DU am lai na thri mis

Byddwch yn parhau i gael eich trin fel trethdalwr y DU. Bydd eich manylion yn cael eu cyfeirio at Gyllid a Thollau EM (CThEM) (Cyllid y Wlad gynt) er mwyn gwneud yr archwiliadau perthnasol i ddechrau didyniadau ad-dalu trwy system dreth y DU.

Os byddwch yn dychwelyd i’r DU am lai na thri mis

Byddwch yn parhau i gael eich trin fel Ad-dalwr Tramor. Fodd bynnag, os bydd eich amser yn y DU yn fwy na thri mis, bydd y trefniant ad-dalu presennol yn dod i ben a bydd eich statws yn dychwelyd i statws trethdalwr y DU. Bydd eich manylion yn cael eu cyfeirio at CThEM er mwyn gwneud yr archwiliadau perthnasol i ddechrau didyniadau ad-dalu trwy system dreth y DU.

Os bydd eich incwm yn newid tra byddwch chi dramor

Efallai eich bod chi eisoes yn gwneud ad-daliadau tuag at Fenthyciad Dibynnol ar Incwm tra byddwch dramor, ar ôl sefydlu a chytuno ar amserlen ad-dalu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr pan fydd eich incwm yn codi neu’n gostwng. Os digwydd hyn, dylech gysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr er mwyn i’r ad-daliadau angenrheidiol gael eu hailasesu.

Gwneud taliadau trwy drosglwyddiad banc rhyngwladol

Dyma fanylion banc y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr: Cod Didoli - 835200 a Rhif y Cyfrif yw 00676345. Er mwyn gwneud taliadau o gyfrif banc rhyngwladol bydd arnoch angen Rhif Cyfrif Banc Rhyngwladol (IBAN) a Chod Adnabod Banc (BIC) y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr:-

IBAN - GB41RBOS83520000676345

BIC - RBOSGB2L

Sylwch y dylid defnyddio’r DDAU god hyn. Bydd angen i chi hefyd ddyfynnu cyfeirnod eich benthyciad neu’ch ART ID i wneud tâl llwyddiannus. Efallai y codir ffi trafod gan y banc sy’n anfon y tâl a’r banc sy’n ei dderbyn – cysylltwch â’ch banc i gael mwy o wybodaeth.

Gyda phwy i gysylltu

Os ydych yn Ad-dalwr Tramor ac am gael unrhyw wybodaeth neu gymorth ynglŷn â’ch cyfrif benthyciad, gallwch ffonio 0141 306 2000, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:30, neu ysgrifennwch at Student Loans Company Ltd., 100 Bothwell Street, Glasgow, G2 7JD

dramor, llwythwch ein ffurflen ad-dalu dramor i lawr