|
Ad-dalu Amodol ar Incwm os ydych yn Hunanasesiad
Ad-dalu trwy Hunanasesiad
Os ydych yn cyfrifo’ch ffurflen dreth trwy Hunanasesiad, oherwydd eich bod yn hunangyflogedig neu am fod gennych incwm o fuddsoddiad er enghraifft, bydd angen i chi gyfrifo’ch didyniadau Benthyciad Myfyriwr o’ch enillion. Wedyn, dylech anfon y symiau perthnasol ar ddiwedd y flwyddyn dreth pan fyddwch yn cyflwyno’ch ffurflen dreth i Gyllid a Thollau EM (HMRC) (Cyllid y Wlad yn flaenorol). Bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth i ddweud wrth yr HMRC am eich elw a’ch treuliau. Trwy hyn, byddant yn cyfrifo’ch treth, Yswiriant Gwladol a’ch ad-daliadau benthyciad myfyriwr ar gyfer y flwyddyn. Wedyn, bydd HMRC yn gofyn i chi wneud eich ad-daliadau ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Bydd HMRC yn gwneud y cyfrifiadau i chi os byddwch yn anfon eich ffurflen dreth i mewn cyn 30 Medi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich didyniadau Hunanasesu, cysylltwch â’ch swyddfa dreth leol, y gellir dod o hyd i’r manylion yn y tudalennau melyn o dan Swyddfeydd y Llywodraeth. Yn ogystal, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan HMRC ynhttp://www.hmrc.gov.uk/
Os ydych yn talu trwy PAYE a Hunanasesiad
Os ydych yn gweithio i gyflogwr, ond yn hunangyflogedig hefyd, yn destun treth ar gyfradd uwch neu os oes gennych incwm heb ei ennill o stociau, cyfranddaliadau a chynilion etc, bydd angen i chi gyfrifo unrhyw ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr sy’n ddyledus trwy Hunanasesiad yn ogystal ag unrhyw ad-daliadau a gaiff eu tynnu trwy’r cynllun Talu wrth Ennill.
Os byddwch yn symud o Hunanasesiad i PAYE
Os ydych yn hunangyflogedig ond wedyn yn dechrau gweithio i gyflogwr, bydd HMRC yn eich bilio am y flwyddyn gyfan.
Pryd bydd yr ad-daliadau yn dod i ben
Os hoffech amcangyfrif pryd byddwch yn gorffen ad-dalu’ch benthyciadau myfyriwr, yn enwedig os yw eich datganiad blynyddol yn nodi ei fod yn debygol o fod yn y flwyddyn ariannol hon, gall y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ddarogan pryd y mae disgwyl i chi gwblhau’r ad-daliadau. Ysgrifennwch atom gan amgáu eich cofnodion treth perthnasol, a bydd y cyfrifiad yn cael ei wneud i chi.
|