|
Y drefn ad-dalu safonol
Mae ad-daliad y benthyciad i ddigwydd ym mis Ebrill o’r flwyddyn ar ôl i ddeiliad cyfrif y benthyciad naill ai orffen neu adael y cwrs. Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (y mae Student Finance Direct yn bartner iddo sy’n rhoi’r gwasanaeth ar waith) yn cynghori Cyllid a Thollau EM (HMRC) (Cyllid y Wlad gynt) ei bod yn amser ad-dalu’r benthyciad. Yn eu tro, byddant hwy yn hysbysu cyflogwr deiliad cyfrif y benthyciad i dynnu ad-daliadau ar gyfradd o 9% o unrhyw incwm gros a enillwyd sy’n fwy na £15,000 y flwyddyn, £1250 y mis neu £288 yr wythnos.
Bydd deiliaid cyfrif benthyciad sydd yn y DU ac yn hunangyflogedig yn gwneud ad-daliadau trwy eu ffurflen dreth HMRC.
Os bydd deiliad cyfrif yn byw dramor ac yn gweithio y tu allan i system dreth y DU, byddant yn ad-dalu’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn uniongyrchol.
Sut y cyfrifir llog Bydd y gyfradd llog ar gyfer Benthyciadau Myfyrwyr yn gymwys o 1 Medi i 31 Awst bob blwyddyn. Ychwanegir llog at fenthyciadau myfyrwyr sy’n gysylltiedig â chyfradd chwyddiant yn unol â Mynegai Prisiau Adwerthu. Mae hyn yn golygu, mewn termau real, y bydd y swm a ad-delir tua’r un gwerth â’r swm a fenthyciwyd ac ni wneir unrhyw elw ar y benthyciad ei hun. Ychwanegir llog at y benthyciad nes i’r benthyciad gael ei ad-dalu’n llawn.
Y gyfradd llog bresennol yw 1.5%.
Ad-daliadau gwirfoddol a gorffen talu’n gynnar Gall deiliad cyfrif benthyciad myfyrwyr orffen talu’n gynt trwy wneud ad-daliadau gwirfoddol yn uniongyrchol i ni, p’un a yw eu hincwm yn uwch na’r trothwy ad-dalu ai peidio. Gallwch wneud ad-daliadau ychwanegol ar eu rhan hefyd, ar yr amod eu bod wedi rhoi caniatâd i Gwmni Benthyciadau Myfyrwyr siarad â chi ynglŷn â’u cyfrif. Ceir manylion am roi’r caniatâd hwn ar hafan Student Finance Direct. Os byddwch yn dewis gwneud ad-daliadau gwirfoddol, bydd y rhain yn ychwanegol at unrhyw daliadau a gesglir drwy’r system dreth. Ni ostyngir unrhyw ad-daliadau sy’n berthnasol i incwm yn y dull hwn, ond gorffennir talu am y benthyciad yn gynt trwy wneud taliadau ychwanegol. Taliadau gwirfoddol o £5 neu fwy a dderbynnir yn unig.
Gellir gwneud taliad llawn a therfynol i glirio swm y benthyciad ar unrhyw adeg heb gosb am ad-dalu’n gynnar. Os hoffech dalu swm llawn y benthyciad ar ran deiliad cyfrif benthyciad, dylent gysylltu â ni er mwyn cael gwybod beth yw’r cyfanswm sydd i’w dalu. Os ydych am gael gwybod beth yw’r cyfanswm sydd i’w dalu ar eu rhan, rhaid i chi drefnu iddynt roi caniatâd i ni siarad â chi am eu cyfrif yn gyntaf. Yna dylech ein ffonio ni ar 0870 240 6298 i gael y cyfanswm i setlo’r benthyciad. Mae’r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9 o’r gloch y bore a 5.30 o’r gloch y prynhawn.
Gallwch wneud ad-daliadau gwirfoddol neu daliadau i setlo’r benthyciad trwy ddefnyddio’r dulliau canlynol:
- SIEC neu ARCHEB POST: ysgrifennwch y rhif cyfeirnod myfyrwyr (Rhif Cymorth Myfyrwyr neu ART ID) ar gefn eich siec neu’ch archeb post a’i anfon yn uniongyrchol at: Finance Department, Student Loans Company Ltd., 100 Bothwell Street, Glasgow, G2 7JD
- CERDYN DEBYD (Switch, Maestro, Solo, Delta): ffoniwch ymgynghorydd cwsmeriaid ar 0870 240 6298, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8 o’r gloch y bore a 5.30 o’r gloch y prynhawn.
- CREDYD GIRO BANC: ffoniwch ymgynghorydd cwsmeriaid i ofyn am lyfr talu i mewn.
- DEBYD UNIONGYRCHOL: ffoniwch ymgynghorydd cwsmeriaid ar 0870 240 6298, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8 o’r gloch y bore a 5.30 o’r gloch y prynhawn
- ARCHEB SEFYDLOG: llenwch y ffurflen archeb sefydlog, ei hargraffu a’i hanfon i’ch banc.
Ffurflen Archeb Sefydlog
Mwy o Wybodaeth
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ad-dalu benthyciadau myfyrwyr yn yr arweinlyfr ‘Benthyciadau Myfyrwyr: Canllaw i Delerau ac Amodau’, y gellir ei lwytho i lawr o’n tudalen ffurflenni a chanllawiau
|