Beth yw cost addysg uwch?


Bydd nifer o ffactorau ar waith wrth amcangyfrif cost eich addysg uwch.

Bydd y gost i chi a’ch teulu yn dibynnu ar eich cwrs, y sefydliad ac incwm y cartref. Ers 2006/07, mae Prifysgolion a cholegau’n gallu codi gwahanol ffioedd am wahanol gyrsiau. Fodd bynnag, er bod disgwyl efallai i chi gyfrannu tuag at eich ffioedd dysgu, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu benthyciad ar gyfer ffioedd sy’n golygu nad oes angen i chi dalu eich ffioedd ymlaen llaw. Gellir ad-dalu’r benthyciad wedyn ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau.

Mae Benthyciadau myfyrwyr ar gael i’ch helpu gyda’ch costau byw. Caiff y benthyciad ei asesu ar sail incwm, sy’n golygu ei fod yn dibynnu ar incwm eich cartref. Gall y swm y gallwch ei fenthyg ddibynnu hefyd ar swm Grant Dysgu’r Cynulliad a ddyfarnwyd i chi.

Mae pob benthyciad i fyfyrwyr yn cronni llog sy’n gysylltiedig â’r gyfradd chwyddiant yn unol â’r Mynegrif Prisiau Adwerthol. Mae mwy o wybodaeth am gronni llog i’w gweld yn yr adran o’r enw ,b>Beth, Pryd a Sut y byddaf yn ad-dalu?

Mae hefyd nifer o grantiau y gallech fod yn gymwys i wneud cais amdanynt.

Mae hawl i grantiau a benthyciadau yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant, ac mae eich Awdurdod Lleol yn asesu eich cymhwyster ar sail eich incwm ac incwm eich cartref. Edrychwch ar yr adran o’r enw Pa Gymorth sydd Ar Gael Eleni? am wybodaeth bellach.

Ar gyfartaledd, mae graddedigion yn ennill cyflog llawer uwch na phobl â chymwysterau Safon Uwch na aethant i’r brifysgol. Pan ystyrir hyn dros oes o weithio, mae’r gwahaniaeth yn rhywbeth tebyg i £120,000 yn ôl y prisiad cyfredol.

Mae’n debygol mai addysg uwch yw’r buddsoddiad gorau a wnewch chi yn eich bywyd.

Ble i ymgeisio

Os yw eich cartref yng Nghymru

Ymgeisio am gyllid myfyrwyr os yw eich cartref yng Nghymru.

Os yw eich cartref yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Ymgeisio am gyllid myfyrwyr os yw eich cartref y tu allan i Gymru.