Oriau Agor y Pasg
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)? Ydych chi"n aros ymlaen yn yr ysgol neu"r coleg?
newyddion - mwy...
Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
 

Sut i Wneud Cais Ar-lein


Ar hyn o bryd mae ein gwasanaethau ar-lein yn cynnig ceisiadau ar gyfer y flwyddyn Academaidd 07/08. O’r 20fed o Chwefror ni fydd ar gael mwyach ac o’r 12fed Mawrth byddwn yn cynnig ceisiadau ar gyfer 08/09.
Ar gyfer llawer o Brifysgolion yn y DU, bydd y Flwyddyn Academaidd yn dechrau yn yr hydref. Mae cais 08/09 ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau yn 2008.

Dyma ganllaw i wneud cais ar-lein os ydych chi’n fyfyriwr sy’n parhau. Mae gwybodaeth ar gael hefyd i fyfyrwyr newydd sy’n gwneud cais ar-lein a noddwyr sy’n cefnogi cais ar-lein.

Cam Un: Mewngofnodi

Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n parhau, bydd gennych eisoes y manylion diogelwch y mae eu hangen arnoch i mewngofnodi i’ch cyfrif Cyllid Myfyrwyr Cymru ar-lein. O’ch cyfrif fe allwch wneud cais am gymorth i fyfyrwyr a chynnal manylion eich cyfrif.

Mewngofnodi i fy nghyfrif

Er mwyn mewngofnodi mae angen eich manylion diogelwch arnoch:

ART ID
Rhif un digid ar ddeg unigryw yw eich ART ID a ddefnyddir i’ch adnabod pan fyddwch yn mewngofnodi i’n gwefan neu pan fyddwch yn cysylltu â ni. Mae’n cael ei argraffu ar bob gohebiaeth a anfonwn atoch.

Arwyddair ac Ateb Cyfrinachol
Os gwnaethoch gais ar bapur ym mlwyddyn gyntaf eich cwrs fe fyddech wedi cael Arwyddair ac Ateb Cyfrinachol yn awtomatig i mewngofnodi i’ch cyfrif. Pan fyddwch yn defnyddio’r manylion hyn i mewngofnodi i’r wefan am y tro cyntaf gofynnir i chi eu newid i rywbeth mwy cofiadwy.

Os ydych wedi cofrestru eich manylion ar-lein ym mlwyddyn gyntaf eich cwrs, byddwch wedi creu eich Arwyddair a’ch Ateb Cyfrinachol eich hun.

Os ydych wedi anghofio eich manylion diogelwch
Os ydych wedi anghofio eich Arwyddair a’ch Ateb Cyfrinachol, neu wedi colli eich ART ID, gallwch ofyn am y manylion hyn drwy ffonio Canolfan Gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cam Dau: Creu a chyflwyno cais

Ar ôl i chi mewngofnodi i’ch cyfrif, dewiswch gyswllt i’r dudalen ‘Gwneud Cais am Gymorth i Fyfyrwyr’. Bydd hyn yn dechrau eich cais.

Bydd rhai manylion yn eich cais wedi’u nodi eisoes o’r wybodaeth a gawsom gennych yn flaenorol, felly bydd yn gyflymach ac yn haws i fyfyrwyr sy’n dychwelyd wneud cais ar-lein.

Gallwch adael y cais ar unrhyw adeg a bydd y wybodaeth ym mhob adran a gwblhawyd yn cael ei chadw. Gallwch adolygu neu newid y wybodaeth a gofnodoch hyd nes i chi gyflwyno eich cais. Ar ôl i chi gyflwyno eich cais caiff ei anfon yn awtomatig at eich Awdurdod Lleol i gael ei brosesu.

Gallwch weld statws asesu eich cais o’ch cyfrif ar-lein er mwyn i chi weld pan fydd eich cais wedi cael ei asesu. Byddwch yn cael gwybod am eich hawl i gymorth ariannol trwy lythyr.

Cam Tri: Anfon eich tystiolaeth

Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n parhau, mae’n ddigon tebyg na fydd angen i chi anfon unrhyw dystiolaeth at eich Awdurdod Lleol i gefnogi eich cais, oni bai bod eich amgylchiadau wedi newid eleni.

Dangosir i chi’r mathau o dystiolaeth sydd eu hangen, ac at ba gyfeiriad i’w hanfon, ar ôl i chi gyflwyno eich cais. Gallwch ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i olrhain unrhyw dystiolaeth a anfonwch.

Cam Pedwar: Cynnal eich cyfrif

O’ch cyfrif fe allwch ddiweddaru eich manylion cyswllt a’ch manylion banc, gweld gwybodaeth a gohebiaeth am eich cais am gyllid i fyfyrwyr, a gofyn cwestiynau am gyllid i fyfyrwyr neu chwilio am ateb iddynt.