Oriau Agor y Pasg
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)? Ydych chi"n aros ymlaen yn yr ysgol neu"r coleg?
newyddion - mwy...
Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
 

Cymorth Ychwanegol 08/09


Mae’r dudalen hon yn berthnasol i Flwyddyn Academaidd 2008/09.  Gallwch weld gwybodaeth mewn perthynas â’r cymorth sydd ar gael ym Mlwyddyn Academaidd 2009/10.

Mae ffynonellau cymorth ar gael mewn rhai amgylchiadau os ydych yn fyfyriwr amser llawn.  Gallwch gael mwy o wybodaeth gan eich Awdurdod Lleol neu trwy fynd at “Ffurflenni a Chanllawiau” sydd ar gael trwy’r cyswllt ar y Prif Dudalennau i Fyfyrwyr Newydd a Myfyrwyr sy’n Parhau ar y safle hwn.

Bwrsarïau

Cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr yw bwrsarïau a ddarperir gan y coleg neu’r brifysgol rydych yn ei mynychu.
Bydd Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol yn gweithredu i fyfyrwyr Addysg Uwch yng Nghymru.  Mae mwy o fanylion ar gael ar hafan Cynllun Bwrsariaeth Cymru.

Os oes gennych blant neu ddibynyddion

Grant gofal plant
I fyfyrwyr amser llawn gyda phlant.  Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref ac yn seiliedig ar 85% o’ch costau gofal plant gwirioneddol.  Bydd hwn yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad fel eich benthyciad myfyriwr ac nid oes rhaid iddo gael ei ad-dalu.
£180.00 yr wythnos yw’r uchafswm sydd ar gael os oes gennych un plentyn a rhoddir £305 yr wythnos os oes gennych ddau blentyn neu’n rhagor.

Lwfans dysgu i rieni
Er mwyn rhoi cymorth gyda chostau cysylltiedig â’r cwrs i fyfyrwyr gyda phlant.  Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.  £50 a £1,435 yw swm y Lwfans Dysgu i Rieni a gaiff ei dalu.  Bydd hwn yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad fel eich benthyciad myfyriwr ac nid oes rhaid iddo gael ei ad-dalu.

Grant Oedolion Dibynnol
I fyfyrwyr amser llawn gydag oedolion dibynnol.  Os oes gennych bartner (gan gynnwys partner o’r un rhyw os gwnaethoch ddechrau eich cwrs yn 2005 neu wedi hynny) neu oedolyn arall, aelod o’ch teulu fel rheol, sy’n dibynnu arnoch yn ariannol, gallech fod yn gymwys.  Gallwch gael hyd at £2,515.
Mae faint a gewch yn dibynnu ar eich incwm ac incwm yr oedolyn sy’n dibynnu arnoch.  Bydd hwn yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad fel eich benthyciad myfyriwr ac nid oes rhaid iddo gael ei ad-dalu.

Os ydych yn fyfyriwr anabl

Lwfansau myfyrwyr anabl
I roi cymorth gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs sy’n codi yn sgil eich anabledd.  Nid yw incwm eich cartref yn cael unrhyw effaith ar y swm a gewch.
"bydd y tabl hwn yn rhoi gwybodaeth am gymorth gyda chostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r cwrs i fyfyrwyr anabl"

Lwfans Uchafswm sydd ar gael (Myfyrwyr Amser Llawn) Uchafswm sydd ar gael (Myfyrwyr Rhan-amser)
Cynorthwyydd Anfeddygol £20,000 (per annum) £15,260 (per annum)
Eitemau mawr o offer arbenigol £5,035 (un taliad) £5,035 (un taliad)
Gwariant arall sy’n gysylltiedig ag anabledd £1,685 (per annum) £1,260 (per annum)

Lwfansau Myfyrwyr Anabl ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig
Gall myfyrwyr anabl amser llawn a rhan-amser, gan gynnwys myfyrwyr dysgu o bell dderbyn lwfans o hyd at £10,000, os oes gan eu cyrsiau ofyniad mynediad o radd gyntaf o leiaf  a’u bod yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd.  Os yw’r cwrs yn un rhan-amser, dylech ei gwblhau nid mwy na dwywaith yr amser a gymerir i gwblhau cwrs amser llawn cyfatebol.
Nid yw ôl-raddedigion sy’n cael dyfarniadau ariannol gan brifysgolion a cholegau sy’n cynnwys cefnogaeth ar gyfer anableddau yn gymwys i gael lwfansau myfyrwyr anabl ôl-raddedig hefyd.

Mathau eraill o gymorth

Cyfraddau benthyg ar gyfer presenoldeb ychwanegol os yw’ch cwrs yn hwy na’r hyn sy’n arferol

Gallwch gael swm ychwanegol o fenthyciad gydag asesiad incwm i dalu am bob wythnos ychwanegol y mae’n rhaid i chi fod ar eich cwrs uwchlaw 30 wythnos y tymor (yn ogystal â’r gwyliau byr).  Os oes rhaid i chi fod ar y cwrs am 45 wythnos neu’n fwy mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, byddwch yn cael swm ychwanegol o fenthyciad fel pe byddech yn astudio am 52 wythnos.  Mae’r mwyafrif y gallwch ei gael bob wythnos fel a ganlyn:
"bydd y tabl hwn yn rhoi gwybodaeth am gyfraddau benthyg ar gyfer presenoldeb ychwanegol os yw’ch cwrs yn hwy na’r hyn sy’n arferol"

Cyfraddau benthyg Swm ychwanegol bob wythnos
Llundain £103
Mannau eraill yn y DU £81
Tramor £112
Byw gyda Rhieni £54