Oriau Agor y Pasg
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)? Ydych chi"n aros ymlaen yn yr ysgol neu"r coleg?
newyddion - mwy...
Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
 

Pa gymorth sydd ar gael ym mlwyddyn Academaidd 08/09?


Mae’r dudalen hon yn berthnasol i flwyddyn Academaidd 2008/09. Gallwch hefyd weld cymorth sydd ar gael ym lwyddyn academaidd 2009/10.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein i gyfrifo faint y gallwch ei gael yn 08/09.

Benthyciadau i Fyfyrwyr

Cymorth Tuag At Eich Ffioedd Dysgu

Grantiau a Chymorth Arall

Grant Addysg Uwch

Grant Dysgu'r Cynulliad

Myfyrwyr Rhan-amser

Myfyrwyr y Brifysgol Agored

Benthyciadau i Fyfyrwyr

Mae'r cyfraddau benthyciad ar gyfer eich blwyddyn derfynol yn is gan eich bod yn cwblhau Addysg Uwch ar ddiwedd tymor yr Haf.

Mae cyfraddau benthyciad ychydig yn uwch i fyfyrwyr sy'n byw i ffwrdd o gartref eu rhieni ac yn Llundain, i ddarparu ar gyfer y costau byw uwch yno. Bydd eich Awdurdod Lleol (ALl) yn penderfynu a fyddwch yn gallu hawlio cyfraddau benthyciad Llundain yn seiliedig ar god post eich man astudio. Os nad ydych yn siŵr a ydych chi'n perthyn i'r categori hwn, bydd eich ALl yn gallu eich cynghori.

Cyfraddau Benthyciad

Blwyddyn Lawn
Cyfraddau Benthyciad Y mwyafswm sydd ar gael
Llundain £6,480
Mannau eraill yn y DU £4,625
Tramor £5,515
Byw gyda Rhieni £3,580

Blwyddyn Derfynol
Cyfraddau Benthyciad Y Mwyafswm sydd ar gael
Llundain £5,900
Mannau eraill yn y DU £4,285
Tramor £4,795
Byw gyda Rhieni £3,240

yn ôl i’r brig

Cymorth tuag at eich ffioedd dysgu

Codir ffioedd dysgu arnoch hyd at £3145. Efallai y gallwch hawlio grant ar gyfer y cyfan neu ran o'ch ffioedd dysgu, ond bydd swm y grant y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich incwm cartref.

Benthyciadau Myfyrwyr ar gyfer Cyfraniadau Ffioedd Dysgu

Ni fydd yn rhaid ichi dalu ffioedd cyn ichi ddechrau astudio, na thra byddwch yn parhau eich cwrs.

Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu ymgeisio am Fenthyciad i Fyfyrwyr ar gyfer Ffioedd i dalu cost unrhyw gyfraniad a asesir tuag at eich ffioedd. Gallwch fenthyg unrhyw swm hyd at swm llawn y ffi a godir. Efallai mai hwn fydd y gwahaniaeth rhwng cyfanswm y ffi a godir a swm y grant ffioedd a ddyfarnir.

Caiff y rhain eu talu'n syth i'ch man astudio a byddant yn cael eu had-dalu fel unrhyw fenthyciad arall i fyfyrwyr, ar ôl ichi orffen astudio a phan fyddwch yn ennill dros y trothwy ad-dalu.


yn ôl i’r brig

Grant Addysg Uwch

Os dechreuoch eich cwrs rhwng 1 Medi 2004 a 1 Medi 2006, efallai y byddwch yn gymwys am Grant Addysg Uwch. Mae'n rhaid eich bod ar gwrs israddedig amser llawn, cwrs brechdan neu gwrs HCA rhan-amser.

Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref, a bydd yn cael ei gyfrifo gan eich Awdurdod Lleol pan fyddwch yn gwneud eich cais. Bydd y tablau isod yn eich helpu i amcangyfrif eich hawl:


Blwyddyn Academaidd 2008/09
Incwm Cartref Cwrs Amser Llawn  
£0 i £16,765 £1,000
£16,765 i £22,750 £Grant Rhannol
£22,750 £50

Os ydych o Gymru, a bod eich incwm cartref islaw £5,750 byddwch hefyd yn cael £500 cynllun GDC.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.

 

Grant Dysgu’r Cynulliad (AU) ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau

Mae Grant Dysgu'r Cynulliad (AU) (GDC) yn parhau i roi cymorth ychwanegol i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel. Caiff myfyrwyr ymgeisio am GDC o'u Hawdurdod Lleol ar ben benthyciad i fyfyrwyr a mathau eraill o gymorth.

Dim ond i fyfyrwyr a ymrestrodd ar gwrs addysg uwch cyn 2006/07 y mae'r wybodaeth hon yn berthnasol, a dim ond os ydynt eisoes yn cael Grant Dysgu'r Cynulliad (AU) ac yn parhau'n gymwys hyd yr amser y byddant yn cwblhau'r rhaglen astudio benodol honno.

I fod yn gymwys am GDC (AU) eleni, mae'n rhaid bod eich incwm cartref chi neu eich teulu yn £17,250 neu lai.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.

Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref, a bydd yn cael ei gyfrifo gan eich Awdurdod Lleol pan fyddwch yn gwneud eich cais. Bydd y tabl isod yn eich helpu i amcangyfrif eich hawl:

Blwyddyn Academaidd 2008/09
Incwm Cartref Cwrs amser llawn  
0 i £5,745 £1,500
£5,746 i £11,490 £750
£11,491 i £17,250 £450

yn ôl i’r brig

Myfyrwyr rhan-amser

Grant Ffioedd

Mae myfyrwyr israddedig rhan-amser yn astudio o leiaf 50% o gwrs amser llawn cyfwerth (bydd eich coleg yn gallu dweud wrthych a yw eich cwrs yn gymwys) yn gallu hawlio Grant Ffioedd, gan ddibynnu ar eich incwm cartref. Bydd eich ALl yn cyfrifo faint o gymorth y gallwch ei gael.

Bydd tair gwahanol gyfradd o grant ffioedd gan ddibynnu pa mor ddwys yw eich cwrs. Er enghraifft, os ydych yn astudio ar gyfradd sy'n gywerth â 75% o gwrs amser llawn, fe allech fod yn gymwys am grant ffioedd uwch na myfyriwr sy'n astudio ar gyfradd sy'n gywerth â 50% o gwrs amser llawn. Mae'r tabl isod yn nodi mwyafswm y grant ffioedd y gallech ei gael:

Dwysedd y Cwrs Uchafswm y Grant Ffioedd
50%-59% £620
60%-74% £745
75% neu’n fwy £930

Gallwch hefyd ymgeisio am gymorth gyda chostau cysylltiedig â chwrs sy'n werth hyd at £1,050. Os ydych ar gwrs hyfforddiant athrawon rhan-amser, nid ydych yn gymwys am grantiau rhan-amser ond fe allech fod yn gymwys am gymorth amser llawn.

Fel arfer nid yw myfyrwyr yn gallu ymgeisio am y cymorth hwn os oes gradd ganddynt eisoes.

Myfyrwyr ôl-raddedig

Yn gyffredinol, nid oes unrhyw gymorth gorfodol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig a ariennir yn ganolog gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru; un eithriad i hyn yw astudiaethau TAR i'r rheini sy'n dymuno bod yn athrawon.

Myfyrwyr y Brifysgol Agored

Mae'r Brifysgol Agored yn ymdrin â cheisiadau am y grant ffioedd, y grant cwrs a'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl gan ei myfyrwyr ei hun. Os ydych yn astudio gyda'r Brifysgol Agored (PA) a bod angen unrhyw wybodaeth arnoch, dylech gysylltu â hwy ar 01908 653411, neu anfon e-bost atynt yn reg-fees@open.ac.uk am ragor o fanylion. Os ydych yn fyfyriwr anabl sy'n astudio yn y Brifysgol Agored, dylech gysylltu â'ch canolfan PA ranbarthol a holi am amodau cymhwyster ar gyfer Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl a sut y dylech ymgeisio amdanynt.

yn ôl i’r brig