Oriau Agor y Pasg
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)? Ydych chi"n aros ymlaen yn yr ysgol neu"r coleg?
newyddion - mwy...
Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
 

Sut i Wneud Cais Ar-lein


Mae ffurflenni cais ar-lein ar gyfer cyllid myfyrwyr yn y flwyddyn academaidd 08/09 bellach ar gael. Cofiwch gofrestru gyda'n gwasanaeth ar-lein er mwyn ymgeisio ar-lein neu i fewngofnodi i ddefnyddio'ch cyfrif.

Gellir dadlwytho ffurflenni cais ar gyfer blwyddyn Academaidd 07/08 o'r dudalen Ffurflenni a Chanllawiau.

Isod ceir arweiniad i ymgeisio ar-lein os ydych chi'n fyfyriwr newydd.
Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar gyfer myfyrwyr sy'n parhau sy'n ymgeisio ar-lein a noddwyr sy'n cefnogi cais ar-lein.

Cam Un: Cofrestru

Dylech gofrestru eich manylion gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru os ydych chi’n fyfyriwr newydd ac os yw’ch cyfeiriad cartref yng Nghymru.

Trwy gofrestru, fe gewch fanylion diogelwch unigryw er mwyn i chi mewngofnodi i’ch cyfrif cyllid i fyfyrwyr ar-lein neu eu defnyddio pan fyddwch yn ein ffonio.

Os oes gennych fenthyciad blaenorol gyda’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, byddwch wedi cofrestru eisoes ar ein system ac ni ddylech gofrestru eto. Os credwch eich bod wedi cofrestru eisoes, ffoniwch Ganolfan Gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru am ragor o wybodaeth.

Cofrestrwch fy manylion

Mae cofrestru yn creu eich manylion diogelwch unigryw eich hun:

Arwyddair ac Ateb Cyfrinachol
Pan fyddwch yn cofrestru, gofynnir i chi greu Arwyddair ac Ateb Cyfrinachol i gwestiwn o’ch dewis. Bydd angen i chi ddefnyddio’r manylion hyn bob tro y byddwch chi’n defnyddio gwasanaethau ar-lein Cyllid Myfyrwyr Cymru neu’n ffonio’r Ganolfan Gyswllt. Mae’n bwysig eich bod chi’n dewis rhywbeth rydych chi’n debygol o’i gofio ar gyfer y manylion diogelwch hyn.

ART ID
Ar ôl i chi gofrestru fe gewch ART ID. Dyma rif un digid ar ddeg unigryw a ddefnyddir i’ch adnabod pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’n gwefan neu’n cysylltu â ni. Caiff ei argraffu ar bob gohebiaeth a anfonwn atoch. Mae’n bwysig eich bod yn nodi eich ART ID ac yn ei gadw mewn man diogel.

Os anghofiwch chi eich manylion diogelwch
Os anghofiwch eich Cyfrinair a'ch Ateb Cyfrinachol, neu os ydych chi wedi colli'ch Cyfeirnod Cwsmer, gallwch ofyn am y rhain ar-lein o'r ddolen gyswllt Dod o hyd i'ch manylion mewngofnodi.  Pan fyddwch yn ailosod eich cyfrineiriau, bydd y rhain yn cael eu hanfon at eich cyfeiriad ebost - mae'n bwysig eich bod yn diweddaru'ch cyfeiriad ebost. 

Cam Dau: Mewngofnodi

Ar ôl i chi gofrestru fe allwch ddefnyddio eich ART ID a’ch arwyddeiriau i ddefnyddio eich cyfrif ar-lein. Bydd hyn yn agor eich tudalen Fy Nghyfrif, ac o’r man hwn fe allwch wneud cais am gymorth i fyfyrwyr a chynnal manylion eich cyfrif

Mewngofnodi i fy nghyfrif

Cam Tri: Creu a chyflwyno eich cais

Ar ôl i chi mewngofnodi i’ch cyfrif, dewiswch ‘Gwneud Cais am Gymorth i Fyfyrwyr’. Bydd hyn yn dechrau eich cais.

Gallwch adael y cais unrhyw bryd a bydd y wybodaeth ym mhob adran a gwblhawyd yn cael ei chadw. Gallwch adolygu neu newid y wybodaeth a gofnodoch hyd nes i chi gyflwyno eich cais. Ar ôl i chi gyflwyno eich cais caiff ei anfon yn awtomatig at yr Awdurdod Lleol i’w brosesu.

Gallwch weld statws asesu eich cais o’ch cyfrif ar-lein er mwyn i chi weld pan fydd eich cais wedi cael ei asesu. Byddwch yn cael gwybod am eich hawl i gymorth ariannol trwy lythyr.

Cam Pedwar: Anfon eich tystiolaeth

Os ydych chi’n fyfyriwr newydd bydd gofyn i chi anfon tystiolaeth at eich Awdurdod Lleol i gefnogi eich cais. Bydd hyn yn cynnwys dogfen i sicrhau pwy ydych chi, fel eich tystysgrif geni neu basbort. Mae unrhyw dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r math o gymorth rydych yn gwneud cais amdano.

Dangosir i chi’r mathau o dystiolaeth sydd eu hangen, ac at ba gyfeiriad i anfon y dystiolaeth hon, ar ôl i chi gyflwyno eich cais. Gallwch ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i olrhain unrhyw dystiolaeth a anfonwch.

Cam Pump: Cynnal eich cyfrif

O’ch cyfrif fe allwch chi ddiweddaru eich manylion cyswllt a’ch manylion banc, gweld gwybodaeth a gohebiaeth am eich cais am gyllid i fyfyrwyr, a gofyn cwestiynau am gyllid i fyfyrwyr neu chwilio am ateb iddynt.