Oriau Agor y Pasg
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)? Ydych chi"n aros ymlaen yn yr ysgol neu"r coleg?
newyddion - mwy...
Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
 

Cymorth Ychwanegol 09/10


Mae’r dudalen hon yn berthnasol i Flwyddyn Academaidd 09/10. Fe welwch wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ym Mlwyddyn Academaidd 08/09.

Bwrsarïau

Mae Cynllun Bwrsari Cenedlaethol yn gweithredu i fyfyrwyr mewn Addysg Uwch yng Nghymru.

Bydd Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol yn gweithredu ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch Cymru. Mae manylion pellach ar gael ar dudalen hafan Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol.

Os oes gennych blant neu ddibynyddion

Grant Gofal Plant

Ar gyfer myfyrwyr amser llawn â phlant. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref ac mae’n seiliedig ar 85% o’ch costau gofal plant gwirioneddol. Caiff hwn ei dalu mewn tri rhandaliad yn yr un modd â’ch benthyciad i fyfyrwyr ac ni fydd rhaid i chi ei ad-dalu.

Y mwyafswm sydd ar gael yw £161.50 yr wythnos os oes un plentyn gennych £274.55 yr wythnos os oes dau o blant neu fwy gyda chi.

Lwfans dysgu i rieni

Am gymorth i fyfyrwyr â phlant gyda chostau sy’n gysylltiedig â chwrs. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Bydd swm y Lwfans Dysgu i Rieni a fydd yn daladwy rhwng £50 a £1,508. Caiff hwn ei dalu mewn tri rhandaliad fel eich benthyciad i fyfyrwyr ac nid oes rhaid ei ad-dalu.

Grant Oedolyn Dibynnol

Ar gyfer myfyrwyr amser llawn ag oedolion dibynnol. Os oes gennych bartner (gan gynnwys partner o’r un rhyw os dechreuoch eich cwrs yn 2005 neu wedyn) neu oedolyn arall, sy’n aelod o’ch teulu fel arfer, sy’n dibynnu arnoch chi’n ariannol, fe allech fod yn gymwys. Gallwch gael hyd at £2,647.

Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm ac incwm eich oedolyn dibynnol. Caiff hwn ei dalu mewn tri rhandaliad yn yr un modd â’ch benthyciad i fyfyrwyr ac ni fydd angen ei ad-dalu.

Os ydych chi’n fyfyriwr anabl

Lwfansau myfyrwyr anabl

Am gymorth gyda chostau ychwanegol cysylltiedig â chwrs sy’n codi o ganlyniad i’ch anabledd. Nid yw Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn cael eu hasesu yn ôl incwm felly nid yw incwm eich cartref yn cael unrhyw effaith ar y swm a gewch.

Lwfans Uchafswm sydd ar gael (Myfyrwyr Llawn Amser) Uchafswm sydd ar gael (Myfyrwyr Rhan Amser)
Cynorthwy-ydd anfeddygol £20,520 (y flwyddyn) £15,390 (y flwyddyn)
Eitemau mawr o offer arbenigol £5,166 (tâl unwaith ac am byth) £5,166 (un taliad)
Gwariant arall cysylltiedig ag anabledd £1,729 (y flwyddyn) £1,293 (y flwyddyn)

Lwfansau myfyrwyr anabl (LMA) ar gyfer astudio ôl-raddedig

Os yw eu cyrsiau yn mynnu o leiaf gradd gyntaf ar gyfer mynediad ac yn para o leiaf un flwyddyn academaidd, gall myfyrwyr anabl amser llawn a rhan-amser, gan gynnwys myfyrwyr sy’n dysgu o bell, gael lwfans hyd at £10,260. Os yw’r cwrs yn rhan-amser, mae’n rhaid ichi ei gwblhau heb gymryd mwy na dwywaith yr amser a gymerir i gwblhau cwrs amser llawn cywerth.

Hefyd, os yw graddedigion yn cael dyfarniadau gan brifysgolion a cholegau sy’n cynnwys cymorth ar gyfer anableddau nid ydynt yn gymwys am LMA ôl-raddedig.

Mathau eraill o gymorth

Cyfraddau benthyciad ar gyfer presenoldeb ychwanegol os yw eich cwrs yn hirach nag arfer

Gallwch gael swm ychwanegol o fenthyciad a asesir ar sail incwm i dalu am bob wythnos ychwanegol y mae’n rhaid i chi fod ar eich cwrs uwchlaw 30 wythnos o amser tymor (yn ogystal â’r gwyliau byr). Os oes rhaid i chi fod ar y cwrs am 45 wythnos neu fwy mewn unrhyw gyfnod 12 mis, fe gewch chi swm ychwanegol o fenthyciad fel petaech yn astudio am 52 wythnos. Dyma’r mwyaf y gallwch ei gael bob wythnos:

Cyfraddau benthyciad Ychwanegol yr wythnos
Llundain £106
Mannau eraill yn y DU £83
Tramor £115
Byw gyda Rhieni £55