|
Bwrsarïau
Mae Cynllun Bwrsari Cenedlaethol yn gweithredu i fyfyrwyr mewn Addysg Uwch yng Nghymru.
Bydd Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol ar waith ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch yng Nghymru. Mae manylion pellach ar gael ar dudalen gartref Cynllun Bwrsarïau Cymru.
Os oes gennych blentyn neu ddibynyddion
Grant gofal plant
I fyfyrwyr amser llawn â phlant. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref ac mae’n seiliedig ar 85% o’ch costau gofal plant gwirioneddol. Bydd hwn yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad fel eich benthyciad i fyfyrwyr ac nid oes rhaid ichi ei ad-dalu.
Y mwyafswm sydd ar gael yw £160.50 yr wythnos os oes un plentyn gennych a £274.55 yr wythnos os oes dau o blant neu fwy gennych.
Lwfans dysgu i rieni
Am gymorth gyda chostau cysylltiedig â’ch cwrs i fyfyrwyr â phlant. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref. Bydd swm y Lwfans Dysgu i Rieni sy’n daladwy rhwng £50 a £1,508. Bydd hwn yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad fel eich benthyciad i fyfyrwyr ac nid oes rhaid ichi ei ad-dalu.
Grant Oedolion Dibynnol
I fyfyrwyr amser llawn ag oedolion dibynnol. Os oes gennych bartner (gan gynnwys partner o’r un rhyw os dechreuoch eich cwrs yn 2005 neu wedyn) neu oedolyn arall, fel arfer aelod o’ch teulu, sy’n dibynnu arnoch chi’n ariannol, fe allech fod yn gymwys. Gallwch gael hyd at £2,647.
Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm ac incwm eich oedolion dibynnol. Bydd hwn yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad fel eich benthyciad i fyfyrwyr ac nid oes rhaid ichi ei ad-dalu.
Os ydych yn fyfyriwr anabl
Lwfansau myfyrwyr anabl
Am gymorth gyda chostau ychwanegol cysylltiedig â’ch cwrs sy’n codi o ganlyniad i’ch anabledd. Nid yw Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn cael eu hasesu yn ôl incwm felly nid yw incwm eich cartref yn cael unrhyw effaith ar y swm a gewch.
| Lwfans |
Mwyafswm sydd ar gael (Myfyrwyr Amser Llawn) |
Mwyafswm sydd ar gael (Myfyrwyr Rhan-amser) |
| Cynorthwyydd nad yw’n feddygol |
£20, 520 (y flwyddyn) |
£15,390 (y flwyddyn) |
| Eitemau mawr o offer arbenigol |
£5,266 (taliad untro) |
£5,166 (taliad untro) |
| Gwariant arall sy’n gysylltiedig ag anabledd |
£1,729 (y flwyddyn) |
£1,293 (y flwyddyn) |
|