|
Benthyciadau i Fyfyrwyr
Mae benthyciadau ar gael i helpu gyda’ch costau byw – deunyddiau cwrs, llety, bwyd, dillad, teithio ac yn y blaen.
Pwy sy’n gallu ymgeisio am fenthyciad?
Os ydych ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon rhan-amser, brechdan neu amser llawn, rydych chi’n gymwys i wneud cais am fenthyciad.
Fe allech fod yn gymwys hyd yn oed os ydych wedi astudio o’r blaen mewn Addysg Uwch. Bydd eich Awdurdod Lleol yn dweud wrthych a ydych chi’n gymwys i wneud cais am fenthyciad eto.
I gael benthyciad myfyrwyr mae’n rhaid i chi fod yn 60 oed neu iau.
Cyfraddau llog
Caiff llog ei gymhwyso i’ch benthyciad ar y gyfradd chwyddiant, felly bydd y swm a ad-dalwch yr un gwerth â’r swm a fenthycwch. Codir llog cyn gynted ag y cymerir benthyciad allan.
Os byddwch yn cael benthyciad yn 08/09, y gyfradd llog gyfredol yw 2.5%.
Sut bydd fy menthyciad yn cael ei dalu?
Caiff eich benthyciad ei dalu fel arfer mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn syth i’ch cyfrif banc. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon Llythyr Amserlen Dalu i egluro pa symiau fydd yn cael eu talu a phryd.
Sut bydd fy menthyciad yn cael ei dalu?
Caiff eich benthyciad ei dalu fel arfer mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn syth i’ch cyfrif banc. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon llythyr a fydd yn egluro pa symiau fydd yn cael eu talu a phryd.
Faint y gallaf ei fenthyg?
Mae hyn yn dibynnu ar eich incwm cartref ac ymhle rydych chi’n byw tra byddwch yn astudio.
Ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau, nid yw 75% o’r benthyciad yn destun asesiad incwm, tra bo 25% yn destun asesiad incwm. Mae hyn yn golygu y bydd cyfran o’r benthyciad a dalir i chi yn dibynnu ar eich incwm cartref.
Ar gyfer myfyrwyr newydd, bydd swm y benthyciad sydd ar gael yn dibynnu ar incwm cartref, a gallai ddibynnu hefyd ar swm unrhyw Grant Dysgu’r Cynulliad sy’n cael ei ddyfarnu.
Sut ydych chi’n cyfrifo fy ‘incwm cartref’?
Mae hyn yn dibynnu ai myfyriwr annibynnol neu ddibynnol ydych chi.
Fe’ch dosbarthir yn fyfyriwr annibynnol os yw o leiaf un o’r datganiadau canlynol yn berthnasol i chi -
- rydych dros 25 pan rydych yn dechrau eich astudiaethau
- buoch yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn ichi ddechrau eich cwrs (gallai eich Awdurdod Lleol ofyn am dystiolaeth o hyn)
- rydych wedi cefnogi eich hun yn ariannol ers tair blynedd o leiaf cyn ichi ddechrau eich cwrs
- nid oes gennych unrhyw rieni fyw.
- rydych chi’n fyfyriwr amser llawn sy’n gofalu am o leiaf un plentyn o dan 18 oed
Os ydych yn nodi eich bod yn fyfyriwr annibynnol a’ch bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd incwm eich priod neu bartner sifil yn cael ei ystyried hefyd.
Fe’ch dosbarthir yn fyfyriwr dibynnol os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni a/neu’n dibynnu ar o leiaf un o’ch rhieni am gymorth ariannol.
Caiff ‘incwm cartref’ ar gyfer myfyrwyr dibynnol ei gyfrifo yn y modd canlynol -
- os ydych yn byw gyda dau riant, caiff incymau’r ddau eu hystyried
- os ydych yn byw gydag un o’ch rhieni yn unig, dim ond incwm y rhiant hwn fydd yn cael ei ystyried
- os ydych yn byw gyda phriod neu bartner (o’r naill ryw neu’r llall), bydd incwm y person hwn yn cael ei ystyried hefyd
Os na fydd eich rhieni neu bartner yn darparu manylion eu hincwm i’ch Awdurdod Lleol, ni fyddwch chi’n cael yr holl gymorth ariannol y gallech ei hawlio.
yn ôl i’r brig
|