Pa gymorth sydd ar gael ym mlwyddyn academaidd 08/09?


Mae’r dudalen hon yn berthnasol i flwyddyn Academaidd 2008/09. Gallwch hefyd weld cymorth sydd ar gael ym lwyddyn academaidd 2009/10.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein i gyfrifo faint y gallwch ei gael yn 08/09.

Benthyciadau i Fyfyrwyr

Cyfraddau Benthyciad

Cymorth Tuag at Eich Ffioedd Dysgu

Grantiau a Chymorth Arall

Bwrsarïau

Myfyrwyr Rhan-amser

Y Brifysgol Agored

Myfyrwyr sy’n Cymryd Blwyddyn i Ffwrdd(pdf 89.7 kB)

Benthyciadau i Fyfyrwyr

Mae benthyciadau ar gael i helpu gyda’ch costau byw – deunyddiau cwrs, llety, bwyd, dillad, teithio ac yn y blaen.


Pwy sy’n gallu ymgeisio am fenthyciad?

Os ydych ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon rhan-amser, brechdan neu amser llawn, rydych chi’n gymwys i wneud cais am fenthyciad.

Fe allech fod yn gymwys hyd yn oed os ydych wedi astudio o’r blaen mewn Addysg Uwch. Bydd eich Awdurdod Lleol yn dweud wrthych a ydych chi’n gymwys i wneud cais am fenthyciad eto.

I gael benthyciad myfyrwyr mae’n rhaid i chi fod yn 60 oed neu iau.


Cyfraddau llog

Caiff llog ei gymhwyso i’ch benthyciad ar y gyfradd chwyddiant, felly bydd y swm a ad-dalwch yr un gwerth â’r swm a fenthycwch. Codir llog cyn gynted ag y cymerir benthyciad allan.

Os byddwch yn cael benthyciad yn 08/09, y gyfradd llog gyfredol yw 2.5%.


Sut bydd fy menthyciad yn cael ei dalu?

Caiff eich benthyciad ei dalu fel arfer mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn syth i’ch cyfrif banc. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon Llythyr Amserlen Dalu i egluro pa symiau fydd yn cael eu talu a phryd.


Sut bydd fy menthyciad yn cael ei dalu?

Caiff eich benthyciad ei dalu fel arfer mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn syth i’ch cyfrif banc. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn anfon llythyr a fydd yn egluro pa symiau fydd yn cael eu talu a phryd.


Faint y gallaf ei fenthyg?

Mae hyn yn dibynnu ar eich incwm cartref ac ymhle rydych chi’n byw tra byddwch yn astudio.

Ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau, nid yw 75% o’r benthyciad yn destun asesiad incwm, tra bo 25% yn destun asesiad incwm. Mae hyn yn golygu y bydd cyfran o’r benthyciad a dalir i chi yn dibynnu ar eich incwm cartref.

Ar gyfer myfyrwyr newydd, bydd swm y benthyciad sydd ar gael yn dibynnu ar incwm cartref, a gallai ddibynnu hefyd ar swm unrhyw Grant Dysgu’r Cynulliad sy’n cael ei ddyfarnu.


Sut ydych chi’n cyfrifo fy ‘incwm cartref’?

Mae hyn yn dibynnu ai myfyriwr annibynnol neu ddibynnol ydych chi.

Fe’ch dosbarthir yn fyfyriwr annibynnol os yw o leiaf un o’r datganiadau canlynol yn berthnasol i chi -

  • rydych dros 25 pan rydych yn dechrau eich astudiaethau
  • buoch yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn ichi ddechrau eich cwrs (gallai eich Awdurdod Lleol ofyn am dystiolaeth o hyn)
  • rydych wedi cefnogi eich hun yn ariannol ers tair blynedd o leiaf cyn ichi ddechrau eich cwrs
  • nid oes gennych unrhyw rieni fyw.
  • rydych chi’n fyfyriwr amser llawn sy’n gofalu am o leiaf un plentyn o dan 18 oed

Os ydych yn nodi eich bod yn fyfyriwr annibynnol a’ch bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd incwm eich priod neu bartner sifil yn cael ei ystyried hefyd.

Fe’ch dosbarthir yn fyfyriwr dibynnol os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni a/neu’n dibynnu ar o leiaf un o’ch rhieni am gymorth ariannol.

Caiff ‘incwm cartref’ ar gyfer myfyrwyr dibynnol ei gyfrifo yn y modd canlynol -

  • os ydych yn byw gyda dau riant, caiff incymau’r ddau eu hystyried
  • os ydych yn byw gydag un o’ch rhieni yn unig, dim ond incwm y rhiant hwn fydd yn cael ei ystyried
  • os ydych yn byw gyda phriod neu bartner (o’r naill ryw neu’r llall), bydd incwm y person hwn yn cael ei ystyried hefyd

Os na fydd eich rhieni neu bartner yn darparu manylion eu hincwm i’ch Awdurdod Lleol, ni fyddwch chi’n cael yr holl gymorth ariannol y gallech ei hawlio.

yn ôl i’r brig

Cyfraddau Benthyciad

Cyfraddau benthyciad Mwyafswm sydd ar gael
Llundain £6,480
Mannau Eraill yn y DU £4,625
Tramor £5,515
Byw gyda Rhieni £3,580

Mae Cyfraddau Benthyciad ychydig yn uwch os ydych chi’n byw yn Llundain a'r tu allan i gartref eich rhieni, gan fod costau byw uwch yn Llundain na gweddill y DU. Bydd eich Awdurdod Lleol (ALl) yn penderfynu a fyddwch chi’n gallu hawlio cyfraddau benthyciad Llundain ar sail cod post eich man astudio. Os ydych yn ansicr a ydych chi’n perthyn i’r categori hwn, bydd eich ALl yn gallu eich cynghori chi.

yn ôl i’r brig

Cymorth tuag at eich ffioedd dysgu

Gallwch wneud cais am fenthyciad hyd at £3,145 i dalu’r union swm y mae’r brifysgol neu goleg yn ei godi am gwrs a bydd yr arian yn cael ei dalu’n syth i’r brifysgol neu’r coleg i dalu cost y ffioedd.

Ffioedd Dysgu Hyblyg

Gall prifysgolion a cholegau yng Nghymru godi eu lefel eu hunain o ffioedd, hyd at derfyn o £3,145 ar gyfer blwyddyn academaidd 08/09.

Grant Ffioedd: Os ydych yn astudio yng Nghymru

Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru AC yn astudio mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru, byddwch hefyd yn gallu hawlio grant ffioedd hyd at £1,890 nad oes yn rhaid ei ad-dalu.

Mae’r grant ffioedd ar gael ni waeth beth yw incwm eich teulu, ac mae’n cael ei dalu’n syth i’ch man astudio.

Os ydych yn astudio yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon

Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru ond yn astudio yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, ni fyddwch chi’n gallu hawlio grant ffioedd. Codir arnoch y ffioedd a osodir gan eich coleg neu brifysgol, hyd at fwyafswm o £3,145. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru’n darparu benthyciad i dalu’r ffioedd hyn a bydd angen ichi ei ad-dalu yn yr un ffordd â’r benthyciad i dalu eich costau byw.

Os ydych yn astudio yn yr Alban

Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru ond yn astudio yn yr Alban, codir £1,700 y flwyddyn arnoch am bob cwrs, ac eithrio meddygaeth, sy’n £2,700 y flwyddyn. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu benthyciad i dalu’r ffioedd hyn y bydd angen ichi ei ad-dalu yn yr un ffordd â’r benthyciad i dalu eich costau byw.

yn ôl i’r brig

Grantiau a chymorth arall

Os ydych fel arfer yn byw yng Nghymru, fe allech hawlio’r cymorth canlynol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru:  

Grant Dysgu’r Cynulliad

Mae Grant Dysgu’r Cynulliad (GDC) yn rhoi cymorth ariannol i helpu i dalu costau byw cyffredinol.

Os hoffech wneud cais am Grant Dysgu’r Cynulliad dylech lenwi’r ffurflen gais (1864kb). hon. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol.

Caiff Grant Dysgu’r Cynulliad ei dalu mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau bob tymor, yn union fel eich Benthyciad i Fyfyrwyr./P>

Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref, a bydd yn cael ei gyfrifo gan eich Awdurdod Lleol pan fyddwch yn gwneud eich cais. Bydd y tabl isod yn eich helpu i amcangyfrif eich hawl:

Blwyddyn Academaidd 08/09
Incwm Cartref Cwrs Amser Llawn
£0 i £18,370 £2,835
£18,370 i £39,300 £Grant Rhannol
Dros £39,300 £0

Am bob £1 o GDC a gewch, bydd swm y Benthyciad Cynhaliaeth y gallwch ei hawlio yn lleihau £1, hyd at £1,225. Mae hyn yn golygu y bydd y grant nad oes angen ei dalu’n ôl yn disodli hyd at £1,225 o fenthyciad ad-daladwy.


Sylwch: Myfyrwyr Hyfforddiant Athrawon Cychwynnol Newydd

Bydd myfyrwyr ar gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon nad ydynt yn arwain at radd gyntaf, ac sy’n astudio am 10 wythnos neu fwy, yn cael o leiaf £1,225, ni waeth beth yw eich incwm cartref. Bydd myfyrwyr sy’n astudio rhwng 6 a 10 wythnos yn cael o leiaf £610.

Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn

Mae’r rhain ar gael drwy eich prifysgol neu goleg. Mae’r gronfa’n galluogi’r sefydliadau i roi cymorth dewisol i fyfyrwyr sy’n cael anawsterau ariannol, neu na fuasent efallai’n gallu fforddio dechrau neu barhau mewn addysg uwch neu addysg bellach fel arall.

yn ôl i’r brig

Bwrsarïau

Cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr yw bwrsarïau, sy’n cael eu rhoi gan y coleg neu brifysgol a fynychwch.

Bydd Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol ar waith i fyfyrwyr Addysg Uwch yng Nghymru. Mae manylion pellach ar gael ar dudalen gartref Cynllun Bwrsarïau Cymru.

yn ôl i’r brig

Myfyrwyr rhan-amser

Grant Ffioedd

Mae myfyrwyr israddedig rhan-amser sy’n astudio o leiaf 50% o gwrs amser llawn cyfwerth yn gallu hawlio Grant Ffioedd, gan ddibynnu ar eich incwm cartref. Dylai eich coleg neu brifysgol fod yn gallu dweud wrthych a yw eich cwrs yn gymwys. Bydd eich ALl yn cyfrifo faint o gymorth y gallwch ei gael.

Mae tair gwahanol gyfradd o grant ffioedd, gan ddibynnu pa mor ddwys yw eich cwrs. Er enghraifft, os ydych chi’n astudio ar gyfradd sy’n gywerth â 75% o gwrs amser llawn, gallech fod yn gymwys am grant ffioedd uwch na myfyriwr sy’n astudio ar gyfradd sy’n gywerth â 50% o gwrs amser llawn. Mae’r tabl isod yn nodi mwyafswm y Grant Ffioedd y gallech ei gael.

Dwyster y Cwrs Mwyafswm y Grant Ffioedd
50%-59% £620
60%-74% £745
75% neu fwy £930

Gallwch hefyd ymgeisio am gymorth gyda chostau cysylltiedig â chwrs sy’n werth hyd at £1,050. Os ydych ar gwrs hyfforddiant athrawon rhan-amser, nid ydych yn gymwys am grantiau rhan-amser ond fe allech fod yn gymwys am gymorth amser llawn.

Fel arfer, nid yw myfyrwyr yn gallu ymgeisio am y cymorth hwn os oes gradd ganddynt eisoes.

Cymorth Rhan-Amser arall sydd ar gael

Fe allai myfyrwyr israddedig rhan-amser sy’n astudio o leiaf 50% o gwrs amser llawn cyfwerth hawlio Grant Oedolion Dibynnol (GOD), Grant Gofal Plant (GGP) neu Lwfans Dysgu i Rieni (LDR). Dylai eich coleg neu brifysgol fod yn gallu dweud wrthych a yw eich cwrs yn gymwys.

Mwyafswm y grantiau sy’n daladwy i fyfyrwyr rhan-amser fydd 50%, 60% neu 75% o’r mwyafswm amser llawn, gan ddibynnu a yw’r myfyriwr yn astudio 50-59%, 60-74% neu 75%+ o ddwyster cwrs cyfwerth amser llawn.

Mae’r tabl isod yn nodi mwyafswm y grantiau y gallech eu cael os ydych yn gymwys .

Cynnyrch Mwyafswm amser llawn 75% o amser llawn 60% o amser llawn 50% o amser llawn
GOD £2,580 £1,935 £1,548 £1,290
GGP (1 plentyn) £157.25 yr wythnos £117.94 yr wythnos £94.35 yr wythnos £78.63 yr wythnos
GGP (2+ o blant) £267.75 yr wythnos £200.81 yr wythnos £160.65 yr wythnos £133.88 yr wythnos
LDR £1,470 £1102.50 £882 £735

yn ôl i’r brig

Myfyrwyr y Brifysgol Agored

Mae’r Brifysgol Agored yn ymdrin â cheisiadau am y grant ffioedd, y grant cwrs a Lwfans Myfyrwyr Anabl gan ei myfyrwyr ei hun. Os ydych yn astudio gyda’r Brifysgol Agored a bod angen gwybodaeth arnoch, dylech gysylltu â hwy ar 01908 653411, neu anfon e-bost atynt yn reg-fees@open.ac.uk am fwy o fanylion. Os ydych yn fyfyriwr anabl sy’n astudio yn y Brifysgol Agored, dylech gysylltu â’ch canolfan ranbarthol Prifysgol Agored a holi am yr amodau cymhwyster ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl a sut y dylech ymgeisio amdanynt.

y n ôl i’r brig