|
|
|
Esbonio’r broses o wneud cais
|
|
|
|
|
|
Dylai’r canllaw canlynol eich helpu i ddeall eich rhan yn y broses o wneud cais, pwy sy’n gyfrifol ar bob cam a faint o amser fydd y broses yn ei gymryd fel arfer.
Cam Un: Cwblhau’r cais
a) Myfyrwyr newydd
| Pwy sy’n gyfrifol? |
Myfyrwyr nad ydynt wedi dechrau astudio hyn yma |
| Beth sy’n digwydd? |
ewch chi ffurflen gais trwy :
- lwytho ffurflen oddi ar y wefan hon
- cyflwyno cais yma, ar lein
- Gofyn am Ffurflen PN1 a’r arweiniad sy’n dod gyda hi, gan eich Awdurdod Lleol
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cais gallwch enwebu eich noddw(y)r os ydych yn fyfyriwr dibynnol (h.y. rydych yn dibynnu ar riant, gofalwr neu bartner am gymorth ariannol). Yna gallant roi eu manylion ar lein neu lenwi ffurflen gais ar bapur.
Mae’n hynod bwysig eich bod yn rhoi eich Rhif Yswiriant Gwladol i ni gan y bydd ei angen er mwyn gallu casglu’r didyniadau i ad-dalu eich Benthyciad Myfyrwyr o’ch cyflog pan fydd hi’n adeg i chi ad-dalu. Oherwydd ei bod hi mor bwysig bod y rhif hwn gennym, mae’n bosib y bydd oedi cyn talu eich cymorth i fyfyrwyr os na fyddwch yn ei ddarparu.
Ni fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn gwneud unrhyw daliadau benthyciad hyd nes i’ch Nino gael ei wirio gan DWP. Os na allant baru nac olrhain eich manylion, bydd y Cwmni’n cysylltu â chi i esbonio beth i wneud nesaf.
Os nad oes gennych NINO, gallai’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ryddhau eich taliad cyntaf os daw tystiolaeth i law eich bod wrthi’n ceisio cael Nino.
Fe fydd angen i chi anfon nifer o wahanol ddogfennau i gefnogi eich cais. Os cawsoch eich geni yn y DU bydd gofyn i chi anfon eich tystysgrif geni wreiddiol (neu dystysgrif mabwysiadu) neu eich pasport. Os cawsoch eich geni dramor bydd gofyn i chi anfon eich pasport cyfredol neu lythyr neu ddogfennau eraill wedi’u llenwi gan rywun cyfrifol, sy’n cadarnhau’r wybodaeth am eich genedigaeth. Bydd y ffurflen PN1 yn rhoi manylion y dystiolaeth gefnogol sydd ei hangen gennych chi a’ch teulu. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, gall eich Awdurdod Lleol ofyn am fwy o dystiolaeth gennych.
Os byddwch yn gwneud cais ar bapur, fe ddylech chi anfon y ffurflen gais a’r dogfennau i brofi pwy ydych chi a / neu dystiolaeth incwm (yn ôl y gofynion ar eich ffurflen gais) at eich Awdurdod Lleol. Os byddwch yn gwneud cais ar lein, anfonwch eich tystiolaeth gyda’ch ART ID at eich Awdurdod Lleol. Cofiwch wneud yn siwr eich bod wedi cynnwys yr holl dystiolaeth angenrheidiol – os na wnewch, gall fod oedi wrth brosesu eich cais.
|
b) Myfyrwyr sy’n parhau
| Pwy sy’n gyfrifol? |
Myfyrwyr sy’n parhau â’u cwrs astudio |
| Beth sy’n digwydd? |
Mae’n rhaid i chi wneud cais am gymorth bob blwyddyn o’ch cwrs. Fodd bynnag, fel myfyriwr sy’n parhau, does dim angen i chi gysylltu ag unrhyw un (oni bai nad ydych wedi derbyn ffurflen erbyn y dyddiadau cau a roddir isod). Bydd manylion sut i wneud cais yn cael eu hanfon atoch yn awtomatig. Oherwydd hyn mae’n hollbwysig eich bod yn rhoi eich manylion cysylltu diweddaraf i ni bob tro.
|
| Pryd y dylid gwneud hyn? |
Gellir cyflwyno cais am gymorth hyd at naw mis ar ôl diwrnod cyntaf eich cwrs. Fodd bynnag, i sicrhau taliad ar ddechrau’r tymor, mae’n rhaid i chi ymgeisio erbyn y dyddiadau cau hyn:
Dyddiadau Cau ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2008/09:
Myfyrwyr Newydd: 27th Mehefin 2008
Myfyrwyr sy’n Parhau:23th Mai 2008
Pob Myfyriwr sy’n ymgeisio am yr elfen a asesir ar sail incwm yn unig ac sydd felly’n rhoi gwybodaeth ariannol: 25 Ebrill 2007
Dyddiadau Cau ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2007/08:
Myfyrwyr Newydd: 29 Mehefin 2007
Myfyrwyr sy’n Parhau: 25 Mai 2007
Pob Myfyriwr sy’n ymgeisio am yr elfen a asesir ar sail incwm yn unig ac sydd felly’n rhoi gwybodaeth ariannol: 27 Ebrill 2007
|
Cam Dau: Cefnogi’r cais
| Pwy sy’n gyfrifol? |
Rhieni neu Bartneriaid sy’n darparu Cymorth Ariannol ar gyfer myfyrwyr newydd neu fyfyrwyr sy’n parhau (noddwyr) |
| Beth sy’n digwydd? |
Pan fydd eich Awdurdod Lleol (ALl) yn asesu a ydych chi’n gymwys i dderbyn cymorth, bydd yn ystyried Incwm y Cartref, hynny yw, incwm y myfyriwr a’u rhieni neu bartner. Os na fydd eich rhieni neu bartner yn darparu manylion incwm, mae’n bosib na chewch chi gymorth tuag at eich ffïoedd, grant y mae gennych hawl i’w dderbyn, neu uchafswm y benthyciad myfyrwyr sydd ar gael i chi.
Pan fydd eich noddwyr yn rhoi manylion incwm fe fydd gwahoddiad hefyd iddyn nhw anfon dogfennau gwreiddiol yn brawf o’r incwm, ond fe gânt esboniad o’r hyn sydd angen ei anfon pan fyddant yn darparu manylion incwm y cartref.
Gall eich noddwyr gael ffurflen gais trwy:
- lwytho ffurflen oddi ar y wefan hon
- cyflwyno cais yma, ar lein
- gofyn am Ffurflen PFF1 neu PFF2 (gan ddibynnu ar a ydynt yn cefnogi myfyriwr newydd ynteu fyfyriwr sy’n parhau) a’r arweiniad sy’n dod gyda hi, gan eich Awdurdod Lleol
Bydd yr ALl yn edrych ar incwm eich noddwyr ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, ond os bu gostyngiad sylweddol yn yr incwm (15% neu fwy), mae’n bosib y byddant yn arolygu eu hincwm tebygol ar gyfer y flwyddyn gyfredol.
Os bydd yr ALl yn penderfynu y dylent wneud cyfraniad tuag at eich ffïoedd dysgu a’ch costau byw, byddant yn dweud wrthynt yn uniongyrchol.
|
| Pryd y dylid gwneud hyn? |
Gellir cyflwyno cais am gymorth hyd at naw mis ar ôl diwrnod cyntaf eich cwrs. Fodd bynnag, i sicrhau taliad ar ddechrau’r tymor, mae’n rhaid i chi ymgeisio erbyn y dyddiadau cau hyn: Dyddiadau Cau ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2008/09:
Myfyrwyr Newydd: 27th Mehefin 2008
Myfyrwyr sy’n Parhau:23th Mai 2008
Pob Myfyriwr sy’n ymgeisio am yr elfen a asesir ar sail incwm yn unig ac sydd felly’n rhoi gwybodaeth ariannol: 25 Ebrill 2007
Dyddiadau Cau ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2007/08:
Myfyrwyr Newydd: 29 Mehefin 2007
Myfyrwyr sy’n Parhau: 25 Mai 2007
Pob Myfyriwr sy’n ymgeisio am yr elfen a asesir ar sail incwm yn unig ac sydd felly’n rhoi gwybodaeth ariannol: 27 Ebrill 2007 |
Cam Tri: Asesu’r cais
| Pwy sy’n gyfrifol? |
Eich Awdurdod Lleol |
| Beth sy’n digwydd? |
Bydd y wybodaeth a gyflwynwyd gennych chi a’ch noddwyr yn cael ei harolygu a phenderfynir faint o grant, os os gwbl, y byddwch yn ei dderbyn, faint o fenthyciad y cewch ei fenthyg a pha gyfran o’ch ffïoedd dysgu y bydd disgwyl i chi eu talu.
|
| Faint o amser mae’r cam hwn yn ei gymryd? |
Os ydych wedi darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol gyda’ch cais, gallwch ddisgwyl clywed am eich hawl i gymorth rhwng chwech ac wyth wythnos ar ôl ei anfon (gweler Cam Pedwar). Gallwch gadw golwg ar gynnydd eich cais trwy gofrestru a mynd at eich proffil ar y wefan hon. Mae teitlau Statws y Cais yn cael eu hesbonio yn y tabl isod.
|
|
Beth yw ystyr hyn? Esbonio ‘Statws eich Cais’:
| STATWS EICH CAIS |
BETH YW YSTYR HYN |
| I’w Gwblhau |
Myfyriwr heb gwblhau data’r cais – wedi dechrau gwneud cais ond heb ei gwblhau |
| Aros Gwybodaeth Rhiant/Priod |
Myfyriwr wedi cyflwyno’r cais ar lein ac wedi nodi bod angen noddwyr |
| Aros Cyflwyniad Terfynol |
Yr holl noddwyr wedi cyflwyno eu data ariannol ar lein, ond ni all y cais fynd yn ei flaen heb ymyrraeth gan yr ALl. |
| Aros Asesiad |
Cais yn bwrw ymlaen gan yr ALl ond heb ei asesu hyd yma |
| Wedi’i Asesu |
Cais wedi’i asesu gan yr ALl ond y taliad heb ei gymeradwyo hyd yma, neu’r ymgeisydd wedi’i farnu yn anghymwys |
| Wedi’i Gymeradwyo |
Taliad wedi’i gymeradwyo ac yn aros i fynd |
| Aros am Lofnod y Myfyriwr ar y Datganiad |
Mae’r cais wedi’i gymeradwyo ond nid yw’r myfyriwr wedi llofnodi a dychwelyd y datganiad |
| Aros am Wybodaeth Bellach |
Mae angen mwy o wybodaeth ar yr AALl cyn y gallant brosesu’r cais – bydd yr AALl yn gofyn am hyn. |
| Symudwyd ymlaen gan yr AALl |
Mae’r cais yn nwylo’r AALl ac mae’n ymchwilio ymhellach iddo ar hyn o bryd. |
| Wedi’i Wahardd |
Myfyriwr /Sefydliad Addysg Uwch wedi hysbysu’r ALl bod y myfyriwr wedi’i wahardd o’r cwrs gyda’r dewis i ailddechrau |
| Wedi Tynnu’n ôl |
Myfyriwr / Sefydliad Addysg Uwch wedi hysbysu’r ALl bod y myfyriwr wedi tynnu’n ôl o’r cwrs cyfredol |
| Canslo |
Cais wedi cael ei ganslo, NEU cais wedi cael ei ganslo ac ar ôl newid data’r cais, y cais yn aros am gael ei asesu neu ei gymeradwyo |
|
|
Cam Pedwar: Cadarnhau’r cymorth a pharatoi at dalu
| Pwy sy’n gyfrifol? |
Cyllid Myfyrwyr Cymru |
| Beth sy’n digwydd? |
Unwaith y bydd eich Awdurdod Lleol wedi penderfynu ar eich hawl i Gymorth i Fyfyrwyr, byddant yn anfon y wybodaeth at Gyllid Myfyrwyr Cymru a fydd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau faint fydd yn cael ei dalu i chi a phryd. Mae’n bwysig nodi bod y dyddiad a roddir yn yr ohebiaeth hon yn ddibynnol ar i chi gofrestru ar eich cwrs yn brydlon a sicrhau bod eich manylion banc diweddaraf gennym.
|
| Faint o amser mae’r cam hwn yn ei gymryd? |
Os ydych wedi darparu’r holl wybodaeth angenrheidiol gyda’ch cais, gallwch ddisgwyl clywed am eich hawl i gymorth rhwng chwech ac wyth wythnos ar ôl ei anfon.
|
Cam Pump: Cadarnhau eich bod yn mynychu eich cwrs
| Pwy sy’n gyfrifol? |
Eich Prifysgol neu Goleg |
| Beth sy’n digwydd? |
Wrth gofrestru ar eich cwrs, fe ddylech chi fynd â’r pethau hyn gyda chi: eich Asesiad Ariannol (a anfonwyd atoch gan eich Awdurdod Lleol) a’ch Llythyr Amserlen Daliadau (a anfonwyd atoch gan SFW fel yr amlinellir uchod).
Yna bydd y man lle’r ydych yn astudio yn anfon neges at Gyllid Myfyrwyr Cymru yn cadarnhau eich bod yn mynychu yno. Wedyn bydd SFW yn rhyddhau rhandaliad cyntaf eich benthyciad a / neu grant.,/p>
|
| Faint o amser mae’r cam hwn yn ei gymryd? |
Yr amser y mae’n ei gymryd i gofrestru yn eich man astudio. Bydd SFW yn cael gwybod eich bod yn mynychu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn cofrestru.
|
Cam Chwech: Talu eich cymorth i fyfyrwyr
| Pwy sy’n gyfrifol? |
Cyllid Myfyrwyr Cymru |
| Beth sy’n digwydd? |
Cyn gynted ag y bydd SFW yn derbyn y cadarnhad y cyfeirir ato yng Ngham Pump, byddwn yn rhyddhau rhandaliad cyntaf eich benthyciad a / neu grant.(os ydych chi wedi cyflenwi NINO ac ein bod ni wedi gwirio’ch NINO gyda DWP.)
|
| Faint o amser mae’r cam hwn yn ei gymryd? |
Bydd y taliad yn cael ei ryddhau’n awtomatig pan dderbynnir cadarnhad eich bod yn mynychu. Fel arfer mae’n clirio yn eich cyfrif banc o fewn tri – pum niwrnod gwaith.
|
|
|