Oriau Agor y Pasg
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)? Ydych chi"n aros ymlaen yn yr ysgol neu"r coleg?
newyddion - mwy...
Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
 

Newyddion Diweddaraf


Cyfradd llog o 1 Medi 2009

Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn rhoi 0% o gyfradd llog o 1 Medi 2009 – 31 Awst 2010 ledled y DU.

Hyd yma, mae Mynegai Prisiau Manwerthu mis Mawrth wedi gosod cyfradd llog benthyciadau myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol (1 Medi – 31 Awst), ond mae’r gyfraith yn galluogi’r Llywodraeth i beidio â gosod cyfradd llog: gan wneud y gyfradd yn 0%.

Nid yw’r gyfradd llog yn gwneud unrhyw wahaniaeth i ad-daliadau misol y benthycwyr. Mae benthycwyr yn ad-dalu 9% o’u henillion dros y trothwy incwm o £15,000. Beth bynnag yw’r gyfradd llog, ni fydd yr ad-daliad misol yn newid.

Gwnaed y penderfyniad oherwydd mae benthyciadau eisoes yn cael eu noddi’n dda, a byddai’n anodd cyfiawnhau i drethdalwyr sefyllfa lle mae myfyrwyr yn cymryd benthyciadau yn 2009/10 a bod eu gweddill yn cael eu gostwng yn syth.

Bydd y trothwy ad-dalu hefyd yn parhau ar £15,000 ar gyfer y 12 mis nesaf. Petai’r llywodraeth wedi defnyddio cyfradd Mynegai Prisiau Manwerthu negyddol i gyfrifo hyn, byddai’r trothwy wedi gostwng a byddai’r benthycwyr wedi dechrau ad-dalu’n gynt ac wedi talu mwy yn y diwedd. Mae gosod y llog ar 0% wedi atal hyn rhag digwydd.

Bydd hyn yn effeithio ar y sawl a chanddynt fenthyciad myfyriwr a gafwyd ar ôl Medi 1998 yn weddill yn ogystal ag ymgeiswyr am fenthyciadau cynhaliaeth a benthyciadau ffioedd dysgu yn y flwyddyn academaidd bresennol a nesaf.

Dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr sy’n cymryd blwyddyn i ffwrdd yn 09/10 – 1 Awst

Mae’r rheolau cyllid i fyfyrwyr yn newid ar gyfer blwyddyn academaidd 10/11 – cyrsiau sy’n dechrau ar ôl mis Medi 2010. Ni fyddwch bellach yn cael y grant ffioedd dysgu os ydych chi’n fyfyriwr newydd ond byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu estynedig.

Os ydych chi’n cymryd blwyddyn i ffwrdd yn 09/10, rhaid eich bod chi wedi cael llythyr yn cynnig lle i chi erbyn 1 Awst 2009, er mwyn cael pecyn cyllid i fyfyrwyr 09/10. Yn ogystal, gallwch wneud allbrint o’r cynnig ar y system Track gan UCAS. Os collwch chi’r dyddiad cau hwn, byddwch yn cael pecyn 10/11 ac ni fydd gennych hawl i’r grant ffioedd dysgu.

Byddwch yn cael cyllid 09/10 os bydd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • eich bod yn cymryd cynnig o le ym mlwyddyn academaidd 10/11 a fu gennych ar 1 Awst 2009 neu cyn hynny (gall hyn naill ai fod yn gynnig amodol neu ddiamod)
  • mae gennych gynnig ar gyfer 09/10 ond rydych chi’n cymryd lle ym mlwyddyn academaidd 10/11 ar gyfer cwrs gwahanol. Bydd angen i chi anfon copi o lythyr yn cadarnhau bod cynnwys eich cwrs newydd yr un fath gan mwyaf at Gyllid Myfyrwyr Cymru.
  • bod gennych gynnig amodol ar gyfer blwyddyn academaidd 09/10 ond eich bod chi wedi cymryd y lle yn 10/11 yn lle 09/10 ar ôl apelio’ch canlyniadau arholiad yn llwyddiannus.

Darllenwch y ddogfen Holi ac Ateb ganlynol i gael mwy o wybodaeth:

Newidiadau i Gyllid Myfyrwyr o’r Flwyddyn Academaidd 10/11 ymlaen

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig newidiadau i reolau cyllid myfyrwyr o’r Flwyddyn Academaidd 10/11 ymlaen. Os byddwch yn dechrau cwrs addysg uwch yn y Flwyddyn Academaidd 10/11 byddwch yn derbyn pecyn cyllid myfyrwyr wedi’i ailfodelu.

Os ydych chi’n parhau â chwrs y gwnaethoch ddechrau arno cyn 10/11, bydd gennych yr hawl i'r un trefniadau cyllid myfyrwyr â’r rhai oedd gennych yn ystod y blynyddoedd blaenorol.

Os oes gennych gynnig lle cyn 1 Awst 2009, ond eich bod yn cymryd blwyddyn i ffwrdd ac yn dechrau’r cwrs hwnnw yn y flwyddyn academaidd 10/11, bydd gennych yr hawl i'r un trefniadau cyllid myfyrwyr â’r rhai oedd gennych yn ystod y blynyddoedd blaenorol.

Serch hynny, os ydych chi’n fyfyriwr sy’n parhau neu’n fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd a’ch bod yn cymryd benthyciad cynhaliaeth newydd o'r flwyddyn academaidd 10/11, efallai y byddwch yn gymwys am ryddhad dyledion.

MYFYRWYR ‘GWYBODUS AR Y RHYNGRWYD’ SYDD FWYAF WRTH RISG O DWYLL AR-LEIN

Mae defnyddwyr y rhyngrwyd sydd mewn addysg lawn amser ymron ddwywaith yn fwy hyderus ar-lein na defnyddwyr eraill y rhyngrwyd - y mae mwy na hanner ohonynt yn ystyried eu hunain yn llythrennog ‘iawn’ ar y rhyngrwyd, o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 26%. Er gwaethaf hyn, hwy sydd fwyaf diystyriol o’r risg o drosedd ar-lein ac o bwysigrwydd offer diogelwch sylfaenol (megis meddalwedd gwrth firws) wrth ddiogelu eu hunain yn erbyn troseddau.

  • Cred un o bob 10 bod 'dim risg' o drosedd, mwy na dwbl y cyfartaledd cenedlaethol
  • Nid yw ymron i un o bob tri yn gweld meddalwedd diogelwch fel mesur pwysig, sy'n llawer yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol

Mae myfyrwyr ymhlith y tramgwyddwyr mwyaf wrth gymryd risgiau dianghenraid ar-lein. Er enghraifft:

  • Mae 28% yn cyfaddef eu bod wedi bwydo manylion personol i mewn i wefan o gyfrifiadur ansicredig
  • Mae ymron i un o bob pump yn postio gwybodaeth bersonol werthfawr (megis eu dyddiad geni neu eu cyfeiriad cartref) yn rheolaidd ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, ymron i ddwbl y cyfartaledd cenedlaethol

Am ragor o wybodaeth, ac i ddarllen yr adroddiad cyfan, ymwelwch â Get Safe Online.

Cynllun Iaith Gymraeg Newydd

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cymeradwyo’r Cynllun Iaith Gymraeg ar gyfer y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Mae’n disgrifio sut byddwn yn datblygu, yn hyrwyddo ac yn cyflawni gwasanaethau Cymraeg eu hiaith. Paratowyd y cynllun mewn cydweithrediad â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac mae’n gyson â’i ganllawiau ac egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 o drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)? Ydych chi"n aros ymlaen yn yr ysgol neu"r coleg?

Darganfyddwch ynghylch yr arian y gallech ei gael a sut i fynd ato ar gyfer blynyddoedd ysgol a choleg 08/09 a 09/10.

Cymerwch olwg ar ein micro safle LCA/GDC(AB)  i gael yr holl fanylion.

Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm


Sut caiff llog ei gyfrifo ar fy menthyciad?

Mae’r gyfradd llog sy’n daladwy ar fenthyciadau i fyfyrwyr ar sail incwm wedi’i gostwng yn sgil y newid diweddaraf i gyfradd Banc Lloegr i 0.5% Ddydd Iau, 5ed Mawrth. Y gyfradd newydd ar gyfer benthyciadau i fyfyrwyr ar sail incwm yw 1.5% yn effeithiol o 6ed Mawrth hyd oni nodir yn wahanol. Mae llog yn cael ei gymhwyso i fenthyciadau o’r dyddiad y maent yn cael eu talu i chi hyd nes y byddant yn cael eu had-dalu’n llawn.            


Pam ei fod wedi newid?            


Nid yw benthyciadau i fyfyrwyr yr un peth â benthyciadau masnachol. Maent wedi’u cymorthdalu gan y Llywodraeth ac yn denu cyfradd llog cost isel. Mae’r gyfradd llog wedi’i seilio ar fynegai prisiau manwerthu blynyddol mis Mawrth neu gyfradd sylfaen uchaf nifer o’r prif fanciau ynghyd ag 1%; pa bynnag un sydd isaf.            


Hyd yma, y Mynegai Prisiau Manwerthu oedd yr isaf o’r ddau bob amser. Mae cyfradd sylfaenol y banc ostyngol ynghyd ag 1% bellach yn is na Mynegai Prisiau Manwerthu Mawrth 2008 ac felly rydym wedi addasu cyfradd llog y myfyrwyr ar hyn o bryd i 1.5%.



Ble gallwch gael mwy o wybodaeth:

Gwefan Ad-dalu Benthyciad Myfyrwyr

Rhifau Cais UCAS

Mae UCAS newydd newid eu prosesau ar gyfer blwyddyn academaidd 2009/2010 ymlaen. Nid ydynt yn darparu’r rhif cais UCAS i fyfyrwyr mwyach, dim ond Dull Adnabod Personol. Mae ein cais ar-lein ond yn gofyn am y Dull Adnabod Personol. Fodd bynnag, gofynnwn am y rhif cais ar y ffurflenni papur. Mae’r ffurflenni eisoes wedi’u hargraffu ar gyfer 2009/2010. Gellir eich calonogi na fydd ceisiadau myfyrwyr yn cael eu hoedi o ganlyniad I beidio â darparu rhif cais UCAS. Byddwn yn newid ein ffurflenni cais papur o flwyddyn academaidd 2010/2011 ymlaen.

Gwybodaeth bwysig os ydych chi newydd newid eich manylion banc

Mewngofnodwch i'ch cyfrif a theipiwch eich manylion banc newydd cyn gynted â phosibl.  Bydd hyn yn ein galluogi ni i dalu'ch rhandaliad Cyllid Myfyriwr nesaf i'r cyfrif cywir.

OEDIAD MEWN TALIADAU LWFANS CYNHALIAETH ADDYSG

Adroddwyd yn y Times ac ar y BBC y llynedd ac ar deledu brecwast y bydd myfyrwyr yn wynebu oediadau wrth dderbyn eu Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA) ac y bydd yr oedi hwn yn effeithio at tua 150,000 o fyfyrwyr.

Sylwer nad fydd hyn yn effeithio ar unrhyw gefnogaeth y byddwch yn ei derbyn trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, sef grant, benthyciad neu fwrsariaeth.

Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein gwefan newydd bellach yn fyw. Gellir dod o hyd iddi yn www.studentloanrepayment.co.uk.

Mae Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr (Student Loan Repayment) yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad i unrhyw un sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau ac y mae ganddynt fenthyciad myfyriwr gydag SLC. Yn ogystal, mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau ar-lein er mwyn i chi:

  • Gyfrifo’ch gweddill ar-lein
  • Diweddaru’ch manylion cyswllt
  • Gwneud taliadau benthyciad ar-lein gyda cherdyn debyd neu gredyd

Credwn y bydd y gwelliannau hyn o ddefnydd i chi, yn enwedig os ydych chi’n byw neu’n gweithio dramor.
Mae hwn ar gael i gwsmeriaid gyda benthyciadau Cyfnod Penodol a benthyciadau Ad-dalu Amodol ar Incwm.

Os defnyddioch chi Cyllid Myfyrwyr Cymru i wneud cais am grantiau neu fenthyciadau, gallwch ddefnyddio’ch ART ID presennol, ateb cyfrinachol a chyfrinair i fewngofnodi a chymryd mantais ar ein porth diogel.
Os oes gennych fenthyciad gyda’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar hyn o bryd, disgwyliwch lythyr yn dweud wrthych am ein gwasanaeth newydd.

Diweddariad Diogelwch

Mae Cyllid Myfyrwyr Uniongyrchol yn ymwybodol o nifer o ymgyrchoedd e-bost sy’n honni mai'n nhw yw Cyllid Myfyrwyr Uniongyrchol. Mae’n bosibl y bydd y negeseuon e-bost ffug (phishing) hyn yn gofyn i chi roi eich manylion diogelwch. Os ydych chi’n derbyn unrhyw neges e-bost amheus, anfonwch hwy ymlaen ar unwaith at security@slc.co.uk. Mae eich diogelu chi a’ch gwybodaeth o’r pwys mwyaf i Gyllid Myfyrwyr Uniongyrchol. Cofiwch na fyddwn byth yn anfon neges e-bost atoch chi yn gofyn am eich manylion mewngofnodi neu ddefnyddiwr. Mae’n hawdd diogelu eich hunan ar-lein - am ragor o wybodaeth ynghylch amddiffyn eich diogelwch, ewch i’n tudalen wybodaeth ar ddiogelwch.

Ceisiadau Ar-lein ar gael nawr!

Buom yn gweithio’n galed i wneud y cais ar-lein mor gyflym ac effeithlon â phosibl, a gallwch gyflwyno eich cais am gymorth i fyfyrwyr amser llawn ar-lein bellach.

Cofrestrwch i wneud cais ar-lein

Ewch yn syth i’r cais ar-lein os ydych wedi cofrestru eisoes

Ydych chi"n meddwl am ddechrau cwrs yn 09/10?

Sylwch: nid yw ceisiadau am gyrsiau sy'n dechrau o fis Medi 2009 ar gael
eto.  Byddwch yn gallu gwneud cais o fis Chwefror 2009 ymlaen.

Cykkud myfyrwyr cymru – gwaith cynnal a chadq hanfodol

Ar hyn o bryd, nid yw’n cyfleuster Edrych ar Ohebiaeth ar gael yn sgil gwaith cynnal a chadw arferol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.