Oriau Agor y Pasg
newyddion - mwy...
Ydych chi"n chwilio am LCA neu GDC (AB)? Ydych chi"n aros ymlaen yn yr ysgol neu"r coleg?
newyddion - mwy...
Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm
newyddion - mwy...
Rhifau Cais UCAS
newyddion - mwy...
Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
 

Telerau ac Amodau


Diogelu Data a Phreifatrwydd

Trwy fynd ymlaen i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cydsynio i’r telerau a’r amodau yn hyn ac i SLC brosesu’ch data personol at y dibenion a nodir yn hyn. Mae SLC yn cydnabod bod eich preifatrwydd yn bwysig i chi. Felly, dylech ddarllen ein Polisi Preifatrwydd a’r Siarter Wybodaeth sy’n esbonio pam a sut byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a rowch i ni trwy’r wefan hon. Trwy dderbyn y telerau a’r amodau hyn, rydych chi hefyd yn cytuno i dderbyn telerau’n Polisi Preifatrwydd a’n Siarter Wybodaeth.


Hawlfraint

© Hawlfraint y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn unig yw’r wefan hon a’i chynnwys cysylltiedig. Cedwir pob hawl.

Mae’r holl eiddo deallusol a’r hawlfraint yn nyluniad a chynllun y wefan hon a’r deunydd a’r wybodaeth a gyhoeddir ar ei thudalennau yn perthyn i SLC. Ni allwch gopïo unrhyw ran o’r safle na gwneud unrhyw weithred arall mewn perthynas ag unrhyw ran o’r safle a waherddir yn ôl hawlfraint ar wahân i’r canlynol:-

  1. gallwch argraffu neu lawrlwytho i ddisg galed leol unrhyw dudalen at eich defnydd personol ac anfasnachol yn unig;
  2. mewn deunyddiau a ddosberthir i drydydd partïon gallwch ddyfynnu o’r safle os ydych yn rhoi achrediad dyledus i’r awdur ac i SLC.
  3. sylwch fod dogfennau neu wybodaeth arall a gaiff eu hargraffu neu eu lawrlwytho i ddisg galed leol o’r wefan yn mynd yn ‘ddireolaeth’ yn awtomatig yn syth o’r eiliad maent yn cael eu hargraffu neu eu lawrlwytho. Yr unig fersiynau ‘rheoledig’ (h.y. cyfredol) yw’r rhai ar y wefan.

Dylid cyfeirio caniatâd i ddefnyddio neu atgynhyrchu unrhyw ran o’r deunydd hwn mewn unrhyw ffordd ar wahân i’r hyn a restrwyd uchod at SLC. Rhaid i chi beidio â diwygio copïau papur o unrhyw ddeunyddiau rydych chi wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho oni bai y cawsoch awdurdod i wneud hynny gan SLC, er hynny, gallwch wneud anodiadau neu nodiadau ar gopïau papur rydych chi wedi’u hargraffu at eich defnydd personol eich hun.


Polisi Cysylltu

Bydd rhai dolenni cyswllt yn y wefan hon yn arwain at wefannau nad ydynt o dan reolaeth SLC. Pan fyddwch yn agor y rhain, byddwch yn gadael y wefan hon. Nid oes gan SLC unrhyw reolaeth dros ac nid yw’n derbyn unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â deunyddiau, cynhyrchion na gwasanaethau sydd ar gael ar unrhyw wefan nad ydynt o dan reolaeth SLC. Mae SLC yn cynnig y dolenni cyswllt hyn i chi er cyfleustod yn unig, ac nid yw cynnwys unrhyw ddolen gyswllt yn awgrymu bod SLC yn cymeradwyo’r safle.


Gallwch gysylltu â’n gwefan, os gwnewch chi hynny mewn ffordd deg a chyfreithlon ac nad yw’n difrodi ein henw da nac yn manteisio arno, ond rhaid i chi beidio â sefydlu dolen gyswllt mewn unrhyw ffordd er mwyn sefydlu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu gefnogaeth ar ein rhan ni lle nad oes un yn bodoli.


Ymwadiad

Mae’r deunydd a’r wybodaeth ar y wefan hon at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni ddylech ddibynnu ar y deunydd na’r wybodaeth ar y wefan fel sail ar gyfer gwneud unrhyw benderfyniadau busnes, cyfreithiol neu unrhyw benderfyniadau eraill. Er ein bod ni’n ymdrechu i gadw’r wybodaeth yn ddiweddar ac yn gywir, nid yw SLC yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau o unrhyw fath, a fynegwyd neu a awgrymwyd am gyfanrwydd, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd neu argaeledd mewn perthynas â’r wefan neu’r wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau neu graffigau cysylltiedig ar y wefan at unrhyw ddiben. Eich cyfrifoldeb eich hun yn unig fydd rhoi unrhyw ddibynniaeth ar ddeunydd felly.


I’r graddau nad yw’r gyfraith yn eu gwahardd, ni fydd SLC yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw golled neu ddifrod (gan gynnwys, heb gyfyngiad, difrod am golli busnes neu golli elw a cholledion ôl-ddilynol), sy’n codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’ch defnydd, neu’ch anallu i ddefnyddio’r safle hwn neu unrhyw ddeunydd ynddo ac mae SLC yn eithrio pob amod, gwarant a thelerau eraill a allai gael eu hawgrymu fel arall yn ôl statud, cyfraith gwlad neu gyfraith ecwiti.


Nid yw SLC yn atebol am gynnwys, dibynadwyedd nac argaeledd unrhyw safleoedd rhyngrwyd allanol a restrwyd ganddo, ac nid yw o reidrwydd yn cymeradwyo unrhyw safbwyntiau neu wasanaethau a grybwyllwyd ynddynt. Nid oes gan SLC unrhyw reolaeth dros y Rhyngrwyd ac nid yw’n cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ymyriad ar wasanaeth na throsglwyddo firysau neu unrhyw god cyfrifiadurol maleisus arall trwy’r wefan hon. Nid yw SLC yn sicrhau y bydd y wefan hon, nac unrhyw ran ohono, ar gael i fynd ati ar unrhyw adeg neu adegau penodol.


Cyfrineiriau

Lle rydym wedi rhoi (neu lle rydych chi wedi dewis) enw defnyddiwr a chyfrinair a/neu ateb cyfrinachol i chi sy’n eich galluogi i fynd at rai rhannau o’n safle, rydych yn gyfrifol am gadw’r manylion hyn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu’r wybodaeth fewngofnodi hon a/neu’ch cyfrinair â neb.


Indemniad

Rydych chi’n cytuno i indemnio a chadw indemnio SLC am ac yn erbyn unrhyw gostau, hawliadau, gorchmynion, treuliau a rhwymedigaethau a ddioddefwyd gan SLC sy’n codi o neu sy’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gysylltiedig â’ch mynediad i’r wefan hon a/neu’ch defnydd ohoni.

Ymwadiad

Darperir y deunyddiau sydd yn y wefan hon er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac nid ydynt gyfystyr â chyngor cyfreithiol neu broffesiynol fel arall. Nid yw’r SLC yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am wybodaeth ar y wefan hon ac mae’n ymwadu ag unrhyw atebolrwydd o ran gwybodaeth o’r fath. Rhoddir caniatâd i lwytho i lawr a storio dros dro un neu fwy o’r tudalennau hyn er mwyn edrych arnynt ar gyfrifiadur personol neu fonitor. Gwaherddir atgynhyrchu, storio’n barhaol neu ail-drosglwyddo unrhyw ran o gynnwys y wefan hon heb ganiatâd ysgrifenedig yr SLC ymlaen llaw.

Nid yw’r SLC yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau sy’n gysylltau uniongyrchol neu anuniongyrchol o unrhyw dudalennau ar y wefan hon, y cysylltau a ddarperir er gwybodaeth yn unig.

Deddf Cwmnïau

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn dosbarthu cymorth ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru i fyfyrwyr a dysgwyr eraill sy’n byw yng Nghymru fel arfer, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol mewn llywodraeth leol, ysgolion, addysg bellach ac addysg uwch a’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Swyddfa gofrestredig: 21 St. Thomas Street, Bryste BS1 6JS. Cofrestrwyd yn Lloegr Rhif 2401034. Rhif cofrestru TAW. 556 4352