|
Rydych chi yma…
Cofrestru: Cyflwyniad
|
|
|
|
Cofrestru Diddordeb
Pwy ddylai gofrestru?
Dylech gofrestru gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru os ydych yn fyfyriwr newydd neu os ydych yn cefnogi myfyriwr am y tro cyntaf a bod eich cyfeiriad cartref yng Nghymru.
Pwy NA ddylai gofrestru?
Os ydych yn gwsmer presennol ac yn gwneud cais am gymorth ariannol pellach, neu os ydych wedi rhoi eich manylion i gefnogi myfyriwr mewn blwyddyn flaenorol, byddwch eisoes wedi cofrestru ar ein system ac ni ddylech gofrestru eto. Os ydych wedi cofrestru yn y gorffennol, ond heb gwblhau cais, bydd eich manylion ar ein system yn barod. I fewngofnodi, bydd angen eich ART ID (byddwch yn gweld hwn ar unrhyw ohebiaeth gennym) a’ch cyfrineiriau arnoch. Os nad ydych yn gwybod eich cyfrineiriau, gallwch eu hailosod nhw yma.
Pam dylwn i gofrestru?
P’un a ydych chi’n fyfyriwr neu’n cefnogi myfyriwr, pan gofrestrwch gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru fe gewch fanylion mewngofnodi er mwyn i chi weld eich cyfrif cyllid myfyrwyr eich hun ar-lein.
O’ch cyfrif ar lein gallwch:
- wneud cais am gymorth ariannol ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2008/09
- edrych ar statws eich cais a chadw golwg ar unrhyw dystiolaeth rydych wedi’i hanfon
- diweddaru eich manylion cysylltu neu’ch manylion banc
- rhoi manylion incwm eich cartref er mwyn cefnogi cais gan fyfyriwr
Parhau
|
|
|
|
|
|
|