Faint allaf i ei dderbyn?

group of caroline

Er mwyn penderfynu faint fyddwch chi’n ei dderbyn, rydym yn edrych ar incwm blynyddol eich cartref a nifer yr oriau y mae eich cwrs yn para.


Os ydych chi’n astudio’n llawn amser, gallwch dderbyn taliad Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) o hyd at £1,500 neu £750 os ydych chi’n astudio’n rhan amser. Rhaid i’ch coleg gadarnhau eich presenoldeb, er mwyn i chi dderbyn y taliadau bob tymor.

Eich Cartref


Pan rydym yn dweud ‘eich cartref’, rydym yn golygu eich rhiant/rhieni neu’ch gwarcheidwad/gwarcheidwaid os ydych chi’n fyfyriwr dibynnol.


Rydym yn ystyried eich bod yn ddibynnol oni bai eich bod yn syrthio i mewn i un o’r categorïau annibynnol isod:

  • eich bod yn 25 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf eich cwrs;
  • eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau eich cwrs;
  • eich bod yn byw ar wahân i’ch rhieni;
  • eich bod wedi bod yn cynnal eich hun yn ariannol am fwy na 3 blynedd;
  • eich bod yn gyfrifol am blentyn; neu
  • eich bod yn byw dan ofal Gwasanaethau Cymdeithasol.

Os ydych chi’n ddibynnol, rydym yn edrych ar incwm eich rhiant/rhieni neu’ch gwarcheidwad/gwarcheidwaid. Os ydych chi’n annibynnol, mae incwm eich cartref yn golygu eich incwm ynghyd ag incwm unrhyw bartner yr ydych yn byw gadeg ef/hi. Os ydych chi’n gweithio’n rhan amser, nid yw’r incwm hwn yn cael ei gyfrif pan fyddwn yn edrych ar incwm eich cartref.


Ni fydd taliadau Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych chi neu eich cartref eisoes yn eu derbyn.

Symiau


Dyma incwm y cartref a’r symiau y gallech chi eu derbyn ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ar 1 Medi 2008 hyd 31 Awst 2009:

 

Incwm Blynyddol y Cartref Rhan amser (275-499 awr) Llawn amser (500+ awr)
Hyd at £5,745 £750 £1500
£5,746 - £11,490 £450 £750
£11,491 - £17,250 £300 £450
£17,251 a throsodd £0 £0

Bydd y taliadau yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, felly mae’n rhaid i chi gael un o’r rhain cyn ymgeisio am Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach). Cofiwch, rhaid i’r cyfrif allu derbyn credydau uniongyrchol.


Os na allwch agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn eich enw eich hun, cofiwch gysylltu â ni.