|
Croeso i Gyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer myfyrwyr Addysg Bellach. Mae’r safle hwn yn rhoi gwybodaeth i chi ar arian sydd ar gael ar gyfer pobl dros 16 sy’n bwriadu parhau yn yr ysgol neu’r coleg.
Mae LCA (Lwfans Cynhaliaeth Addysg) a Grant Dysgu’r Cynulliad yn cynnig arian i chi wrth astudio.
Defnyddiwch ein cyfrifiannell ar-lein i weld a allwch chi dderbyn un o’r rhain
A allaf i dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu’r Cynulliad?
Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg wedi’i anelu at fyfyrwyr rhwng 16 a 18 mlwydd oed sy’n mynychu ysgol neu goleg yng Nghymru.
Mae Grant Dysgu’r Cynulliad wedi’i anelu at fyfyrwyr 19 mlwydd oed neu’n hŷn sy’n astudio mewn ysgol neu Goleg Addysg Bellach a ariannir yn gyhoeddus.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu’r Cynulliad (Addysg Bellach) ar gael gan ddefnyddio’r cysylltiadau ar yr ochr dde.
|