|
|
|
Gwneud taliadau ychwanegol i glirio’ch balans ynghynt
|
|
|
|
|
|
Os ydych yn dymuno, gallwch ad-dalu eich benthyciad ynghynt trwy wneud ad-daliadau yn uniongyrchol i ni, boed eich incwm yn uwch na’r trothwy Ad-dalu ai peidio.
Os byddwch yn dewis gwneud ad-daliadau gwirfoddol byddant yn ychwanegol at unrhyw ad-daliadau a gesglir drwy’r system dreth. Ni fydd yr ad-daliadau a wnewch ar sail eich incwm yn cael eu lleihau, ond fe fyddwch yn ad-dalu eich benthyciad yn gyflymach trwy wneud ad-daliadau ychwanegol. Ad-daliadau gwirfoddol o £5 neu fwy yn unig a dderbynnir.
Gallwch wneud ad-daliadau gwirfoddol trwy’r dulliau canlynol:
- SIEC neu ARCHEB BOST: ysgrifennwch eich rhif cyfair myfyrwyr (Rhif Cymorth i Fyfyrwyr neu ART ID) ar gefn eich siec neu archeb bost a’i hanfon yn uniongyrchol at: Adran Gyllid, Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf., 100 Bothwell Street, Glasgow, G2 7JD
- CERDYN DEBYD neu GREDYD (Switch, Maestro, Solo, Delta, Visa, Mastercard): ffoniwch ymgynghorydd cwsmeriaid ar 0870 240 6298, dydd Llun - Gwener 08:00 - 17:30. Bydd tâl ychwanegol o 1.5% yn cael ei ychwanegu at ad-daliadau cardiau credyd a wneir. Ni fydd y tâl hwn yn berthnasol i gardiau debyd.
- DEBYD UNIONGYRCHOL: ffoniwch gynghorydd cwsmeriaid ar 0870 240 6298
- CREDYD BANC GIRO: ffoniwch gynghorydd cwsmeriaid a gofynnwch am lyfr talu i mewn
- ARCHEB SEFYDLOG:llenwch ac argraffwch y ffurflen archeb sefydlog a ddarperir yma a’i hanfon at eich banc.
Mae’n rhaid ichi gynnwys un o’r cyfeirnodau canlynol:
- Rhif Cymorth Myfyrwyr neu Art ID os yw’r taliad tuag at Fenthyciad Amodol ar Incwm (ICR),
- Rhif Grant (GR) os yw’r taliad tuag at ordaliad grant, Rhif Ffi Ddysgu os yw’r taliad tuag at Fenthyciad Ffi Ddysgu.
|
|
|