Pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr eleni 08/09?


Mae’r dudalen hon yn berthnasol i Flwyddyn Academaidd 2008/09. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ym Mlwyddyn Academaidd 09/10.

Mae Deddf Addysg Uwch 2004 yn rhoi’r pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu pa lefelau o ffioedd dysgu a chymorth i fyfyrwyr a fydd yn berthnasol yng Nghymru. Bu Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi’r pwerau hyn ar waith ers dechrau blwyddyn academaidd 2006/07 ac yn darparu gwasanaethau cyllid myfyrwyr, mewn partneriaeth â’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ac Awdurdodau Lleol, o dan frand ‘Cyllid Myfyrwyr Cymru’.

Benthyciadau i Fyfyrwyr

Mae benthyciadau ar gael i fyfyrwyr i helpu gyda chostau byw, e.e. llety, bwyd, dillad, teithio ac ati. Mae llog yn cael ei godi ar y gyfradd chwyddiant, felly bydd y swm y bydd y myfyriwr yn ei ad-dalu yr un gwerth â’r swm a fenthycwyd. Ar hyn o bryd, y gyfradd llog yw 3%.

Cymorth gyda ffioedd dysgu

Gall myfyrwyr ymgeisio am fenthyciad i dalu’r union swm y mae’r brifysgol neu’r coleg yn ei godi am gwrs a bydd yr arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r brifysgol neu’r coleg i dalu cost y ffioedd. 

Ffioedd Dysgu Hyblyg

Mae Deddf Addysg Uwch 2004 yn rhoi’r pwerau i brifysgolion a cholegau yn Lloegr osod eu lefel eu hunain o ffioedd dysgu, sy’n destun terfyn a osodwyd gan yr Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau. Mae Deddf 2004 hefyd yn rhoi cyfrifoldeb ar gyfer y gyfundrefn ffioedd dysgu yn Sefydliadau Addysg Uwch Cymru i Weinidogion Cymru.  Mae sefydliadau yng Nghymru, ynghyd â’r rhai yn Lloegr yn codi ffioedd hyblyg gohiriedig blynyddol ar gyfer gwahanol gyrsiau, rhwng £0 a £3,225.

Yn 2009/10, bydd y ffi hyblyg gohiriedig blynyddol yn gymwys i’r holl fyfyrwyr a ddechreuodd eu hastudiaethau ar 1 Medi 2006 neu wedi hynny, gan gynnwys y rhai a ddechreuodd ar 1 Medi 2009 neu wedi hynny.

Mae Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru wedi codi ffioedd hyblyg blynyddol wedi’u gohirio ers blwyddyn academaidd 2007/08 a bydd y ffioedd ar gyfer 2008/09 hyd at £3,145.
 
Yn 2009/10 bydd y ffi hyblyg flynyddol wedi’i gohirio yn berthnasol i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr a ddechreuodd astudio yn 2006/07neu 2007/08.
O 2009/10 ymlaen, bydd gan fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru fel rheol AC  sy’n astudio mewn sefydliad addysg uwch a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru hawl i grant ffioedd dysgu heb brawf modd o hyd at £1,940 nad oes rhaid iddo gael ei ad-dalu. Mae’r grant ffioedd dysgu ar gael heb ystyried incwm teulu, ac mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol i fan astudio’r myfyriwr. 
Ni fydd myfyrwyr sy’n byw fel arfer yng Nghymru ond yn astudio yn rhywle arall yn y DU yn gallu hawlio grant ffioedd dysgu. Codir ffioedd arnynt yn ôl trefn ffioedd y wlad lle byddant yn astudio, ac sydd wedi’u gosod gan eu sefydliad. Fodd bynnag, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru’n darparu benthyciad i dalu’r ffioedd hyn.  

Cymorth ychwanegol

Mae grantiau pellach ar gael mewn rhai amgylchiadau i fyfyrwyr amser llawn sy’n byw fel arfer yng Nghymru. Gallai myfyrwyr hawlio’r cymorth canlynol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru:  

Grant Dysgu’r Cynulliad

Mae myfyrwyr addysg uwch amser llawn newydd o gartrefi incwm is yn gymwys am grant cynhaliaeth nad yw’n ad-daladwy – sef Grant Dysgu’r Cynulliad – hyd at £2,906
Bydd y grant llawn ar gael i fyfyrwyr ag incwm cartref sy’n £18,370 neu’n llai; bydd grant rhannol ar gael i’r rheini ag incwm cartref hyd at £39,793.
Gallai myfyrwyr sy’n parhau fod yn gymwys i gael Grant Addysg Uwch sy’n destun prawf modd hyd at £1,000 a hyd at £500 ychwanegol o Grant Dysgu’r Cynulliad.

Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn
Mae’r rhain ar gael drwy brifysgolion a cholegau. Mae’r gronfa’n galluogi’r sefydliadau i roi cymorth dewisol i fyfyrwyr sy’n cael anawsterau ariannol, neu fyfyrwyr na fyddent efallai fel arall wedi gallu fforddio dechrau neu barhau mewn addysg uwch neu addysg bellach. 

Bwrsarïau

Mae bwrsarïau’n gymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr, sy’n cael eu darparu gan y coleg neu’r brifysgol a fynychwch. Bydd Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol ar waith i fyfyrwyr Addysg Uwch yng Nghymru. Mae manylion pellach ar gael ar dudalen gartref Cynllun Bwrsarïau Cymru.