Beth sy’n rhaid i mi ei wneud?


Rwy’n parhau â’m cwrs

Hyd yma fe fyddwch wedi bod yn cael eich cymorth ariannol trwy Student Finance Direct. Fodd bynnag, o flwyddyn academaidd 2006/07, Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yn gyfrifol am weinyddu’r cymorth hwn trwy’r bartneriaeth cyflwyno gwasanaeth o’r enw Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW).

Os ydych eisoes wedi gwneud cais am gymorth ar gyfer blwyddyn flaenorol o’ch cwrs, does dim angen i chi gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru na’ch Awdurdod Lleol oni bai eich bod heb dderbyn ffurflen ar gyfer y Flwyddyn Academaidd newydd. Byddwn yn cysylltu â chi’n awtomatig gyda manylion sut i wneud cais.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno cais ar gyfer pob blwyddyn rydych mewn addysg uwch. Fodd bynnag, ni fydd yn rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth bob blwyddyn oni bai fod eich amgylchiadau wedi newid, er enghraifft, incwm eich cartref neu eich statws priodasol. 

Rwy’n newid fy nghwrs neu fy sefydliad

Os ydych yn dymuno trosglwyddo cyrsiau, siaradwch â’ch Sefydliad a’ch Awdurdod Lleol cyn gynted ag y bo modd. Mae’n bosib y gallwch drosglwyddo’r cymorth a gewch tuag at eich ffïoedd at gwrs arall.

Rwy’n gadael fy nghwrs astudiaeth

Os byddwch yn gadael eich cwrs yn gynnar, fe all hynny effeithio ar eich hawl i gymorth ariannol os byddwch yn dychwelyd i addysg uwch yn y dyfodol. Fe fydd hi’n adeg ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr y mis Ebrill sy’n dilyn y dyddiad olaf y buoch yn mynychu’r cwrs. 

Rwy’n dychwelyd i gwrs addysg uwch newydd ar ôl toriad yn f’astudiaethau

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol. Fe fydd hi’n dal yn bosib i chi wneud cais am Fenthyciad Myfyrwyr, ond mae’n bosib na fydd gennych hawl i dderbyn cymorth ariannol tuag at eich ffïoedd dysgu neu rai grantiau os ydych wedi derbyn cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau o’r pwrs cyhoeddus o’r blaen. Serch hynny, mae yna eithriadau a byddwn yn rhoi ystyriaeth i’ch amgylchiadau personol.