Faint, sut a phryd y byddaf yn ad-dalu?


Os ydych yn ennill mwy na £15,000 y flwyddyn, fe ddaw hi’n adeg dechrau ad-dalu eich benthyciad ar y 6ed o Ebrill yn dilyn y dyddiad y gwnaethoch chi gwblhau neu adael eich cwrs.

Os byddwch yn tynnu’n ôl o’ch cwrs cyn y dyddiad roeddech yn bwriadu graddio’n wreiddiol, byddwch yn dod yn gymwys i ddechrau ad-dalu eich Benthyciad Myfyrwyr y mis Ebrill yn dilyn y dyddiad olaf y buoch yn mynychu’r cwrs.

Os yw’r mis Ebrill sy’n dilyn eich dyddiad mynychu olaf eisoes wedi mynd heibio (e.e. rydych yn tynnu’n ôl o’ch cwrs ond yn anghofio dweud wrthym) yna byddwch yn dechrau ad-dalu cyn gynted ag y gellir trefnu hynny, a bryd hynny’n unig y bydd eich ad-daliadau yn ddyledus.

Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (y mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn bartner cyflwyno gwasanaeth iddo) yn hysbysu Cyllid a Thollau EM (Cyllid y Wlad gynt) bod eich benthyciad bellach yn ddyledus. Yn eu tro, byddant hwythau’n rhoi cyfarwyddyd i’ch cyflogwr dynnu ad-daliadau o’ch incwm crynswth (gros) ar gyfradd o 9% o unrhyw incwm a enillwch sy’n fwy na £15,000 y flwyddyn, £1250 y mis neu £288 yr wythnos.

Os ydych yn hunangyflogedig neu’n mynd i weithio dramor, byddwch yn gwneud ad-daliadau yn uniongyrchol i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr neu HMRC.

Pam ydych chi angen fy rhif yswiriant gwladol?

Mae’n hynod bwysig eich bod yn rhoi eich rhif yswiriant gwladol i ni gan y bydd ei angen er mwyn gallu casglu’r didyniadau i ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr o’ch cyflog pan fydd hi’n adeg i chi ad-dalu. Oherwydd ei bod hi mor bwysig bod y rhif hwn gennym, mae’n bosib y bydd oedi cyn talu eich cymorth i fyfyrwyr os na fyddwch yn ei ddarparu.

Sut caiff llog ei gyfrifo ar fy menthyciad?

Ar hyn o bryd, 3% yw’r gyfradd llog ar gyfer benthyciadau newydd.  Gweithredir llog ar fenthyciadau myfyrwyr o’r eiliad y cânt eu talu i’r myfyrwyr hyd nes iddynt gael eu had-dalu’n llawn.  Bydd gan y swm a dalwch yn ôl yr un gwerth fwy neu lai â’r swm a fenthyciwyd gennych ac ni wneir unrhyw elw ar y benthyciad ei hun.

Mae’r gyfradd llog yn seiliedig ar fynegai prisiau manwerthu (RPI) blynyddol mis Mawrth neu gyfradd sylfaen uchaf nifer o fanciau mawrion yn ogystal ag 1%; pa bynnag un yw’r isaf.  Hyd yma, bu’r RPI yr isaf o’r ddau bob tro.  Mae’r gostyngiad yng nghyfradd sylfaen y banciau ac 1% yn is nag RPI Mawrth 2008 ar hyn o bryd, felly rydym nawr wedi addasu cyfradd y benthyciad myfyrwyr i 3%.  3.8% oedd y gyfradd llog o 1 Medi tan 4 Rhagfyr 2008.