Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
Mae'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer 07/08 bellach wedi cau.
newyddion - mwy...
Ydych chi’n meddwl am ddechrau cwrs yn 08/09? Ydych chi eisiau gwybod faint gallech ei gael i dalu ffioedd a chostau?
newyddion - mwy...
 

Rwy’n bwriadu mynd i Addysg Uwch


Mae’r dudalen hon yn rhoi atebion i’ch cwestiynau cyn mynd i Addysg Uwch. Mae’r wybodaeth yn yr adran hon ar gyfer myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru ac sy’n dechrau ar eu cwrs o fis Medi 2008.

welsh student

Pa gymorth sydd o ran rheoli fy materion ariannol wrth astudio?

Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn gweithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch ar roi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr ynghylch sut i’w hatal rhag mynd i drafferthion ariannol trwy becyn offer Doctoriaid Ariannol (Money Doctors). Y nod yw darganfod sut gall Prifysgolion helpu eu myfyrwyr orau i ymdopi â materion ariannol.

Mae’r prosiect Doctoriaid Ariannol yn helpu myfyrwyr mewn addysg uwch i ddod yn fedrus yn ariannol trwy addysg ac ymyriad. Mae’n annog myfyrwyr i wynebu dyled a chymryd rheolaeth ar eu materion ariannol eu hunain cyn iddynt fynd i drafferthion. Mae’r FSA yn cyflawni’r prosiect trwy ymgynghorwyr ariannol myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch ledled y DU, ac maent yn hyfforddi ac yn gweithio gyda’r cyfryngwyr hyn i’w cefnogi nhw i fod wrthi’n gwella gallu ariannol eu myfyrwyr. Bydd gan eich Coleg neu Brifysgol gopi o’r pecyn offer Doctoriaid Ariannol.

www.fsa.gov.uk/financial_capability

Gwybodaeth am y Llythyr Hysbysiad Ariannol

Os ydych wedi cyflwyno cais cyflawn am gyllid i fyfyrwyr yn ddiweddar, fe fyddwch yn derbyn llythyr Hysbysiad Ariannol a Ffurflen Datganiad pan fydd eich cais wedi cael ei asesu. Fe fydd y llythyr hwn yn rhoi manylion y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn cyfeirio at rai materion a godwyd ynghylch y llythyr hwn.

Ffïoedd Dysgu

Swm y Benthyciad fydd yn cael ei Dalu yw swm y Benthyciad Ffïoedd Dysgu y bydd yr SLC yn ei dalu i’ch prifysgol neu goleg ar eich rhan.

Os yw swm y Benthyciad Ffïoedd Dysgu y mae gennych hawl i’w dderbyn neu’r swm rydych wedi gofyn amdano yn llai na ffïoedd eich cwrs, fe fydd angen i chi dalu’r gwahaniaeth i’ch prifysgol neu goleg.

Os ydych yn derbyn Grant Ffïoedd Dysgu, cyfanswm y Benthyciad Ffïoedd Dysgu fydd yn cael ei dalu yw swm Ffïoedd y Cwrs tynnu swm y Grant.

Benthyciad Cynhaliaeth

Swm y Benthyciad fydd yn cael ei Dalu yw cyfanswm y Benthyciad Cynhaliaeth a dderbyniwch. Os ydych hefyd yn derbyn grant nad oes angen ei ad-dalu, fel Grant Dysgu’r Cynulliad, bydd faint o Fenthyciad Cynhaliaeth a gewch chi yn lleihau yn ôl swm y grant hyd at ostyngiad o £1,288 ar y mwyaf. Mae eich hawl i grant yn cael ei ddangos yn y tabl Grantiau Atodol ar eich llythyr.