Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm
newyddion - mwy...
Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
Mae'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer 07/08 bellach wedi cau.
newyddion - mwy...
Ydych chi’n meddwl am ddechrau cwrs yn 08/09? Ydych chi eisiau gwybod faint gallech ei gael i dalu ffioedd a chostau?
newyddion - mwy...
 

Cefnogwch eich plentyn neu’ch partner ar-lein


Os yw eich plentyn, priod neu bartner yn fyfyriwr Addysg Uwch mae’n bosibl bod ganddynt yr hawl i dderbyn cyllid myfyrwyr. Daw hyn ar ffurf grantiau neu fenthyciadau i'w helpu i dalu am gostau byw a ffioedd hyfforddi.

Gallwch gofrestru gyda'n gwasanaeth ar-lein i'w galluogi i dderbyn grantiau neu fenthyciadau. Gofynnir i chi lanw ffurflen gais er mwyn i ni gael gwybod beth yw’ch incwm a’ch amgylchiadau personol. Yna gallwn asesu faint y bydd ganddynt yr hawl i'w dderbyn.

Isod ceir canllaw ar sut i roi manylion eich incwm ar-lein er mwyn cefnogi cais myfyriwr. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr parhaus sy’n gwneud cais ar-lein.

Cam Un: Cofrestru

Cam Dau: Mewngofnodi

Cam Tri: Llanw cais

Cam Pedwar: Anfonwch eich tystiolaeth atom

Cam Pump: Defnyddiwch eich cyfrif

Cam Un: Cofrestru

Dylech gofrestru eich manylion gyda Chyllid Myfyrwyr Uniongyrchol os ydych chi'n cefnogi cais myfyriwr am y tro cyntaf, a bod eich cyfeiriad cartref yn Lloegr.

Os ydych chi wedi cefnogi cais myfyriwr yn y gorffennol, neu os ydych chi wedi derbyn benthyciad gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, byddwch eisoes wedi’ch cofrestru ar ein system ac ni ddylech gofrestru eto - ewch i Gam Dau: Mewngofnodi.

Cofrestru fy Manylion

Bydd cofrestru yn creu eich manylion diogelwch unigryw:

Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol

Pan fyddwch yn cofrestru gofynnir i chi greu Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol. Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio’r manylion hyn pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau Cyllid Myfyrwyr Uniongyrchol ar-lein neu’n cysylltu â ni. Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio gwybodaeth yr ydych chi’n debygol o gofio wrth osod y manylion diogelwch hyn.

ART ID

Ar ôl i chi gofrestru byddwch yn derbyn ART ID. Mae hwn yn un ar ddeg rhif unigryw a ddefnyddir er mwyn eich adnabod chi wrth i chi fewngofnodi â'n gwefan neu gysylltu â ni. Bydd hefyd yn cael ei argraffu ar yr holl ohebiaeth y byddwn yn ei hanfon atoch. Mae’n bwysig eich bod yn nodi eich ART ID ac yn ei gadw mewn man diogel.

Os byddwch yn anghofio eich manylion diogelwch

Os byddwch yn anghofio eich Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol, neu’n colli eich ART ID, gallwch ofyn am y rhain ar-lein trwy'r cyswllt Anghofio eich Manylion. Os byddwch yn ailosod eich cyfrinair bydd y rhain yn cael eu hanfon at eich cyfeiriad e-bost.

Pen y dudalen

Cam Dau: Mewngofnodi

Byddwch angen eich ART ID a’ch Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol er mwyn mewngofnodi i’r rhan ddiogel ar-lein er mwyn cefnogi cais. Cewch Fewngofnodi o unrhyw dudalen ar y wefan hon.

Mewngofnodi i Fy Nghyfrif

Os ydych chi wedi anghofio eich Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol, neu wedi colli eich ART ID, gallwch ofyn am y rhain ar-lein trwy'r cyswllt Anghofio eich Manylion.

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi eisoes wedi cofrestru, ond nad oes gennych unrhyw rai o’r manylion cofrestru y mae eu hangen arnoch er mwyn mewngofnodi, cysylltwch â’r Swyddfa Cymorth i Gwsmeriaid.

O’r rhan ddiogel ar-lein gallwch gynnal eich cyfrif os bydd eich manylion cyswllt yn newid.

Pen y dudalen

Cam Tri: Llanw cais

Ar ôl i chi fewngofnodi, dewiswch y cyswllt ‘Cefnogi Cais’. Bydd hyn yn dechrau ar eich cais er mwyn i chi roi’r manylion y mae eu hangen arnom er mwyn sicrhau bod y myfyriwr yr ydych chi’n ei gefnogi yn derbyn ei hawl llawn i gyllid myfyrwyr.

Os ydych chi’n rhoi eich manylion ar gyfer myfyriwr am y tro cyntaf bydd yn rhaid i chi nodi ALIAS ID y myfyriwr. Mae hwn yn ddynodwr unigryw a fydd yn ein help ni i gysylltu eich manylion gyda’r myfyriwr. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei hanfon atoch drwy’r post neu e-bost ar ôl i'r myfyriwr gyflwyno ei gais, bydd hefyd ar gael ar gyfrif ar-lein y myfyriwr.

Os ydych chi wedi rhoi eich manylion ar gyfer myfyriwr mewn blwyddyn flaenorol ni fydd yn rhaid i chi nodi ALIAS ID gan y bydd eich manylion eisoes wedi'u cysylltu â'r myfyriwr.

Os oes yn rhaid i chi roi eich manylion ar gyfer mwy nac un myfyriwr, gallwch wneud hyn drwy ychwanegu’r holl fyfyrwyr at eich cais – dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi nodi eich manylion mewn unrhyw flwyddyn academaidd.

sponsor linking process

Bydd yn rhaid i chi roi manylion eich incwm, treuliau, ac unrhyw ddibynyddion eraill yn eich cartref.

Gallwch adael y cais ar unrhyw gam cyn ei gyflwyno, a bydd y wybodaeth ym mhob adran sydd wedi’i llanw yn cael ei chadw. Gallwch adolygu neu newid y wybodaeth yr ydych chi wedi’i nodi hyd nes i chi gyflwyno eich cais. Ar ôl i chi gyflwyno eich cais bydd yn cael ei anfon yn awtomatig at eich Awdurdod Lleol er mwyn ei brosesu.

Hysbysir y myfyriwr yr ydych chi’n ei gefnogi yn ysgrifenedig o’i hawl i gefnogaeth ariannol. Bydd y llythyr hwn hefyd yn rhoi manylion unrhyw gyfraniad ariannol y bydd disgwyl i chi ei wneud.

Pen y dudalen

Cam Pedwar: Anfonwch eich tystiolaeth atom

Er mwyn cadarnhau'r wybodaeth yr ydych chi wedi’i nodi bydd gofyn i chi anfon tystiolaeth at eich Awdurdod Lleol. Ar ôl i chi gyflwyno eich manylion dywedir wrthych ba fathau o dystiolaeth sy'n ofynnol ac at ba gyfeiriad sy'n rhaid eu hanfon.

Mae’n bwysig eich bod yn darparu'r dystiolaeth hon, fel arall, mae'n bosibl na fydd y myfyriwr yn derbyn ei hawliad llawn i gyllid myfyrwyr. Gallwch ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i olrhain y dystiolaeth y byddwch yn ei hanfon.

Cam Pump: Defnyddiwch eich cyfrif

Gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt o’ch cyfrif, gweld gohebiaeth, a gofyn neu chwilio am ateb i’ch cwestiynau ynghylch cyllid myfyrwyr.

Gallwch hyd yn oed ddychwelyd at eich cyfrif yn y dyfodol os bydd y myfyriwr yn dechrau ar gwrs gwahanol.

Pen y dudalen