|
Beth os byddaf yn colli fy ART ID?
Mae eich ART ID yn cael ei argraffu ar yr holl ohebiaeth yn ymwneud â’ch cais am gyllid i fyfyrwyr. Os ydych yn gwybod eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol, ond nad yw eich ART ID gennych, gallwch weld eich ART ID ar lein trwy glicio ar ‘Wedi anghofio eich manylion?’ ar y dudalen mewngofnodi ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Os nad oes yr un o’ch manylion diogelwch gennych, gallwch eu derbyn trwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru (ffôn 0845 602 8845, ar agor o 8am tan 8pm dydd Llun i ddydd Gwener, a 9am tan 1pm dydd Sadwrn).
Pam mae angen Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol?
Pan fyddwch yn gwneud cais am gymorth ariannol fel myfyriwr, fe gewch chi Gyfrinair ac Ateb Cyfrinachol i’n helpu i’ch adnabod pan fyddwch eisiau gwybodaeth am eich cyfrif, naill ai ar lein neu dros y ffôn.
Os byddwch yn cofrestru neu’n gwneud cais am gymorth ar lein, bydd gofyn i chi ddewis eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol eich hun. Byddwch yn defnyddio’r manylion hyn bob tro wrth logio i’ch cyfrif neu wrth gysylltu â ni dros y ffôn.
Os byddwch yn anfon ffurflen gais ar bapur, bydd Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig ac yn cael eu hanfon atoch. Wrth i chi logio ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru am y tro cyntaf, byddwn yn gofyn i chi newid eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol am rywbeth sy’n fwy cofiadwy.
Gallwch newid eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol unrhyw bryd o’ch cyfrif ar lein o dan ‘Diweddaru fy Mhroffil’. Cofiwch gadw eich ART ID mewn lle diogel, a diweddaru eich cyfeiriad e-bost, rhag ofn y bydd angen i chi ailosod y manylion hyn yn y dyfodol.
Rhaid i’ch Cyfrinair fod ag o leiaf 8 llythyren a dim mwy nag 16, a rhaid cael o leiaf un rhif (0-9).
Allaf fi newid fy Nghyfrinair ac Ateb Cyfrinachol?
Gallwch newid eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol unrhyw bryd o’ch cyfrif ar lein o dan ‘Diweddaru fy Mhroffil’. Cofiwch gadw eich ART ID mewn lle diogel, a diweddaru eich cyfeiriad e-bost, rhag ofn y bydd angen i chi ailosod eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol yn y dyfodol – os ydych wedi anghofio’r manylion hyn ond bod eich ART ID gennych, gallwch drefnu i gael anfon manylion newydd i’ch cyfeiriad e-bost trwy’r cyswllt ‘Wedi anghofio eich manylion?’ ar y dudalen mewngofnodi.
Beth os byddaf yn anghofio fy Nghyfrinair ac Ateb Cyfrinachol?
Os ydych wedi anghofio eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol, ond bod eich ART ID gennych, gallwch drefnu i gael anfon manylion diogelwch newydd i’ch cyfeiriad e-bost trwy glicio ar ‘Wedi anghofio eich manylion?’ ar y dudalen logio ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Os nad yw eich ART ID na’ch manylion diogelwch gennych, gallwch eu derbyn trwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru (ffôn 0845 602 8845, ar agor o 8am tan 8pm dydd Llun i ddydd Gwener, a 9am tan 1pm dydd Sadwrn). Byddwn yn gofyn i chi newid eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol am rywbeth mwy cofiadwy y tro cyntaf y byddwch yn mynd i’ch cyfrif ar lein gyda’ch manylion newydd.
Rwy’n cael trafferth ailosod fy Nghyfrinair ac Ateb Cyfrinachol ar lein.
Rwy’n cael neges gwall ar ôl rhoi fy manylion
Mae’n bosib eich bod wedi rhoi manylion anghywir, neu rai nad yw ein system yn eu hadnabod:
- Gwnewch yn siwr eich bod wedi rhoi yr un enw, gan gynnwys unrhyw enwau canol, ag a roesoch wrth gofrestru neu wneud cais.
- Er mwyn defnyddio’r cyfleuster hwn mae’n rhaid i chi fod wedi rhoi cyfeiriad e-bost dilys i ni. Mae’n bosib i chi roi un wrth wneud cais am gymorth y tro cyntaf.
- Os ydych yn ailosod eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol, gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi eich ART ID yn gywir. Fe welwch chi hwn ar unrhyw ohebiaeth gawsoch chi gennym ni.
- Os ydych yn ceisio edrych ar eich ART ID, gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol yn gywir.
Rwyf eisiau ailosod fy Nghyfrinair ac Ateb Cyfrinachol, ond mae’r cyfeiriad e-bost a ddangoswyd i mi yn anghywir
Os yw’r cyfeiriad e-bost yn anghywir, allwch chi ddim ailosod eich Cyfrinair a’ch Ateb Cyfrinachol ar lein. Gallwch ffonio Canolfan Gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru a byddant yn anfon Cyfrinair ac Ateb Cyfrinachol newydd atoch drwy’r post. Cofiwch ddiweddaru eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn cysylltu â ni neu pan fyddwch wedi derbyn eich manylion diogelwch newydd.
Rwyf wedi ailosod fy Nghyfrinair ac Ateb Cyfrinachol ar lein, ond chefais i ddim e-bost gyda fy manylion newydd
Weithiau bydd rhai mathau o gyfrifon e-bost, fel Hotmail, Yahoo, ac AOL, yn adnabod rhai negeseuon e-bost fel sbam ac yn peidio â dangos y negeseuon yn y blwch derbyn e-bost. Chwiliwch yn unrhyw ffolder post sgrwtsh neu sbam am neges e-bost gan ‘sfd_webmaster’.
Pen y dudalen

Rwyf eisiau rhoi fy manylion ariannol i gefnogi cais myfyriwr ar lein, pryd gallaf wneud hyn?
Rhaid i’r myfyriwr fod wedi cwblhau eu rhan nhw o’r cais ar lein cyn y gallwch ddarparu’r manylion ariannol angenrheidiol. Unwaith y bydd cais y myfyriwr wedi’i dderbyn, bydd llythyr Cais am Fanylion Ariannol yn cael ei anfon atoch gyda chyfarwyddiadau ynghylch sut i ddarparu eich manylion. Os dewiswch roi eich manylion ar lein, dilynwch y cyfarwyddiadau sy’n egluro sut i gofrestru a mewngofnodi, gan ddefnyddio eich Alias ID er mwyn sefydlu cyswllt rhwng eich gwybodaeth a manylion y myfyriwr sy’n cael ei gefnogi gennych.
Beth yw Alias ID,a lle mae dod o hyd iddo?
Pan fydd myfyrwyr yn gwneud cais ar lein am gymorth ariannol gydag asesiad incwm, bydd gofyn iddynt roi manylion y bobl y maent yn dibynnu arnynt am gymorth ariannol, fel eu rhieni neu bartner – sef eu ‘noddwyr’. Hefyd byddwn yn gofyn iddynt nodi a fydd eu noddwyr yn rhoi manylion eu hincwm ar lein ynteu ar bapur.
Os bydd y myfyriwr yn nodi y bydd noddwr yn rhoi manylion ar lein, bydd y myfyriwr yn cael Alias ID i’w roi i’r noddwr. Mae’r Alias ID hwn i’w weld yng nghyfrif ar lein y myfyriwr, ar y dudalen Crynodeb Noddwyr.
Mae’r Alias ID yn rhif unigryw a ddefnyddir i sefydlu cyswllt rhwng cais ar lein y myfyriwr a’r wybodaeth a ddarperir gan ei noddwyr. Ni all noddwyr gefnogi cais myfyriwr ar lein heb yr Alias ID hwn. Dylai noddwyr gadw’r Alias ID mewn lle diogel.
Pen y dudalen

Sut mae diweddaru fy manylion cysylltu?
Gallwch ddiweddaru eich manylion personol, gan gynnwys eich cyfeiriad cysylltu gorau, cyfeiriad cartref parhaol, cyfeiriad e-bost, a rhifau cysylltu dros y ffôn trwy logio i’ch cyfrif ar lein a dewis ‘Diweddaru fy Mhroffil’.
Hefyd, gallwch ddiweddaru’r manylion hyn trwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru (ffôn 0845 602 8845, ar agor o 8am tan 8pm dydd Llun i ddydd Gwener, a 9am tan 1pm dydd Sadwrn), neu trwy lenwi ffurflen Newid Amgylchiadau.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y ‘cyfeiriad cysylltu gorau’ a’m ‘cyfeiriad cartref parhaol’?
Eich cyfeiriad cysylltu gorau (neu eich cyfeiriad gohebu) yw’r man lle byddwch fel arfer yn byw tra byddwch yn astudio, fel neuadd breswyl. Byddwn yn anfon y rhan fwyaf o lythyrau atoch yn y cyfeiriad hwn. Eich cyfeiriad cartref parhaol yw’r man lle’r ydych fel arfer yn byw pan nad yw hi’n adeg tymor, fel cyfeiriad eich rhieni. Dyma’r cyfeiriad a ddefnyddir i bennu pa Awdurdod Lleol sy’n briodol i chi.
Gallwch ddiweddaru eich cyfeiriad cysylltu a’c
|