Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
Mae'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer 07/08 bellach wedi cau.
newyddion - mwy...
Ydych chi’n meddwl am ddechrau cwrs yn 08/09? Ydych chi eisiau gwybod faint gallech ei gael i dalu ffioedd a chostau?
newyddion - mwy...
 

Trydydd Person


Siarad â rhywun ar eich rhan

Mae’n rhaid i Gyllid Myfyrwyr Cymru gadw at y Ddeddf Gwarchod Data, sy’n ein hatal rhag trafod eich Cymorth i Fyfyrwyr gydag unrhyw un arall heb eich awdurdod penodol chi. Fodd bynnag mae llawer o bobl yn ei chael yn ddefnyddiol yn achlysurol cael rhywun arall, e.e. rhiant neu gynrychiolydd o’ch coleg, i’n ffonio ni ar eich rhan i gael gwybodaeth neu i weithredu ar eich rhan i ryddhau neu ddiweddaru gwybodaeth yn ymwneud eu cyfrif nhw.

Caniatâd i Rannu
Mae Caniatâd i Rannu (CtS) yn awdurdodiad ysgrifenedig neu ar lafar sy’n caniatáu i ni ddarparu gwybodaeth am eich cyfrif, ac eithrio eich manylion banc, i drydydd person a enwebwyd gennych chi. Rhaid i’r person CtS fodloni ein proses ddilysu cyn y gellir rhyddhau unrhyw wybodaeth: bydd angen iddynt roi enw llawn, cyfeiriad llawn (gan gynnwys côd post), dyddiad geni, eu perthynas â chi a chyfrinair.

A wnewch chi ysgrifennu at y cyfeiriad isod, gan roi eich rhif Cymorth i Fyfyrwyr neu ART ID, a rhoi manylion y person rydych yn dymuno iddo/iddi eich cynrychioli: rhowch eu henw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni, eu perthynas â chi, a rhowch gyfrinair iddynt ei ddefnyddio os byddant yn cysylltu â ni. Dylech nodi hefyd y cyfnod amser penodol y bydd y trefniant hwn yn ddilys ar ei gyfer.

Cyllid Myfyrwyr Cymru 
d/o Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf.
11 Carnegie Road
Hillington
Glasgow
G52 4WH
Ffacs: 0141 306 2005

Pwˆer Atwrnai
Dogfen swyddogol yw Pwˆer Atwrnai sy’n caniatáu i chi roi atwrnai i drydydd person i ryddhau neu ddiweddaru gwybodaeth yn ymwneud â’ch cyfrif. Rhaid i Bwˆer Atwrnai gynnwys y cyfnod penodol y maent yn cael gweithredu fel atwrnai a’r tasgau penodol y cânt eu cyflawni. Fel uchod, rhaid i’r sawl sydd â Phwˆer Atwrnai fodloni’r broses ddilysu.