Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
Mae'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer 07/08 bellach wedi cau.
newyddion - mwy...
Ydych chi’n meddwl am ddechrau cwrs yn 08/09? Ydych chi eisiau gwybod faint gallech ei gael i dalu ffioedd a chostau?
newyddion - mwy...
 

Newyddion Diweddaraf


OEDIAD MEWN TALIADAU LWFANS CYNHALIAETH ADDYSG


Adroddwyd yn y Times ac ar y BBC y llynedd ac ar deledu brecwast y bydd myfyrwyr yn wynebu oediadau wrth dderbyn eu Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA) ac y bydd yr oedi hwn yn effeithio at tua 150,000 o fyfyrwyr.

Sylwer nad fydd hyn yn effeithio ar unrhyw gefnogaeth y byddwch yn ei derbyn trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, sef grant, benthyciad neu fwrsariaeth.

Gwaith Cynnal a Chadw Hanfodol


Ni fydd gwasanaethau ar-lein Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gael rhwng 5.00pm a 9pm Dydd Mercher 26 ain Tachwedd i alluogi ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol.

Bydd gwasanaethau llawn ar gael ar ôl yr amser hwn. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustod a achosir.

Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?


Mae canlyniadau Safon Uwch 2008 bellach wedi’u cyhoeddi. Gobeithio y cawsoch chi’r graddau yr oedd arnoch eu hangen i gael lle ar y cwrs a ddewiswyd gennych. Hwyrach eich bod chi hefyd wedi dod o hyd i le newydd trwy’r broses glirio.

Os bydd eich cwrs, neu’r brifysgol neu goleg rydych yn astudio ynddo wedi newid, mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud newid i’ch cais. Y ffordd gyflymaf o wneud hyn yw lawrlwytho ffurflen CO1 a’i dychwelyd i’ch awdurdod lleol.

Go to the Ffurflenni a Chanllawiau

Cynllun Iaith Gymraeg


Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg. Mae’n disgrifio sut y bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn datblygu, hybu a cynnig gwasanaethau Cymraeg ac hoffwn glywed eich barn ohono.

Paratowyd y cynllun mewn cydweithrediad â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac mae’n gyson â’i canllawiau hwy ac yr egwyddor yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 o drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.

Gellir gweld y ddogfen ymgynghorol yma: www.slc.co.uk/cynlluniaithgymraeg.pdf

29/08/2008 yw’r dyddiad cau am ymatebion a dylid eu anfon i:
Andrew_day@slc.co.uk.

Cyflwynir pob un o’r ymatebion i’r ymgynghoriad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Mi fydd y cynllun ond yn cael ei gymeradwyo’n ffurfiol wedi i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a Bwrdd yr Iaith Gymraeg gytuno bod pob un o’r ymatebion a dderbynnir wedi cael sylw priodol.

Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid


Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein gwefan newydd bellach yn fyw. Gellir dod o hyd iddi yn www.studentloanrepayment.co.uk.

Mae Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr (Student Loan Repayment) yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad i unrhyw un sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau ac y mae ganddynt fenthyciad myfyriwr gydag SLC. Yn ogystal, mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau ar-lein er mwyn i chi:

  • Gyfrifo’ch gweddill ar-lein
  • Diweddaru’ch manylion cyswllt
  • Gwneud taliadau benthyciad ar-lein gyda cherdyn debyd neu gredyd

Credwn y bydd y gwelliannau hyn o ddefnydd i chi, yn enwedig os ydych chi’n byw neu’n gweithio dramor.
Mae hwn ar gael i gwsmeriaid gyda benthyciadau Cyfnod Penodol a benthyciadau Ad-dalu Amodol ar Incwm.

Os defnyddioch chi Cyllid Myfyrwyr Cymru i wneud cais am grantiau neu fenthyciadau, gallwch ddefnyddio’ch ART ID presennol, ateb cyfrinachol a chyfrinair i fewngofnodi a chymryd mantais ar ein porth diogel.
Os oes gennych fenthyciad gyda’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar hyn o bryd, disgwyliwch lythyr yn dweud wrthych am ein gwasanaeth newydd.

Ceisiadau Ar-lein ar gael nawr!


Buom yn gweithio’n galed i wneud y cais ar-lein mor gyflym ac effeithlon â phosibl, a gallwch gyflwyno eich cais am gymorth i fyfyrwyr amser llawn ar-lein bellach.

Cofrestrwch i wneud cais ar-lein

Ewch yn syth i’r cais ar-lein os ydych wedi cofrestru eisoes

ni fydd y gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer 07/08


Sylwer: Mae'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer 07/08 bellach wedi cau. Gallwch barhau i ymgeisio gan ddefnyddio ffurflen gais bapur, a gallwch ddadlwytho ffurflen gais o’r dudalen Ffurflenni a Chanllawiau. Fel arall gallwch gael ffurflen gais drwy gysylltu â’ch Awdurdod Lleol.

Ydych chi’n meddwl am ddechrau cwrs yn 08/09? Ydych chi eisiau gwybod faint gallech ei gael i dalu ffioedd a chostau?


Gall Cyllid Myfyrwyr Cymru amcangyfrif eich hawl mewn rhai munudau’n unig.
Y cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud yw mynd i Cyfrifo’m Hawl ac ateb rhai cwestiynau sylfaenol am eich cwrs a’ch cymhwyster.  Dylai hyn eich helpu i wneud y penderfyniadau pwysig sydd o’ch blaenau.

Cykkud myfyrwyr cymru – gwaith cynnal a chadq hanfodol

Ar hyn o bryd, nid yw’n cyfleuster Edrych ar Ohebiaeth ar gael yn sgil gwaith cynnal a chadw arferol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.