Pa ran sydd gennyf i’w chwarae wrth ddarparu cymorth ariannol?


Pwysig – yr hyn y dylech ei wybod am eich rôl

Er bydd gofyn ichi gyflwyno gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’ch incwm er mwyn cefnogi cais eich plentyn neu bartner am gymorth i fyfyrwyr, nid yw hyn yn eich gwneud chi’n atebol am unrhyw ddyled ganlyniadol.  Mae’r rhwymedigaeth i ad-dalu yn perthyn yn gyfan gwbl i’r myfyriwr. Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw’r myfyriwr yn gadael addysg uwch, os nad yw ei gyflog yn cyrraedd y lefel sy’n ofynnol i ddechrau ad-dalu, neu os bydd yn marw pan fydd arno arian o hyd i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Pan fydd cymhwyster myfyriwr am gymorth yn cael ei asesu, bydd yr Awdurdod Lleol (ALl) yn ystyried yr incwm cartref, hynny yw incwm y myfyriwr a’i rieni neu bartner. Os na fyddwch yn rhoi manylion eich incwm, efallai na chaiff y myfyriwr gymorth gyda’i ffioedd, grant y mae ganddo hawl iddo, neu fwyafswm y benthyciad i fyfyrwyr sydd ar gael iddo. Pan fyddwch yn rhoi manylion eich incwm, gwahoddir ichi hefyd gyflwyno dogfennau gwreiddiol yn brawf incwm. Bydd hyn yn cael ei egluro ichi pan fyddwch yn rhoi manylion eich incwm cartref.

Bydd yr ALl yn edrych ar eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, ond os yw eich incwm wedi gostwng yn sylweddol (15% neu fwy), mae’n bosibl y bydd yn adolygu eich incwm tebygol ar gyfer y flwyddyn gyfredol.
Os bydd yr ALl yn penderfynu y dylech wneud cyfraniad tuag at ffioedd dysgu a chostau byw’r myfyriwr, bydd yn penderfynu faint y dylech ei gyfrannu ac yn rhoi gwybod ichi.

Incwm cartref
Os ydych yn rhiant i fyfyriwr sy’n byw gyda chi fel arfer, ac wedi gwahanu neu ysgaru, mae eich incwm chi’n cyfrif tuag at yr ‘incwm cartref’ ond ni fydd incwm rhiant arall y myfyriwr yn cyfrif tuag ato. Os ydych yn rhiant i fyfyriwr ac wedi ailbriodi bellach neu’n byw gyda phartner (o’r un rhyw neu’r rhyw arall), bydd incwm eich partner yn cyfrif tuag at yr ‘incwm cartref’.

Os ydych yn rhiant myfyriwr a bod gennych blant dibynnol eraill, bydd ‘incwm y cartref’ yn cael ei ostwng gan £1,130 ar gyfer unrhyw blentyn (ar wahân i’r myfyriwr) sy’n gwbl neu’n bennaf ddibynnol yn ariannol ar y rhiant cyn i’r awdurdod lleol gyfrifo’ch cyfraniad.

Gwybodaeth sydd ar gael i chi

Eich rôl chi fel rhiant neu bartner myfyriwr yw rhoi gwybodaeth i gefnogi cais am fenthyciad, grant, neu gymorth gyda ffioedd dysgu. Nid yw hyn yn rhoi hawl ichi weld gwybodaeth am gais y myfyriwr am gymorth. Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn mynnu ein bod yn cadw eich holl wybodaeth chi, a holl wybodaeth y myfyriwr, yn breifat. Fodd bynnag, os hoffech wneud ymholiadau ar ran myfyriwr, gall roi caniatâd i Gyllid Myfyrwyr Cymru siarad â chi am ei gyfrif. Mae manylion am roi’r caniatâd hwn ar gael drwy Dudalen Gartref Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Datgelu eich hun ar-lein neu ar y ffôn i fynd at eich cais

Eich ART ID

Mae’r term ‘ART’ yn sefyll am Dechnoleg Ymateb Awtomataidd. Mae eich ART ID yn rhif un ar ddeg digid unigryw a ddefnyddir i’ch adnabod chi pan fyddwch yn mewngofnodi i’n gwefan neu’n ffonio ni. Os byddwch yn ymgeisio ar-lein, byddwch yn cael eich ART ID ar unwaith. Bydd angen eich ART ID arnoch bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif drwy ein gwefan. Os byddwch yn cyflwyno cais ar bapur, byddwch yn cael eich ART ID pan fydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cael eich ffurflen gais. Fe welwch eich ART ID ar bob gohebiaeth sy’n gysylltiedig â’ch cais am gyllid myfyrwyr, yn y gornel frig ar y dde.

Sut y defnyddir ART ID

Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’ch cyfrif drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru bydd gofyn ichi nodi eich ART ID. Hefyd, bydd gofyn ichi nodi eich cyfrinair rhyngrwyd a’ch ateb cyfrinachol cyn y gallwch weld eich gwybodaeth. Gellir defnyddio eich ART ID hefyd ynghyd â’ch rhif adnabod personol i gael gwybodaeth am eich cyfrif, drwy ein system Teleffoni Awtomataidd, pan fyddwch yn cysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru ar y ffôn. Mae eich ART ID wedi’i argraffu ar bob gohebiaeth y byddwch wedi’i chael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Beth yw fy “ateb cyfrinachol”?

Eich ateb cyfrinachol yw gair sy’n cael ei ddefnyddio i’ch adnabod chi pan fyddwch yn mewngofnodi i Wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu’n cysylltu â ni ar y ffôn. Os ydych wedi cofrestru ar-lein, byddwch wedi dewis eich cwestiwn a’ch ateb cyfrinachol bryd hynny. Os ydych wedi ymgeisio am gyllid myfyrwyr ar bapur, byddwch wedi cael ateb cyfrinachol cychwynnol yn y post a fydd yn gyfuniad o symbolau ar hap.

Sut mae fy “ateb cyfrinachol” yn cael ei ddefnyddio?

Bydd gofyn ichi roi eich ateb cyfrinachol bob tro y byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif ar Wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Ynghyd â’ch cyfrinair rhyngrwyd, bydd hyn yn eich galluogi i weld eich cyfrif ar-lein.  

Beth sy’n digwydd os byddaf yn anghofio fy ateb cyfrinachol?

Os byddwch yn anghofio eich ateb cyfrinachol bydd angen ichi gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru. Pan fyddwch yn mewngofnodi i’r wefan, gallwch newid eich ateb cyfrinachol i rywbeth mwy ystyrlon sy’n haws ei gofio.

Beth yw Alias ID?

Pan fyddwch yn cefnogi cais am gyllid myfyrwyr sy’n destun prawf modd, byddwn wedi gofyn i’r myfyriwr roi manylion y rheini y mae’n dibynnu arnynt am gymorth ariannol. Mae’r Alias ID yn gyfeirnod unigryw sy’n cael ei anfon at bawb sy’n cefnogi’r cais.  

Sut mae’r Alias ID yn cael ei ddefnyddio?

Mae’r Alias ID yn canfod yn unigryw gais myfyriwr am gymorth ariannol. Mae’n cael ei anfon at y rheini y mae’r myfyriwr yn nodi yn ei gais eu bod yn ei gefnogi’n ariannol yn ystod ei astudiaethau, fel rhieni, priod neu bartner. I roi gwybodaeth ariannol i gefnogi cais ar-lein, rhaid eich bod wedi cofrestru ac wedi cael manylion mewngofnodi dilys.  Os ydych wedi cefnogi cais yn flaenorol, rhaid ichi ddefnyddio’r ART ID, ateb cyfrinachol a chyfrinair a gawsoch yn flaenorol i fewngofnodi i’r system. Os ydych yn cefnogi cais am y tro cyntaf, rhaid ichi ddilyn y broses gofrestru ar-lein a fydd yn rhoi ART ID, ateb cyfrinachol a chyfrinair ichi. Ar ôl ichi fewngofnodi, dewiswch y cyswllt “Cefnogi Cais” a bydd gofyn ichi nodi’r Alias ID a fydd yn eich cysylltu â’r ymgeisydd yr ydych eisiau ei gefnogi. Byddwch yn cael gwahanol Alias ID ar gyfer pob ymgeisydd rydych chi’n ei gefnogi.