Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
Mae'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer 07/08 bellach wedi cau.
newyddion - mwy...
Ydych chi’n meddwl am ddechrau cwrs yn 08/09? Ydych chi eisiau gwybod faint gallech ei gael i dalu ffioedd a chostau?
newyddion - mwy...
 

Polisi Preifatrwydd


Polisi Preifatrwydd

Pwrpas y Polisi Preifatrwydd hwn yw rhoi manylion i chi, y defnyddiwr, sut y bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) yn casglu a defnyddio’r data personol a roddwch i SFW.

Bydd SFW yn gweithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth sydd mewn grym yn ymwneud â phrosesu data personol, ac fe’i cofrestrwyd yn rheolydd data yn y Deyrnas Unedig dan Ddeddf Gwarchod Data 1998.

Trwy ddefnyddio’r wefan hon, mae’n bosib y byddwch yn darparu peth data personol i SFW, a bydd rhywfaint o ddata amdanoch yn cael ei gasglu gan "cwcis". Ffeiliau rhyngrwyd dros dro yw cwcis ac fe’u defnyddir gan SFW i’w gwneud hi’n haws i chi ddefnyddio’r wefan hon, ac fel y gall SFW adeiladu proffil manylach ohonoch. Trwy gytuno i gael eich rhwymo gan Delerau ac Amodau Defnyddio y wefan hon, rydych yn cytuno y gall SFW grynhoi a phrosesu’r data personol hwn yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn.

Defnyddio a Storio Data Personol

Ni fydd SFW ond yn defnyddio data personol amdanoch (eich data personol) i’w helpu i ddarparu ei wasanaethau i chi, ac i roi i chi fanylion gwasanaethau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi ym marn SFW. Rydych yn cytuno y gall SFW ddefnyddio eich data personol ar gyfer dibenion o’r fath, oni bai a hyd nes y byddwch yn hysbysu SFW yn wahanol. Ni fydd SFW yn cyflenwi, trosglwyddo, gwerthu na chyflenwi fel arall eich data personol i unrhyw drydydd person heb eich caniatâd dan unrhyw amgylchiadau, ac eithrio lle bydd y gyfraith yn caniatáu neu’n mynnu hynny.

Petaech yn darganfod fod gan SFW ddata personol amdanoch sy’n anghywir, a wnewch chi roi gwybod i SFW cyn gynted â phosib. Yna bydd SFW yn cywiro ei gofnodion, a hysbysu unrhyw drydydd personau a all fod wedi derbyn gwybodaeth bersonol o’r fath yn unol â’r paragraff blaenorol.