Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
Mae'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer 07/08 bellach wedi cau.
newyddion - mwy...
Ydych chi’n meddwl am ddechrau cwrs yn 08/09? Ydych chi eisiau gwybod faint gallech ei gael i dalu ffioedd a chostau?
newyddion - mwy...
 

Mynediad


Datganiad Hygyrchedd ar gyfer www.studentfinancewales.co.uk

Cydymffurfio â’r safonau

Derbyniodd y wefan gymeradwyaeth Bobby A; ar hyn o bryd rydym yn gweithio i gydymffurfio â’r holl ganllawiau blaenoriaeth 3 yng Nghanllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We W3 (cyswllt i’r wefan).

Bysellau Cyrchu

Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu neidio at gysylltau penodol trwy deipio bysellau a ddiffinnir ar y wefan. Ar Windows, gallwch bwyso ALT + bysell gyrchu; ar Macintosh, gallwch bwyso Control + bysell gyrchu.

Mae’r dudalen hafan a’r holl dudalennau dilynol yn defnyddio’r bysellau cyrchu canlynol:

0 - Hafan
1 - Cwestiynau Cyffredin
2 - cysylltu
3 - ymateb
4 - telerau ac amodau
5 - preifatrwydd
6 - map o’r wefan
8 - hygyrchedd

Cymorth llywio

Ar y dudalen hafan a’r holl dudalennau dilynol mae modd defnyddio’r system chwilio i chwilio cynnwys y wefan.

Gallwch fynd at Brif adrannau’r wefan trwy gyfrwng y bariau llywio lliwgar siâp ‘Losin’ ar y dudalen hafan. Mae modd mynd at is-dudalennau dilynol y prif adrannau hyn hefyd gan ddefnyddio barau Losin. Mae is-dudalennau sy’n ‘epil’ dudalennau i dudalen lefel uchaf yn defnyddio cysylltau llywio is-dudalennau ar y panel llywio ar y llaw chwith, lle bo’n briodol.

Cysylltau

Mae gan lawer o gysylltau briodoleddau teitl sy’n disgrifio’r cyswllt yn fwy manwl, oni bai fod testun y cyswllt eisoes yn ddisgrifiad llawn o’r targed (megis pennawd erthygl). Lle bynnag y bo modd, ysgrifennir cysylltau i wneud synnwyr y tu allan i’r cyd-destun. Gall llawer o borwyr (fel JAWS, Home Page Reader, Lynx, ac Opera) dynnu’r rhestr o gysylltau sydd ar y dudalen fel y gall y defnyddiwr bori drwy’r rhestr, ar wahân i’r dudalen.
Ni fydd testun cyswllt byth yn cael ei ddyblygu; bydd dau gyswllt gyda’r un testun cyswllt bob amser yn pwyntio at yr un cyfeiriad.

Does yna ddim ffug-gysylltau "javascript:". Gellir dilyn unrhyw gyswllt gydag unrhyw borwr, hyd yn oed os yw’r sgriptio wedi’i ddiffodd.

Nid oes unrhyw gysylltau sy’n agor ffenestri newydd heb rybudd.

Delweddau

Mae’r holl ddelweddau cynnwys a ddefnyddir ar y wefan â phriodoleddau ALT disgrifiadol. Priodoleddau ALT nwl sydd mewn graffeg addurniadol yn unig. Mae’r wefan hon yn defnyddio ffeiliau diwyg sy’n rhaeadru ar gyfer y gosodiad gweledol.

Awgrymiadau

Gosod maint y ffont - IE 5.0 ac uwch

Wrth ddefnyddio darllenydd sgrin, y peth gorau bob tro yw gwneud y ffont mor fach â phosib. Fel hyn, nid yw’r testun yn lapio a gall y darllenydd sgrin ei ddarllen yn haws.

- Dan y ddewislen View mae gennych chi’r dewis Text sizes.
- newidiwch y maint i Smallest o’r isfwydlen.

Defnyddiwch y camau hyn i newid y ffontiau IE 5.0 ac uwch:

  1. Dewiswch Internet Options o ddewislen Tools. Fe welwch flwch deialog Internet Options.
  2. Cliciwch y botwm Fonts. Mae’r system yn dangos blwch deialog Fonts.
  3. Dewiswch Web page font a Plain text font yn ôl y galw.
  4. Cliciwch y botwm OK i gau’r blwch deialog Fonts.
  5. Cliciwch y botwm Accessibility. Fe welwch flwch deialog Accessibility.
  6. Dewiswch y dewisiadau "ignore" perthnasol er mwyn gorfodi eich dewisiadau dros osodiadau’r dudalen we.
  7. Cliciwch y botwm OK i gau’r blwch deialog Accessibility.
  8. Cliciwch y botwm OK i gau’r blwch deialog Internet Options.

Gosod y ffontiau - NN 4.0 ac uwch

Defnyddiwch y camau hyn i newid y ffontiau yn Netscape Navigator Fersiwn 4 ac uwch:

  1. Dewiswch Preferences o ddewislen Edit. Fe welwch flwch deialog Preferences.
  2. Dewiswch y dewis Fonts yn y maes ar y llaw chwith.
  3. Dewiswch deulu a maint y Variable Width Font a’r Fixed Width Font yn ôl y galw.
  4. Gallwch ddewis gwneud y canlynol hefyd:
  5. Defnyddio my default fonts, gan ddiystyru’r ffontiau a bennir gan y ddogfen. (Mae hwn yn defnyddio’r ffontiau a ddewisoch yn unig).
  6. Defnyddio document specified fonts, ond analluogi Dynamic Fonts. (Mae hyn yn defnyddio’r ffontiau a bennir gan y dudalen we, ar yr amod eu bod ar eich system).
  7. Defnyddio document-specified fonts, gan gynnwys Dynamic Fonts. (Mae hyn yn defnyddio’r ffontiau a bennir gan y dudalen we, ac yn eu llwytho os nad ydynt ar gael ar eich system).
  8. Cliciwch y botwm OK i gau’r blwch deialog.

Llwybrau bysellfwrdd brys ar gyfer Microsoft Internet Explorer

I symud i’r cyswllt nesaf, cliciwch TAB.
I symud i’r cyswllt blaenorol, cliciwch SHIFT TAB.
I ddeffro cyswllt a ddewiswyd, cliciwch ENTER.
I ddod o hyd i destun ar y dudalen gyfredol, cliciwch CTRL F.
I fynd i’r dudalen nesaf, cliciwch SHIFT BACKSPACE neu ALT RIGHT ARROW.
I fynd i’r dudalen flaenorol, cliciwch BACKSPACE neu ALT LEFT ARROW.
I symud i’r ffrâm nesaf, cliciwch CTRL TAB.
I symud i’r ffrâm flaenorol, cliciwch SHIFT CTRL TAB.
I rolio tuag at ddechrau dogfen, cliciwch UP ARROW.
I rolio tuag at ddiwedd ddogfen, cliciwch DOWN ARROW.
I rolio tuag at ddechrau dogfen mewn darnau mwy, cliciwch PAGE UP.
I rolio tuag at ddiwedd dogfen mewn darnau mwy, cliciwch PAGE DOWN.
I symud i ddechrau dogfen, cliciwch HOME.
I symud i ddiwedd dogfen, cliciwch END.
I adfywio’r dudalen gyfredol, cliciwch fysell F5 neu CTRL R.
I stopio llwytho tudalen i lawr, cliciwch ESC.
I fynd i leoliad newydd, cliciwch CTRL O.
I agor ffenest newydd, cliciwch CTRL N.
I gadw’r dudalen gyfredol, cliciwch CTRL S.
I argraffu’r dudalen gyfredol neu ffrâm weithredol, cliciwch CTRL P.
I ddewis popeth (dewis oll), cliciwch CTRL A.
I gopïo detholiad, cliciwch CTRL C.
I arddangos dewislen llwybr brys at hypergyswllt, cliciwch fysell SHIFT F10.
I gau’r Ffenest, cliciwch CTRL W.
I adael y Rhaglen, cliciwch fysell ALT F4.

Llwybrau bysellfwrdd brys ar gyfer Netscape Navigator

I symud i’r cyswllt nesaf, cliciwch TAB.
I symud i’r cyswllt blaenorol, cliciwch SHIFT TAB.
I ddeffro cyswllt a ddewiswyd, cliciwch ENTER.
I ddod o hyd i destun ar y dudalen gyfredol, cliciwch CTRL F.
I ddod o hyd i rywbeth eto, cliciwch CTRL G neu fysell F3.
I fynd i’r dudalen nesaf, cliciwch ALT RIGHT ARROW.
I fynd i’r dudalen flaenorol, cliciwch ALT LEFT ARROW.
I rolio tuag at ddechrau dogfen, cliciwch UP ARROW.
I rolio tuag at ddiwedd ddogfen, cliciwch DOWN ARROW.
I rolio tuag at ddechrau dogfen mewn darnau mwy, cliciwch PAGE UP.
I rolio tuag at ddiwedd dogfen mewn darnau mwy, cliciwch PAGE DOWN.
I symud i ddechrau dogfen, cliciwch CTRL HOME.
I symud i ddiwedd dogfen, cliciwch CTRL END.
I adfywio’r dudalen gyfredol, cliciwch CTRL R.
I stopio llwytho tudalen i lawr, cliciwch ESC.
I fynd i leoliad newydd, cliciwch CTRL O.
I agor ffenest newydd, cliciwch CTRL N.
I gadw’r dudalen gyfredol, cliciwch CTRL S.
I ychwanegu Llyfrnod, cliciwch CTRL D.
I argraffu’r dudalen gyfredol neu ffrâm weithredol, cliciwch CTRL P.
I ddewis popeth (dewis oll), cliciwch CTRL A.
I gopïo detholiad, cliciwch CTRL C.
I arddangos dewislen llwybr brys at hypergyswllt, cliciwch fysell SHIFT F10.
I gynyddu maint Ffont, cliciwch CTRL ] (fersiwn 4 yn unig).
I leihau maint Ffont, cliciwch CTRL [ (fersiwn 4 yn unig).
I gau’r Ffenest, cliciwch CTRL W.
I adael y Rhaglen, cliciwch CTRL Q neu fysell ALT F4.