|
Rhaid ystyried nifer o ffactorau wrth amcangyfrif cost eich addysg uwch.
Bydd y gost i chi a’ch teulu yn dibynnu ar eich cwrs, y sefydliad ac incwm eich cartref. Er 2007/08, mae Prifysgolion a cholegau yng Nghymru wedi gallu codi gwahanol ffioedd ar gyfer gwahanol gyrsiau. Mae sefydliadau yn Lloegr wedi bod yn codi ffioedd uwch er 2006/07. Serch hynny, er y gallai fod disgwyl i chi gyfrannu tuag at eich ffioedd hyfforddi, bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu benthyciad ffi i chi sy’n golygu na fydd yn rhaid i chi dalu am eich ffioedd o flaen llaw. Gellir ad-dalu hwn felly pan fyddwch yn cwblhau eich astudiaethau.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 09/10, yr uchafswm y gellid codi am ffioedd hyfforddi yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon yw £3,255. Os ydych chi’n astudio yn yr Alban disgwylir y bydd yn rhaid i chi dalu £1,940 ar gyfer yr holl gyrsiau, ac eithrio meddygaeth lle disgwylir i'r ffi fod yn £2,760. Gallwch wneud cais am fenthyciad i dalu am y gost hon i gyd neu ran ohoni.
Os ydych yn byw yng Nghymru fel rheol ac yn astudio mewn Prifysgol yng Nghymru a ariennir yn gyhoeddus, byddwch yn gallu cael grant ffioedd heb brawf modd o hyd at £1,940 y flwyddyn, nad oes rhaid i chi ei ad-dalu.
Mae Benthyciadau Myfyrwyr hefyd ar gael i helpu gyda'ch costau byw. Asesir y benthyciad ar sail incwm, sy'n golygu ei fod yn dibynnu ar incwm eich cartref. Gallai’r swm y byddwch yn ei fenthyg hefyd ddibynnu ar swm Grant Dysgu’r Cynulliad a allai fod wedi'i ddyfarnu i chi.
Mae’r holl fenthyciadau i fyfyrwyr yn cronni llog sy’n gysylltiedig â’r gyfradd chwyddiant yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu. Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â llog yn cronni ar gael yn yr adran o dal y teitl Beth, Pryd a Sut y byddwch yn ad-dalu?
Mae nifer o grantiau hefyd y gallech chi fod yn gymwys i ymgeisio amdanynt.
Mae hawl i grantiau a benthyciadau yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant, a bydd yr Awdurdod Lleol yn asesu eich cymhwyster ar sail eich incwm ac incwm eich cartref. Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Hawl neu darllenwch yr adran o dan y teitl Pa Gefnogaeth sydd ar gael Eleni? am wybodaeth bellach.
Ar gyfartaledd, mae graddedigion yn ennill cyflog sy’n sylweddol yn fwy na phobl â lefel A nad aeth i'r Brifysgol. Yn ystod oes gweithio, rhagwelir bod y gwahaniaeth yn rhywbeth tebyg i £120,000 yn ôl gwerthusiad heddiw. br> Mae’n debyg mae addysg uwch yw’r buddsoddiad gorau a wnewch chi.
Ble i wneud cais
Os yw’ch cartref yng Nghymru
Os yw’ch cartref yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon
|