Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
Mae'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer 07/08 bellach wedi cau.
newyddion - mwy...
Ydych chi’n meddwl am ddechrau cwrs yn 08/09? Ydych chi eisiau gwybod faint gallech ei gael i dalu ffioedd a chostau?
newyddion - mwy...
 

Gwybodaeth Diogelwch


Cadw’n Ddiogel Ar-lein

Mae diogelu chi a’ch gwybodaeth o’r pwysigrwydd mwyaf i Cyllid Myfyrwyr Cymru. Rydym wedi sefydlu partneriaeth â ‘Get Safe Online’ i hyrwyddo diogelwch a diogeledd ar-lein.

Mae gan www.getsafeonline.org wybodaeth a chyngor defnyddiol am ddiogelwch ar-lein.

Hoffem ddweud wthych am:


Diogelu’ch enw

Diogelu’ch cyfrifiadur

Defnyddio’n gwasanaeth yn ddiogel

yn ôl i’r brig

Diogelu’ch enw


Cyfrineiriau ac Atebion Cyfrinachol

Pan fyddwch yn cofrestru ar Cyllid Myfyrwyr Cymru, byddwn yn rhoi manylion diogelwch i chi: enw defnyddiwr (ART ID), cyfrinair ac ateb cyfrinachol. Pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf bydd angen i chi newid eich cyfrinair.

Gallwch newid eich cyfrinair a’ch ateb cyfrinachol ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio’n gwasanaeth ar-lein.

Bob amser, dewiswch gyfrinair ac ateb cyfrinachol byddwch yn eu cofio, ond rhai na fydd yn hawdd i eraill eu dyfalu.

Gwe-rwydo

Ni fyddwn byth yn anfon neges e-bost atoch i ofyn am eich manylion mewngofnodi a’ch manylion defnyddiwr. Os byddwch yn cael neges e-bost sy’n honni ei bod wedi’i hanfon wrthym ni, anfonwch hi at security@slc.co.uk  ac yna dilëwch y neges. Bydd e-bost o’r fath yn eich tywys i wefan ffug, felly peidiwch â dilyn y cyswllt.

‘Gwe-rwydo’ yw’r enw ar y math hwn o e-bost twyllodrus a thrwy roi gwybod i ni eich bod wedi cael un gallwn weithredu i’ch diogelu chi a defnyddwyr eraill a allai gael eu heffeithio ganddynt

Os ydych yn meddwl bod rhywun wedi dyfalu neu wedi dod o hyd i’ch manylion mewngofnodi, neu eich bod wedi’u datgelu yn dilyn derbyn neges gwe-rwydo, gallwch ddefnyddio’n gwasanaeth ailosod cyfrinair ar-lein i newid eich manylion.

Cwcis

Ffeiliau bach yw cwcis a grëir yn aml pan fyddwch yn mynd i mewn i wefan, ac fe’u cedwir yng nghyfeiriadur cwcis eich cyfrifiadur. Crëir cwcis ar eich cyfrifiadur pan fyddwch yn mynd i mewn i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae’r cwci rydym ni yn ei ddefnyddio yn ddilys pan fydd sesiwn weithredol ar ein gwefan ni yn unig. Bydd yn dod i ben pan fyddwch yn allgofnodi ac yn cau’ch porwr. Nid yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol ac nis defnyddir i olrhain eich defnydd o’r wefan nac unrhyw ymweliadau pellach ato.

yn ôl i’r brig

Diogelu’ch Cyfrifiadur


Firysau, ysbïwedd a meddalwedd faleisus

Gall unrhyw gyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu i’r rhyngrwyd fod yn agored i firysau, ysbïwedd a meddalwedd faleisus.

Gellir cuddio firysau mewn llawer ffordd: wedi’u cysylltu i negeseuon e-bost; wedi’u cuddio mewn rhaglenni sy’n edrych yn ddiniwed ar yr wyneb neu yn cael eu lledaenu gan wefannau. Mae firysau naill ai’n ceisio achosi niwed i’ch cyfrifiadur trwy dynnu ffeiliau pwysig oddi arno neu newid data neu’n ceisio casglu gwybodaeth amdanoch chi ac anfon y wybodaeth honno at drydydd parti heb eich awdurdod. Mae firysau yn ceisio lledaenu eu hunain trwy geisio cael eu hanfon at eich cysylltiadau e-bost neu at ddefnyddwyr eraill safleoedd rhannu ffeiliau.

Llenni tân

Rhwystr hanfodol rhwng eich cyfrifiadur a’r rhyngrwyd yw llen dân sy’n atal rhywun rhag cysylltu â’ch cyfrifiadur heb eich caniatâd.

Mae mwyafrif y systemau gweithredu cyfrifiaduron, fel Mac OS X, Windows XP neu Vista, yn cynnwys llenni tân. Gellir llwytho llenni tân i lawr o’r rhyngrwyd. Gwnewch yn siwr bod llen dân eich cyfrifiadur yn weithredol.

Sganwyr Gwrthfirws

Bydd sganiwr gwrthfirws da yn gwirio negeseuon e-bost a anfonir atoch a ffeiliau y byddwch yn eu hagor.

Deuir o hyd i firysau newydd bob dydd gan wneuthurwyr offer gwrthfirws ac felly mae’n bwysig eich bod yn diweddaru’ch ‘ffeiliau diffiniadau’(h.y. rhestr y firysau mae’r sganiwr yn eu hadnabod) bob 2 neu 3 diwrnod.

Systemau gweithredu

Gwiriwch system weithredu’ch cyfrifiadur a’r feddalwedd sy’n gweithredu arno a’u bod wedi’u ddiweddaru.

Ar fwyafrif systemau gweithredu mae dull diweddaru wedi’i gynnwys sy’n diweddaru’r feddalwedd ar eich cyfrifiadur fel mater o drefn.

Am becynnau neu raglenni meddalwedd eraill rydych yn eu defnyddio, ewch i wefan y gwneuthurwr er mwyn cael y diweddariadau sydd ar gael.

yn ôl i’r brig

Defnyddio’n gwasanaeth yn ddiogel


Lluniwyd gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i sicrhau ei bod yn ddiogel pan fyddwch yn mynd i mewn i’ch cyfrif a phan fyddwch yn anfon gwybodaeth atom.

Pan fyddwch yn mewngofnodi ac yn mynd at eich cyfrif ar-lein, cewch eich diogelu gan sesiwn ddiogel wedi’i hamgryptio. Byddwch yn gweld bod y cyfeiriad gwe’n dechrau gyda "https" yn hytrach na "http" yn unig a llun ac eicon bach o glo clap yn y bar statws ar waelod eich ffenestr bori.

Allgofnodwch ar bob adeg o’n gwefan pan fyddwch wedi gorffen eich tasg a chau’r ffenestr bori. Bydd hyn yn sicrhau bod eich sesiwn defnyddiwr wedi’i chau yn gywir.

Argymhellwn pan fyddwch yn mynd i Cyllid Myfyrwyr Cymru y byddwch yn teipio’r cyfeiriad Lleolydd Adnoddau Unffurf (URL) yn eich porwr. Bydd hyn sicrhau eich bod mynd i’r safle cywir ac nid i un ffug neu i un twyllodrus.

yn ôl i’r brig