Gostyngiad i gyfraddau llog Benthyciadau Amodol ar Incwm
newyddion - mwy...
Mae'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi agor ymgynghoriad ar ei gynllun iaith Gymraeg
newyddion - mwy...
Safle ad-dalu newydd i gwsmeriaid
newyddion - mwy...
Canlyniadau Arholiadau – a oes angen i chi newid manylion eich cais?
newyddion - mwy...
Mae'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer 07/08 bellach wedi cau.
newyddion - mwy...
Ydych chi’n meddwl am ddechrau cwrs yn 08/09? Ydych chi eisiau gwybod faint gallech ei gael i dalu ffioedd a chostau?
newyddion - mwy...
 

Ffurflenni a Chanllawiau 07/08


Mae’r ffurflenni a’r canllawiau isod ar gyfer y flwyddyn academaidd 07/08. Mae ffurflenni a chanllawiau ar gyfer y flwyddyn academaidd 08/09 ar gael o’r dudalen flwyddyn academaidd 08/09.

Mae’r Canllaw i Gymorth Ariannol ar gyfer Myfyrwyr Addysg Uwch yn 07/08 (322k) yn cynnig gwybodaeth fanwl am bob agwedd ar gymorth ariannol.

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn Benthyciadau Myfyrwyr, Canllaw i Delerau ac Amodau (2.16mb).

Dylai myfyrwyr newydd sydd eisiau gwneud cais am gymorth lenwi’r ffurflen gais PN1 hon (4.45mb) a darllen y nodiadau arweiniad hyn (1.40mb).

Dylai myfyrwyr sy’n parhau lenwi’r ffurflen gais PR1 hon (2.97mb) a darllen y nodiadau arweiniad hyn (947kb).

Sylwch os llenwoch ffurflen PR1 cyn 18 Ebrill, roedd yna wall ar dudalen 21 (datganiadau caniatâd bwrsariaeth). Mae mwy o wybodaeth ar gael fan hyn (117kb).

Dylai myfyrwyr sydd eisoes wedi gwneud cais am gymorth ac sydd eisiau newid swm y benthyciad y gwnaethant gais amdano lenwi Ffurflen Cais am Fenthyciad (Dwyieithog) (20kb) neu dylai’r rhai sydd eisiau newid eu cais am ffïoedd dysgu lenwi Ffurflen Cais am Ffïoedd Dysgu (Dwyieithog) (18kb)

Llwytho`r canllaw i lwfansau myfyrwyr anabl mewn addysg uwch pontio`r bwlch (Dwyieithog) (1435kb)

Ffurflenni Datganiad Tystysgrif Geni/Mabwysiadu

Rhaid i chi lenwi a dychwelyd y Ffurflenni Datganiad Tystysgrif Geni/Mabwysiadu (96.6kb) os ydych yn anfon eich Tystysgrif Geni neu Fabwysiadu fel prawf o’ch hunaniaeth wrth wneud cais am gyllid i fyfyrwyr. Mae’r ffurflen hon yn cynnwys dau ddatganiad ar wahân. Rhaid i chi lofnodi’r ffurflen Datganiad o Hunaniaeth er mwyn cadarnhau eich hunaniaeth. Diben y ffurflen Cadarnhad o Hunaniaeth yw gwirio’ch hunaniaeth a rhaid iddi gael ei chwblhau gan berson ag enw da yn y gymuned sydd wedi’ch adnabod ers dwy flynedd o leiaf.

Lwfansau Myfyrwyr Anabl

Dylai myfyrwyr sydd eisiau gwneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl gwblhau ffurflen DSA1 (Dwyieithog) (1197kb) a darllen y nodiadau canllaw hyn (269kb).

Myfyrwyr Rhan-amser 07/08

Dylai myfyrwyr rhan amswer sydd eisiau gwneud cais am gymorth lenwi’r ffurflen gais PTG1 (2494kb) hon a darllen y nodiadau arweiniad hyn(948kb)

Grant Gofal Plant

Os oes myfyrwyr sydd eisiau gwneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant,
bydd arnynt angen y ffurflenni hyn:

  • Ffurflen gais am gymorth gyda chostau gofal plant CCG1 (254kb)
  • Cadarnhau taliadau gofal plant CCG2 (295 kb)

Ec efallai yr hoffech ddarllen grant gofal plant a chymorth arall i fyfyrwyr sy`n rhieni mewn addysg uwch CCGB (Dwyieithog) (935kb)

Cefnogi Myfyrwyr

Mae’n bosib y bydd angen y ffurflenni hyn ar bobl (rhieni neu bartneriaid) sy’n cefnogi myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau:

Gall fod angen y ffurflenni canlynol ar y rheiny sy’n cefnogi myfyrwyr:

  • Ffurflen Cadarnhau Budd-daliadau i fyfyrwyr amser llawn CB2 (82kb)
  • Cadarnhau Incwm CI2 (105kb)
  • Cadarnhau Enillion drwy Hunangyflogaeth GSA1 (38kb)

Darparu gwybodaeth ariannol i gefnogi cais (lle na chafodd ei darparu ar y brif ffurflen gais) ar gyfer myfyrwyr newydd PFF1 (299kb) (Dwyieithog) neu fyfyrwyr sy’n dychwelyd PFF2 (240kb) (Dwyieithog)

Newid Amgylchiadau

Os bydd eich amgylchiadau yn newid ar ôl dechrau eich cwrs, fe fydd arnoch angen un o'r ffurflenni hyn:

Ffurflen Newid Amgylchiadau ar gyfer myfyrwyr llawn amser CO1 (dwyieithog) (688kb)

Ffurflen Newid Amgylchiadau i fyfyrwyr rhan-amser CO2 (dwyieithog) (229kb)