Ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer 2021 i 2022: Ymunwch â’n rhestr bostio!


Fyddwch chi’n dechrau ar gwrs i fyfyrwyr israddedig rhan-amser neu gwrs Gradd Meistr neu Ddoethuriaeth ôl-raddedig eleni? Rydym wedi’i gwneud yn haws i chi gael gwybod pryd y bydd y cyfnod i wneud ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022 yn agor!

Drwy ymuno â’n rhestrau postio, byddwch ymhlith y cyntaf i gael gwybod pryd y gallwch wneud cais. Disgwylir y bydd y cyfnod i wneud ceisiadau’n agor yn yr haf.

Ceisiadau gan fyfyrwyr israddedig rhan-amser

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael ebost pan fydd y cyfnod yn agor i fyfyrwyr israddedig rhan-amser wneud ceisiadau.

Ymunwch â’n rhestr bostio

Ceisiadau gan fyfyrwyr Gradd Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig

Ymunwch â’n rhestr bostio er mwyn cael ebost pan fydd y cyfnod yn agor i fyfyrwyr Gradd Meistr a Doethuriaeth ôl-raddedig wneud ceisiadau.

Ymunwch â’n rhestr bostio

Rhowch wybod i’ch ffrindiau am ein rhestrau postio er mwyn iddyn nhw allu gwneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl hefyd!