Newyddion diweddaraf

 

  1. Oriau agor Gwyliau’r Nadolig 22-12-2016

    Oriau agor ein ganolfan gyswllt dros wyliau’r Nadolig fydd:

    Gwener 23 Rhagfyr 08:00 – 13:00
    Sadwrn 24 Rhagfyr Ar Gau
    Sul 25 Rhagfyr Ar Gau
    Llun 26 Rhagfyr Ar Gau
    Mawrth 27 Rhagfyr Ar Gau
    Mercher 28 Rhagfyr 08:00 – 18:00
    Iau 29 Rhagfyr 08:00 – 18:00
    Gwener 30 Rhagfyr 08:00 – 13:00
    Sadwrn 31 Rhagfyr Ar Gau
    Sul 1 Ionawr Ar Gau
    Llun 2 Ionawr Ar Gau
    Mawrth 3 Ionawr ymlaen@ dychwelyd i oriau arferol'

  2. Gwladolion yr UE a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru 11/10/2016 11-10-2016

    Mae'r datganiad canlynol yn gymwys i wladolion yr Undeb Ewropeaidd (UE) sydd ar hyn o bryd yn derbyn benthyciadau i fyfyrwyr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC), ac i’r gwladolion hynny sy’n perthyn i’r UE sy'n bwriadu dechrau astudio yn y flwyddyn academaidd 2017/18. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr)(Cymru) 2017 yn cael eu drafftio ar hyn o bryd ac, o’u pasio, byddant yn rhoi cymorth i fyfyrwyr sy’n gymwys. Bydd y rheoliadau’n gymwys i gymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys gwladolion yr UE neu aelodau o’u teulu, mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar 1 Medi 2017 neu ar ôl hynny (‘Blwyddyn Academaidd 2017/18’). Nid oes unrhyw newid i’r rheoliadau sy’n berthnasol i wladolion yr UE, neu aelodau o’u teulu, sy’n gwneud cais am le mewn prifysgol o 1 Medi 2017 i astudio cwrs sy’n denu cymorth i fyfyrwyr fel y nodir yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr)(Cymru) 2015 .

    Bydd gwladolion yr UE neu aelodau o'u teulu, sydd ar hyn o bryd mewn addysg uwch, ac sy'n cael eu hasesu yn gymwys i gael benthyciadau a/neu grantiau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, yn parhau i dderbyn grantiau a'r benthyciadau hyn nes eu bod yn gorffen eu cwrs. Mae hyn yn berthnasol i holl gyllid myfyrwyr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru y mae gwladolion yr UE yn gymwys ar ei gyfer. Mae hyn yn cynnwys grantiau a benthyciadau i dalu am ffioedd dysgu, benthyciadau a grantiau cynnal , a rhai grantiau a lwfansau eraill os yw unigolyn yn parhau i fodloni’r gofynion o ran bod yn gymwys ar gyfer pob elfen o’r cymorth sydd ar gael.

    Unwaith y bydd y cylch ceisiadau arferol yn dechrau yn 2017 bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn asesu'r ceisiadau hyn yn erbyn y meini prawf a bydd yn darparu benthyciadau a/neu grantiau yn y ffordd arferol. Bydd gwladolion yr UE, neu aelodau o'u teulu, sy'n cael eu hasesu yn gymwys i gael grantiau a benthyciadau gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn derbyn cymorth drwy gydol eu hastudiaethau ar y cwrs hwnnw os byddant yn parhau i fodloni’r gofynion o ran bod yn gymwys.

    Dylai myfyrwyr ymgynghori â Swyddfa Cyllid myfyrwyr eu prifysgol, neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, am wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

  3. Cefnogaeth ol-raddedig yn y flwyddyn academaidd (BA) 2016/17 16-09-2016

    Ym Mai 2016, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar gynigion i weithredu cynllun benthyciad ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr Cymru.

    Tra nad oedd hi’n bosib i weithredu cynllun yng Nghymru ar gyfer BA 2016/17, y bwriad yw y dylai cefnogaeth ôl-raddedig fod ar gael i fyfyrwyr Cymru o Fedi 2017. Mae hyn yn unol â’r rheoliadau priodol yn cael eu dwyn ymlaen.

    Mae rhai prifysgolion yn cynnig bwrsari ôl-raddedig yn dibynnu ar yr ardal pwnc. Mae hefyd ymddiriedolaethau addysgiadol ac elusennau a fyddai efallai yn barod i gynorthwyo drwy ffyrdd o rantiau bychain neu fenythyciadau. Mae rhestrau safonol yn y mwyafrif o lyfrgelloedd cyfeirnod cyhoeddus yn cynnwys Geiriadur Grantiau Addysgiadol.

    Gallai myfyrwyr hefyd ystyried opsiwn rhan-amser yn 2016/17 a fydd efallai gyda ffioedd gostyngedig.

    Os nad oes ariannu pellach ar gael, ac yn unol â chymhwysedd, gall Benthyciad Datblygu Gyrfa Proffesiynol (PDGP) eich helpu chi i dalu am ffioedd cwrs ac unrhyw gostau perthnasol eraill. Rhaid i’r darparwr cwrs a’r cwrs fod wedi eu rhestru ar gofrestr PDGP. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â: https://www.gov.uk/career-development-loans/overview neu drwy gysylltu â chynghorydd gyrfa ar 0800 100 900.

  4. Cael eich taliad ar amser!! Beth sydd angen i chi wybod 01-09-2016

    A oeddech chi’n gwybod bod yn rhaid i chi gofrestru yn eich prifysgol neu goleg cyn y gallwch dderbyn cyllid myfyriwr? Caiff Benthyciadau Cynnal a Grantiau Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc ar ddechrau pob tymor, gydag unrhyw Fenthyciad Ffi Dysgu a Ffi Grant yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch prifysgol neu goleg wedi i chi gofrestru.    

    Gwyliwch ein ffilm 'Cael eich Talu yn' am y camau i gael eich arian mewn amser ar gyfer dechrau eich cwrs." 

    Aros yn ddiogel!

    Yn ystod dyddiadau talu, mae twyllwyr yn aml yn targedu myfyrwyr drwy e-byst gwe-rwydo sydd wedi eu cynllunio i’ch twyllo chi i roi eich manylion personol. Rydym wedi creu ffilm ‘Gwe-rwydo’ sydd yn esbonio beth y gallwch ei wneud i gadw’n ddiogel ac yn cadarnhau na fyddwn byth yn gofyn i chi roi eich manylion banc neu wybodaeth mewngofnodi drwy e-bost.

  5. Clirio: Ffilm a rhestr chwarae ar eich cyfer! 11-08-2016

    Os yr ydych eisoes wedi gwneud cais am gyllid myfyriwr ond yr ydych wedi newid eich cwrs, neu eich prifysgol neu goleg drwy Glirio, rhaid i chi roi gwybod i ni mor gynted ag sy’n bosibl oherwydd fe allai hyn effeithio’r swm o gyllid myfyriwr y byddwch yn gallu ei gael. 

    Os nad ydych wedi gwneud cais am gyllid myfyriwr eto, mae angen i chi wneud cais nawr. Os nad ydych wedi gwneud cais am gyllid myfyriwr eto, mae angen i chi geisio nawr. Y cyntaf yn y byd y dechreuwch, y cyntaf yn y byd y dechreuwn brosesu eich cais.

    Mae ein ffilm Clirio yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud pa un ai a ydych chi wedi gwneud cais am gyllid myfyriwr neu beidio.

    Rydym hefyd wedi creu rhestr chwarae Mynd drwy Glirio?  i helpu ateb unrhyw gwestiynau eraill efallai sydd gennych am gyllid myfyriwr.

    Mae ein holl ffilmiau ar gael ar ein sianel YouTube, youtube.com/sfwfilm.

  6. Cenedlaethwyr UE a chyllid myfyrwyr yng Nghymru 07-07-2016

    Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau hysbysiad i'r wasg ynglyn â myfyrwyr UE.

  7. Ymgeisiwch am eich cyllid myfyrwyr nawr! 29-02-2016

    Ymgeisio ar gyfer y brifysgol neu goleg? Ydych chi wedi meddwl sut fyddwch chi’n talu amdano? Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yma i helpu.

    Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn wasanaeth a ddarparir gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Rydym yn darparu cymorth ariannol ar ran Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr o Gymru sy'n cychwyn ar gwrs addysg uwch yn y DU.

    Beth allaf i ei gael?

    Mae yna amrywiaeth eang o gymorth ariannol ar gael i’ch cefnogi wrth i chi astudio. Gallech gael grantiau a bwrsariaethau (nad oes rhaid i chi eu talu yn ôl) a benthyciadau (y bydd rhaid i chi eu talu yn ôl). Os ydych chi angen arian i dalu eich ffioedd dysgu, gallwch ymgeisio am Grant Ffioedd Dysgu i helpu talu cost eich cwrs. Does dim rhaid talu hyn yn ôl.

    Mae help ychwanegol hefyd ar gael i fyfyrwyr gydag anabledd, yn cynnwys cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol, neu fyfyrwyr sydd â phlant neu oedolyn dibynnol.

    Dylech wneud cais nawr er mwyn i ni allu prosesu eich cais cyn dechrau'ch cwrs.

    Y ffordd gyflymaf a hawsaf i ymgeisio am eich cyllid i fyfyrwyr yw ar-lein.

    Cyngor arbenigol am gyllid i fyfyrwyr

    Mae gan wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru amrywiaeth o offer a chanllaw cam wrth gam i’ch helpu i ddeall cyllid i fyfyrwyr – beth allwch chi gael a sut allwch chi ei gael. Mae’r rhain yn cynnwys canllawiau ar ymgeisio, ad-dalu, Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl a chanllaw i rieni.

    Gallwch hefyd wylio ein ffilmiau i gael cyngor arbenigol ar sut i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr.

    Cofiwch gofnodi ein gwefan www.studentfinancewales.co.uk i gael mynediad ar unwaith i'n hadnoddau defnyddiol.

    Hoffwch ni ar Facebook a'n dilyn ar Twitter i dderbyn diweddariadau rheolaidd.

^ Nôl i’r brig