Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru


Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
  • closio i mewn hyd at 400% heb i destun lifo oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
  • wrando ar y rhan fwyaf o'r wefan yn defnyddio darllenydd sgrin (yn cynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan

Fe wyddom nad yw rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • Efallai na fydd rhai dogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • Efallai na fydd rhai o'n ffurflenni ar-lein yn gwbl hygyrch i'r bysellfwrdd
  • Mae’n bosibl na fydd rhai o’n ffurflenni ar-lein yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr darllen sgrin
  • Wrth ddefnyddio chwyddo porwr, efallai na fydd rhywfaint o gynnwys yn dangos yn ôl y disgwyl
  • Efallai na fydd cyferbyniad addas gan rai o'r dangosyddion ffocws

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau na restrir ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: accessibility@slc.co.uk.

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel braille neu brint bras cysylltwch â alternative_format_correspondance@slc.co.uk.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n hapus gyda sut ydym wedi ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiad

Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiad ac eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Mae'r cynnwys isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiad gyda’r rheoliadau hygyrchedd

Wrth ddefnyddio chwyddo porwr efallai na fydd rhywfaint o gynnwys yn dangos yn ôl y disgwyl neu efallai na fydd digon o gyferbyniad ar y testun. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.4.10 (ail-lif), 1.4.3 (cyferbyniad) 1.4.4 (newid maint testun), 2.4.3 (trefn ffocws) a 2.4.1 (ffocws heb ei guddio).

Mae darllenwyr sgrin yn cyhoeddi bod rhai elfennau yn rhyngweithiol gyda galluoedd ehangu a chwympo ond nid oes ganddynt swyddogaeth o'r fath. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) a 4.1.2 (enw, rôl, gwerth)

Mae rhywfaint o destun cyswllt yn wahanol i'r hyn sy'n cael ei gyhoeddi gan ddarllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) a 2.5.3 (label yn yr enw).

Ar wedd symudol efallai y bydd gan rai cynnwys drefn ffocws annisgwyl. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 2.4.3 (trefn ffocws)

Nid yw'r botwm i doglo i'r Gymraeg wedi'i gyhoeddi'n iawn gan ddarllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 3.1.2 (iaith y rhannau).

Nid oes testun amgen priodol ar rai delweddau ar y wefan megis y logo ‘Ariennir gan Lywodraeth Cymru’. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd).

Mae gan rai dolenni ddefnydd amhriodol o’r nodwedd ‘teitl’ neu nid ydynt yn cyhoeddi bod y dolenni’n agor mewn tab newydd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd)

Nid yw'r strwythur pennawd ar rai tudalennau yn cyd-fynd â chyflwyniad gweledol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd)

Yn y gyfrifiannell AB, nid oes prif dirnod yn bresennol, efallai na fydd negeseuon gwall yn cael eu cyhoeddi gan ddarllenydd sgrin, efallai na fydd meysydd mewnbwn yn gysylltiedig â'u labeli neu gwestiynau. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd), 3.3.1 (adnabod gwall), 4.1.3 (negeseuon statws) a 4.1.2 (enw, rôl, gwerth).

Baich anghymesur

Dogfennau PDF o fewn y wefan hon

Mae'r dogfennau a gyhoeddir ar ein gwefan yn rhannol hygyrch a gellir eu cwblhau'n ddigidol, fodd bynnag efallai na fyddant yn gwbl hygyrch gyda'r holl dechnolegau cynorthwyol.

Rydym wedi asesu’r gost o drwsio’r problemau gyda dogfennau PDF o fewn y wefan hon a chredwn y byddai trwsio’r materion o fewn y rhain yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliad hygyrchedd.

Rydym yn canolbwyntio ar wneud dogfennau’r dyfodol mor hygyrch â phosibl a byddwn yn ailasesu hyn yn ddiweddarach yn 2024. Os oes angen copi o unrhyw un o'r dogfennau sydd ar ein gwefan ar hyn o bryd mewn fformat mwy hygyrch, cysylltwch â accessibility@slc.co.uk.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Beth ydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Disgwyliwn ddatrys y rhan fwyaf o faterion hygyrchedd erbyn Medi 2024 ac eithrio’r rhai a restrir dan faich anghymesur.

Rydym yn cymryd camau i wella hygyrchedd ein ffurflenni a dogfennau PDF, gan gynnwys cynnal hyfforddiant a phrofion pellach.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad yma ar Dydd Gwener, 12 Chwefror 2024. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar Dydd Gwener, 12 Chwefror 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Rhagfyr 2023 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA. Cynhaliwyd yr archwiliad gan UserVision gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau profi awtomataidd a llaw yn unol â Safon 2.2 AA WCAG.