Ad-dalu eich cyllid myfyrwyr


Ein canllaw i ad-dalu, ar GOV.UK, yw’r lle gorau i gael gwybodaeth am ad-dalu eich cyllid myfyrwyr. Mae’n ymdrin â phynciau pwysig megis:

  • pryd y byddwch yn dechrau ac yn gorffen ad-dalu
  • faint y byddwch yn ei ad-dalu
  • sut mae ad-dalu â thaliadau gwirfoddol
  • cael ad-daliad
  • diweddaru manylion eich cyflogaeth

Sicrhau bod eich cyfrif yn gyfredol hyd yn oed ar ôl i chi orffen astudio

Bydd angen i ni allu cysylltu â chi i ddweud wrthych:

  • os oes unrhyw beth o’i le gyda’ch cyfrif neu’ch ad-daliadau
  • os ydych yn nesáu at ad-dalu eich benthyciad. Fel arall, mae’n bosibl y byddwch yn talu mwy nag y mae angen i chi ei wneud

Mae sicrhau bod eich manylion cyswllt yn gyfredol nes bod eich benthyciad wedi’i ad-dalu yn llawn neu wedi’i ganslo yn rhan o’ch cytundeb cyllid myfyrwyr. Bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion os byddwch yn gadael y DU am fwy na 3 mis.

Cyllid myfyrwyr: y cynllun dileu rhannol

Os ydych wedi cymryd Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer myfyriwr israddedig llawn-amser ac os byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr, gallai Llywodraeth Cymru ddileu hyd at £1,500 o unrhyw falans Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer myfyriwr llawn-amser. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://llyw.cymru/cyllid-myfyrwyr-y-cynllun-dileu-rhannol

Ein canllaw i ad-dalu eich benthyciadau myfyrwyr

Gwybodaeth am ad-dalu, gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, ar GOV.UK

Ewch i Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr, ar GOV.UK