Cyllid ar gyfer Addysg Bellach

Gallwch nawr wneud cais am LCA a GDLlC AB ar-lein! Dim ond tua 30 munud y mae'n ei gymryd ar ôl i chi greu cyfrif neu fewngofnodi.

Pa fath o fyfyriwr ydych chi?

Yn parhau â’ch addysg ar ôl oedran gadael ysgol

Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer y rheiny sy’n 16 i 18 mlwydd oed, yn byw yng Nghymru, ac sydd am barhau gyda’u haddysg wedi iddynt adael oedran gadael yr ysgol. Os yr ydych yn gymwys, fe allech dderbyn £40 yr wythnos, a thelir bob pythefnos.

Yn astudio cwrs addysg bellach mewn coleg

Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach ar gyfer myfyrwyr 19 oed neu'n hŷn sy'n astudio cwrs Addysg Bellach mewn coleg. Os ydych chi'n gymwys, fe allech chi dderbyn hyd at £1,500 y flwyddyn.